24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'n cwmnïau dŵr yma yng Nghymru weithio'n galetach o lawer i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid ledled pob maes gweithredu, ac fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi ein datganiad blaenoriaethau ac…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ansawdd dŵr wedi'i ohirio tan 12 Rhagfyr. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Wel, rwy'n credu i chi wneud y peth cwbl briodol wrth drefnu i gwrdd â'r pennaeth. Yn amlwg, mae hwn yn fater i Gyngor Sir Ddinbych hefyd. Nid oes unrhyw ddatrysiad unigol, yn fy marn i, nac un grŵp nac un sector a all fynd i'r afael â'r mater…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Rydych chi'n gwbl gywir, cynllun pontio yw hwn. Y rheswm y cyflwynais i Cynefin Cymru yw am fod yn rhaid i gytundebau Glastir ddod i ben—ac roedd pawb yn gwybod y byddai'n rhaid iddyn nhw ddod i ben—ar ddiwedd y flwyddyn hon. Felly, mae hwn yn…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, dydw i ddim yn credu ei fod yn fater o amharodrwydd i helpu. Mae'r ffaith bod gennym y rhaglen cyfleusterau cymunedol, sydd wedi bod o fudd i gynifer o'n cymunedau a'n hetholaethau a'n rhanbarthau ers blynyddoedd lawer, yn dangos yn sicr fod Llywodraeth…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Darren Millar, er bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar draws y Llywodraeth ar ba waith yr ydym ni'n ei wneud mewn…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadw llygad barcud arno a bydd hi'n hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cais cyntaf ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a marchogaeth ceffylau, nid wyf yn ymwybodol y bu unrhyw ddiweddariad ar y canllawiau, ond efallai y byddai'n well petaech yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gofyn…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cais cyntaf, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad llafar cyn i ni orffen ar gyfer y Nadolig, felly yn ystod y tymor hwn. Ac ynghylch addysg plant byddar, mae'r cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu i fod yn gynhwysol i bob…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu y bydd datganiad yn cael ei gyflwyno unwaith y bydd y trafodaethau hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â'r concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth a ganfuwyd yno wedi'i gwblhau.
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae gamblo fel y cyfryw yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bryderus iawn amdano. Fel y byddwch chi'n ei werthfawrogi, mae llawer o'r pwerau ynghylch gamblo yn rai Llywodraeth y DU…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno'r mater pwysig a chymhleth hwn. Mae'r cynnig yn amserol iawn oherwydd, fel y clywsom, cyhoeddais yn ddiweddar y byddaf yn cynnal uwchgynhadledd ar y mater yr…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rhoddais ddatganiad ysgrifenedig ar y cynllun cynefin eisoes, a agorodd ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb ar 29 o fis Medi, fel gwyddoch chi. Rydym ni wedi cael 235 o geisiadau eisoes. Roedd yna broblem y gweithiodd fy swyddogion i'n gyflym iawn i'w datrys…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Rydych yn codi cwestiwn penodol iawn yma. Rwy'n credu y byddai hi'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn ei sedd, ac rwy'n credu y byddai hi'n croesawu hynny.
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Fe wnaethoch chi ddechrau eich cwestiwn chi drwy ddweud mai rhywbeth dros dro yw hwn a newid yn fuan iawn wedyn i ddweud y bydd yn rhywbeth parhaol. Nid wyf i o'r farn fod hyn yn ddryslyd cyn belled â bod yr arwyddion yn eglur iawn, iawn. Fe…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac, fel rydych chi'n dweud, mae'r wythnos hon yn nodi unfed flwyddyn ar hugain Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, ac rwy'n cydymdeimlo o waelod calon â rhieni sydd wedi colli plentyn. Fe…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Ydw, rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn enwedig o'n rhan ni yn y gogledd, mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, ac fe fydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, nid wyf yn credu bod unrhyw beth pellach y gallai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ei ychwanegu at yr ateb ysgrifenedig y mae wedi'i roi i chi yn ddiweddar.
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, fel y dywedwch chi, rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar y mater yr ydych yn ei godi. Ac rydym yn ymwybodol bod yr amhariad presennol i'r cyflenwad i feddyginiaethau ADHD yn beth dros dro, a disgwylir iddo gael…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Nid wyf wedi newid fy safbwynt o'r wythnos diwethaf. Dydw i ddim yn bychanu'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg, ac rwy'n siŵr bod y llyfrgell yn sicr yn edrych i mewn i hyn yn ofalus iawn. Nid wyf yn credu ei fod yn briodol ar gyfer datganiad llafar na…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, fel y gwnaethoch chi gyfeirio atoch eich hun, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn aml o ran darpariaeth deintyddiaeth ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda…
10 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadleuon plaid leiafrifol yfory. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â hynny. Credaf ei bod yn deg dweud fy mod wedi lobïo’n gryf iawn i sicrhau ein bod yn cael ysgol feddygol gogledd Cymru, ac rydym yn dechrau gweld—wel, yn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda chyd-aelodau o'r Cabinet, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd yn y gogledd. Fodd bynnag, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi…