6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rydym ni'n sicr wedi gweld clinigwyr sydd wedi ymddeol, a gwirfoddolwyr a nyrsys hefyd, yn ein helpu ni gyda'r rhaglen anhygoel i gyflwyno brechlynnau yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gall byrddau iechyd ei ystyried wrth i ni ddod…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Mae Alun Davies yn codi pwynt pwysig iawn yr wyf i'n siŵr ein bod ni i gyd yn ei adnabod o'n bagiau post fel Aelod o'r Senedd. Disgwylir i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r pwyllgor ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru a'r…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae adrannau gofal sylfaenol a chleifion allanol ledled Cymru wedi mabwysiadu mesurau newydd i ddiogelu staff a chleifion. Maen nhw'n cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau i gleifion gael defnyddio gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg ddigidol a thrwy…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn sicr yn codi rhai ystadegau trist iawn yn ei gyfraniad. Nid wyf yn hollol siŵr a yw'r ffordd yr ydych chi'n cyfeirio ati yn rhan o'r cynllun A40 hwnnw, ond, yn amlwg, mae hwnnw ar y gweill. Byddwch yn ymwybodol o'r adolygiad y mae'r Dirprwy…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn sicr, mae fy mhapurau briffio yn dweud bod cloddwyr ar lawr gwlad—ymrwymodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd i'r contract ganol fis diwethaf—ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r lleoliad penodol.
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n gwella'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Chroes Redstone. Mae'r contractwr wedi dechrau ar y safle, gan wneud gwaith arolygu ecolegol ac ymchwilio tir paratoadol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, rydym ni hefyd wedi darparu dros £5.5 miliwn i Gyngor…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth ddiwydiannol eithriadol sydd gennym ni yn ein rhan ni o'r gogledd-ddwyrain ac ar draws y gogledd i gyd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod swyddogion Cadw wedi bod yn rhan allweddol o'r grŵp sydd…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt pwysig iawn, oherwydd rydym ni eisiau i bobl hunanynysu, onid ydym ni, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu eu cynorthwyo cystal ag y gallwn. Yn amlwg, mae busnesau'r gogledd wedi cael swm sylweddol o gyllid, yn enwedig…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am gydbwysedd. Dylwn i ddweud bod y parc cenedlaethol newydd ym maniffesto'r Blaid Lafur y cawsom ni ein hethol ar ei sail ym mis Mai. Mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n siŵr y bydd Llyr yn cytuno â hyn, yn sicr ar…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Cyhoeddwyd ein cynllun adfer twristiaeth, 'Dewch i Lunio'r Dyfodol', yn gynharach eleni. Mae'r cynllun yn amlinellu dull o weithio mewn partneriaeth i ailadeiladu dyfodol cadarn i'n heconomi ymwelwyr. Bydd pecynnau cymorth ariannol a dychwelyd at…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf yn ymwybodol o'r llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato. Rwy'n tybio ei fod wedi ei gyfeirio at y Prif Weinidog a bydd y Prif Weinidog yn amlwg yn ymateb i hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod y GIG yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed drwy…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y dywedais, nid wyf i'n credu y gallaf i ddweud unrhyw beth arall. Fe'i gwnaed yn eglur iawn gan y Prif Weinidog ei fod yn credu mai ymchwiliad y DU gyfan sydd orau, ar gyfer y rhyngddibyniaethau yr wyf i newydd eu hesbonio. Nid wyf i'n credu y gallwch…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod angen cynnal yr ymchwiliad yn weddol fuan. Nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu; rwy'n siŵr y bydd y sylw yn gadarn iawn ar bob un o'r pedair gwlad. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i ychwanegu unrhyw beth o ran barn y Prif Weinidog at yr…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddai'n disgwyl i rai penodau o'r ymchwiliad hwnnw, yn amlwg, ganolbwyntio yn benodol ar Gymru. Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud—ni allwch chi ei…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na, wnaf i ddim. Fe fyddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud droeon—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn ei atebion i chi yn y Siambr wedi dweud hyn—ei fod wedi cytuno i ymchwiliad pedair gwlad y DU. Mae wedi cael trafodaethau gydag uwch…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud, yn amlwg, yw bod llawer gormod o bobl wedi marw o bandemig COVID-19, a bod llawer gormod o deuluoedd a ffrindiau yn galaru ar hyn o bryd. Rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, yn amlwg, fel y mae'r…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n cytuno â Siân Gwenllian. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi ein holl bobl ifanc, ac mae ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i blant tair a phedair oed y mae eu rhieni yn gweithio, er enghraifft, am 48…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn amlwg, ni allaf i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, ond bydd y Gweinidog perthnasol yn y Siambr, naill ai yn gorfforol neu'n rhithwir, ac yn clywed eich cais. Mae gordewdra a mynd i'r afael â gordewdra yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd o…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rydym ni'n cydnabod efallai y bydd rhieni—ac mae hynny yn cynnwys unig rieni, wrth gwrs—a'u plant angen cymorth ychwanegol yn dilyn pandemig y coronafeirws. Gall y math o gymorth sydd ei angen amrywio, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd angen…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cynorthwyo teuluoedd gyda chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer un system o addysg a gofal yn ystod plentyndod cynnar. Rydym ni wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant, ac i…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Clywsoch fy ateb i Natasha Asghar ynghylch cyllid rhaglen ReAct ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol. Mae hwnnw wedi rhoi'r sgiliau i unigolion di-waith y mae cyflogwyr sy'n recriwtio yn chwilio amdanynt. Mae'n swydd fedrus iawn, fel y dywedwch, ac…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, unwaith eto, mae hwnnw yn fater pwysig iawn, ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru—ac fe fyddwch yn ymwybodol bod llawer o'r materion a godwyd gennych chi yn eich cwestiwn wedi eu cadw i Lywodraeth y DU—gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni, er enghraifft…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Joyce Watson yn codi pwynt pwysig iawn, ac, yn sicr yn fy mhortffolio i, cyflwynais lawer o sylwadau i Lywodraeth y DU yn nhymor blaenorol y Llywodraeth—cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA. Yn amlwg, mae nifer o resymau cymhleth…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym yn hynod bryderus o glywed yr adroddiadau am brinder sgiliau eang ar draws y sector logisteg, yn enwedig gyrwyr, a'r effeithiau canlyniadol y gallai hyn eu cael ar gadwyni cyflenwi hanfodol, gan gynnwys bwyd. Rydym ni'n gweithio yn agos gydag Adran yr…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod fod awdurdodau lleol wedi gweithio'n eithriadol o galed ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond cyn y pandemig. Ac maent wedi camu ymlaen i'n helpu ni gyda'n profi, olrhain…