15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae dwyn anifeiliaid anwes yn amlwg yn weithred droseddol, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, fel y dywedwch, o dan Ddeddf Dwyn 1968. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r tasglu dwyn anifeiliaid anwes a gyflwynwyd gan DEFRA, felly mae fy swyddogion wedi bod…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn. Wel, roeddwn innau'n sicr yn falch iawn o weld y rheoliadau a basiwyd ar 23 Mawrth, ac yna—. Yn amlwg, cawsom gyfnod pontio o chwe mis i sicrhau bod perchnogion siopau anifeiliaid anwes, er enghraifft, yn gallu ystyried model gweithredu…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio. Mae sawl ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mwriad i gyhoeddi cynllun lles anifeiliaid i…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Llywydd, bydd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am yr adolygiad o ffyrdd.
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n ymwybodol o ddiddordeb y wasg yr ydych chi'n cyfeirio ato ac o sylwadau'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae cryn dipyn o waith yn digwydd o ran parthau aer glân, ac, yn amlwg, mae'r A470 yn un o'r ardaloedd hynny. Fe gynhaliwyd rhai arolygon…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n gwybod bod swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni yr ydych chi'n cyfeirio ato. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arall y gall Gweinidog yr Economi ei ychwanegu at ei ddatganiad ysgrifenedig ar hyn o bryd.
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Nid wyf i wedi gwneud y daith gerdded trwy dwnnel y Rhondda, ond mae'n sicr yn rhywbeth—mae Buffy wedi gadael y Siambr nawr—y mae Buffy Williams a minnau wedi ei drafod. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gymorth penodol y mae modd ei roi, ond byddaf i'n…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Nid wyf i'n credu y byddai hynny'n briodol ar gyfer datganiad llafar. Yn amlwg, fe wnaethoch chi eich hun ddweud, yn yr ateb i'ch cwestiwn ysgrifenedig, fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn glir bod rhagor o gwestiynau i'w…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch darpariaeth ddeintyddol, rydych chi'n sôn am ardaloedd penodol iawn yn eich rhanbarth chi, felly gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ysgrifennu atoch chi ynghylch hynny—rwy'n credu mai Llandrindod a…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Unwaith eto, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda'r GIG a gyda'r heddlu a sefydliadau eraill hefyd i geisio deall anghenion unigolion ar y pwynt hwnnw o argyfwng y gwnaethoch chi…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwerthfawrogi ein gofalwyr ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae COVID-19 wedi rhoi pwysau arall ar bobl sy'n gofalu am aelodau eu teulu neu eu cylch ffrindiau…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Byddwn i'n rhybuddio'r Aelod. Rydych chi'n dyfynnu, ac rwyf i am eich dyfynnu chi nawr, 'Mae'r holl ambiwlansys yn treulio eu hamser yn eistedd y tu allan i ysbytai.' Nid yw hynny'n wir o gwbl—[Torri ar draws.]—ac rwy'n credu y dylech chi fod yn ofalus iawn…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn y gwnaethoch ei ddweud ynghylch cladin a'r mater sydd newydd gael ei godi gyda mi. A phan roddais i fy ateb, fe wnes i feddwl, wrth i mi ddweud y gair 'hydref', roeddwn i'n meddwl, 'Wel, gallai hynny fod yn sawl mis.' Ac…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich rhan gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n wych gweld aelodau o'r cyhoedd yn ôl yn yr oriel gyhoeddus, ond mae hi bob amser yn dda iawn gweld plant a phobl ifanc yn yr oriel gyhoeddus. Ac fel yr ydych chi wedi ei ddweud, yn amlwg, mae'n Wythnos y…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel yr ydych chi eich hun wedi ei ddweud, mae adolygiad ar hyn o bryd o wasanaeth ambiwlans Cymru. Rwy'n credu y byddai'n ffôl iawn achub y blaen ar unrhyw ganlyniad i hynny, ond rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf priodol, y bydd y…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi ychwanegu tri datganiad at yr agenda heddiw, datganiad ar Afghanistan gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa COVID-19 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud mewn ateb cynharach i Janet Finch-Saunders ein bod ni'n gwybod—rydym ni'n ymwybodol iawn o brinder gweithwyr yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y sefyllfa ar ei mwyaf difrifol o ran logisteg; fe wyddom fod gennym…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddwyn i mewn yn hwyr iawn i'r parti gan Lywodraeth y DU o ran y seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn y De-orllewin. Mae Gweinidog yr Economi'n arwain ar y…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rydym ni'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dod â'r taliad wythnosol credyd cynhwysol ychwanegol o £20 i ben o ddiwedd mis Medi. Does dim dwywaith y bydd yn effeithio ar rai o'n cartrefi tlotaf yng Nghymru, sydd eisoes yn cael…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'n debyg ei bod braidd yn rhy gynnar i gyflwyno datganiad arall; fel y dywedwch, cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ac, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod ei bod hi'n ystyried yr holl argymhellion a'r canfyddiadau yn yr adroddiad…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol ledled Cymru ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl, ac, yn benodol, iechyd meddwl plant. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc, er gwaethaf y pandemig. Fe fyddwch chi'n…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i Jane Dodds am y pwynt hwnnw. Mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon yn £6.825 miliwn. Mae hynny'n cynnwys cyllid byrhoedlog ychwanegol o £1.575 miliwn, ac mae hynny…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, rwy'n sicr yn llongyfarch Prosiect Datblygu Cymunedol Llanharan ar eu pumed pen-blwydd ar hugain. Nid ar chwarae bach y mae cyflawni hynny, ac mae prosiectau fel hyn yn darparu cymaint o gyfleoedd yn ein cymunedau ni i blant a phobl ifanc a'u…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod fod y sector lletygarwch, a'r sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd, yn cynnig gyrfa ddeniadol iawn i lawer o bobl. Un o'r rhesymau mwyaf yr ydym ni'n gweld prinder yn y sector hwn—oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran y mater sy'n ymwneud â phensiynau glowyr, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog perthnasol yn cyflwyno sylwadau i Weinidog Llywodraeth y DU, oherwydd nid wyf yn credu y gall hynny aros tan y tymor nesaf. Ac o ran twnnel y Rhondda, mae'n amser maith…