28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Does gen i ddim newidiadau i'w cyhoeddi i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021
Yn ffurfiol.
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle: nid ymwneud â chynhyrchu bwyd yn unig y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud ag adeiledd cymdeithasol. Pan euthum i allan i Seland Newydd i weld sut yr oedden nhw wedi ymdopi ar ôl iddyn…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, pa mor gydgysylltiedig yw ein cadwyn bwyd-amaeth ni dros y—? Wel, fe welsom ni hyn yn y gorffennol, ond yn sicr rwy'n credu ei fod wedi dod yn amlwg iawn dros yr wythnosau…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch i chi, a diolch i chi hefyd am eich geiriau chi o gefnogaeth. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'n ffermwyr ni. Yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w sicrhau yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yn rhywbeth ymarferol. Felly…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n mynegi fy marn i am y gair 'gweithgar'. Roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael hynny yn y datganiad, a'i bod hi'n bwysig iawn mai ein ffermwyr gweithgar ni sy'n cael eu gwobrwyo am eu…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae Huw Irranca-Davies yn dal ati i gynnig ei gwpanaid o de a'i gacen i mi bob wythnos. Byddwn, fe fyddwn i'n hapus iawn i ddod i ymweld, yn sicr. Fe gefais i rai ymweliadau ardderchog â ffermydd dros yr haf ac, fel rydych chi'n dweud, mae pawb yn awyddus…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch, Cefin Campbell, ac am eich geiriau o groeso i'r datganiad. Fe ddywedais i y byddem ni'n parhau â'r Cynllun Taliad Sylfaenol tan ddiwedd 2023. Nid oeddwn i'n dweud mai dyna fyddai'r diwedd; yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei fynegi oedd rhywfaint o…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch, a diolch i chi am eich geiriau adeiladol o ran y datganiad, ac mae'n ddrwg gennyf i na allwn i fod wedi dweud wrthych chi'r wythnos diwethaf, ond rwy'n siŵr eich bod chi'n deall, yn amlwg, fod yn rhaid i bethau fagu stêm cyn datganiad heddiw. Ond…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Diolch, Llywydd. Fel y mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ei nodi, mae mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n llunio system newydd o gymorth i ffermwyr ar gyfer gwneud yn fawr o rym amddiffynnol natur…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Er fy mod i'n flin iawn wrth gwrs o glywed bod yn rhaid i rywun aros naw awr—rwy'n tybio mai am ambiwlans ydoedd; rwy'n tybio mai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ond byddwch chi'n derbyn bod ein gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n credu y dylem ni dalu…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ynghylch y saga yr ydym ni'n sicr wedi'i gweld yn datblygu. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi'i weld gan Lywodraeth y DU yw ddiffyg cynllunio hirdymor llwyr; maen nhw'n dda iawn am sloganau tymor byr, ond nid ydyn nhw'n…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Felly, rydym ni'n cwblhau yr amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau i wneud y pas COVID yn orfodol i'w ddefnyddio mewn rhai lleoliadau yng Nghymru o 11 Hydref ymlaen. Felly, yn sicr bydd cyfle.
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Fel y gwyddoch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru'r pecyn cymorth mwyaf hael i'n busnesau yn ystod pandemig COVID-19. Roedd gennym ni'r gronfa cadernid economaidd unigryw. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, a byddwn i'n eich cynghori chi…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle, yr oedden nhw'n sicr yn olygfeydd brawychus, a gwn i fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, ac wedi gweithio'n benodol ar cydlyniant…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, yn sicr, rwy'n hapus iawn i ddymuno pen-blwydd hapus iddyn nhw. Fel y gwyddoch chi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i sector dur cadarn a chynaliadwy iawn, ac mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol bod Gweinidog yr Economi, yn ei gysylltiad…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, yn anffodus, dioddefodd yr ardal yr ydych chi'n cyfeirio ati lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn pandemig COVID-19, ac rwy'n ymwybodol o lawer iawn o waith sydd wedi'i wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol. Fe wnaf i…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Gweinidog addysg yn gweithio'n agos iawn gyda'n hysgolion a'n penaethiaid. Mae Llywodraeth Cymru, pan fyddwn ni'n cyflwyno unrhyw bolisi neu ganllawiau, yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Os bydd hynny'n…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Yn sicr, roedd yn ymddangos yn weithred ddi-synnwyr iawn o fandaliaeth ac rwy'n credu ei bod wedi dychryn ac wedi achosi tristwch mawr i lawer o'r cymunedau lleol yn yr ardal. Fel y dywedwch chi, mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni fod…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae'r Aelod yn anghywir. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru noddi'r ffair fasnach y gwnaethoch chi gyfeirio ati.FootnoteLink
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; ni ddylai'r gwerthfawrogiad sydd gennym ni am ein cyn-filwyr byth gael ei anghofio. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'n cyn-filwyr. Mae'r…
21 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i'w cyhoeddi i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydym bob amser wedi edrych ar y clefyd hwn yn gyfannol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr. Mae'n glefyd ofnadwy ac nid wyf yn bychanu'r effaith emosiynol y mae'n ei chael. Ac fel y dywedwch, mae'n cael effaith ariannol…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Derbyniodd ffermwyr yn sir Benfro dros £17 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hanfodol. Fel y clywsoch o'r blaen, roeddwn yn falch iawn o…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae'r gacen a'r te bob amser yn dda ar ymweliadau fferm yn ôl yr hyn a welais, ac yn sicr byddwn yn hapus iawn i ymweld, os hoffent fy ngwahodd, Huw. Mae ffermydd bach a chanolig yn chwarae rhan gwbl sylfaenol yng ngallu cynifer o'n cymunedau gwledig i…