13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mewn perthynas â'r cwestiwn olaf, ynghylch cyfarfod â chi i drafod Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—hi sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n sicr yn cytuno â'r ddau ddatganiad a wnaethoch. Ni fyddwn byth yn dweud bod yr holl lygredd yn cael ei achosi gan arferion amaethyddol. Daw llygredd o sawl ffynhonnell, a byddwn yn dweud bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn malio am yr amgylchedd…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae gennym bryderon ynghylch Afon Gwy ar hyn o bryd. Rydych yn gofyn a fyddwn yn gweld gwelliant yn ein hafonydd. Rwyf eisiau gweld gwelliant ar y raddfa a welsom gyda'n dyfroedd ymdrochi, er enghraifft, lle rydym wedi…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae llygredd o unrhyw fath yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef er budd ein hamgylchedd a'n cymunedau. Ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a daeth mesurau…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae hwn yn amlwg yn rhywbeth a drafodais droeon gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chyda Llywodraeth y DU yn gyffredinol, yn sicr pan oeddem yn nesáu at gyfnod pontio'r UE. Weithiau, ateb Llywodraeth y DU oedd, 'Fe…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydym yn sicr wedi cynyddu nifer y swyddogion gorfodi morol sydd gennym fel Llywodraeth, ac yng ngogledd Cymru, mae wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd. Mae nifer yr arolygiadau ar y tir wedi cynyddu'n sylweddol. Eleni yn unig, hyd at…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro, a lle bo angen, yn gorfodi cydymffurfiaeth â rheoliadau pysgodfeydd drwy amrywiaeth o weithgareddau sicrhau ansawdd ac arolygu. Mae'r rhain yn cynnwys patrolau, gwyliadwriaeth ac arolygiadau ar y tir ac ar y môr, ac…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Credaf mai dyna'r cwestiwn pwysicaf o'ch tri chwestiwn, ac mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr ac arbennig ynddo ers i mi ymgymryd â'r portffolio hwn. Oherwydd, er bod y sector amaethyddol a chymunedau ffermio yn rhai o'r grwpiau…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n cytuno'n llwyr; mae'r clafr yn glefyd cymhleth ac anodd iawn. Nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater i'r diwydiant gyda'i gilydd. Yn sicr, buom yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Yn anffodus…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydych yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ynghylch pris gwlân. Rwy'n ceisio meddwl—rwy'n credu mai ar ddiwedd tymor y Llywodraeth ddiwethaf y gwelsom y prisiau gwlân yn gostwng o ddifrif a chefais gyfarfodydd gydag awdurdod gwlân Prydain i geisio gweld beth y…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a hyd nes y bydd awdurdodau lleol yn gofyn—. Ac rwyf wedi bod yn Weinidog llywodraeth leol ac ni chefais erioed gais i edrych ar y fformiwla, oherwydd fe wyddant, os oes…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, gallai fod ateb byr, a'r ateb byr yw 'na', ond rwyf am fod yn garedig a cheisio ymateb mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol gyda chi. Rydych chi'n dewis a dethol. Fe gyfeirioch chi at awdurdodau lleol, er enghraifft. Fe wyddoch sut y caiff awdurdodau lleol…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, mae Darren Millar yn gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n Aelod o ogledd-ddwyrain Cymru ac ni fyddwn byth yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r ffaith bod gennym Weinidog gogledd Cymru a hynny ers nifer sylweddol o flynyddoedd, gydag is-bwyllgor Cabinet…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyflwyno adolygiad ffyrdd. Nid yw wedi adrodd eto, ond yn amlwg, pan fydd yn adrodd, gallwn weld pa gynlluniau fydd yn parhau a gallwn edrych ar y materion ariannu bryd hynny.
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rydym yn amlwg yn cydnabod manteision clir iawn caffael cynnyrch lleol o safbwynt gwahanol ystyriaethau, ac mae hynny'n cynnwys milltiroedd bwyd, a fyddai, yn amlwg, yn rhan bwysig o'ch cwestiwn. Hefyd, os ydych yn defnyddio cynnyrch lleol, credaf fod…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi economi sylfaenol, gyda bwyd yn rhan annatod ohono. Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau yn cael trafodaethau rheolaidd ar y cysylltiadau rhwng ein portffolios a chaffael cynnyrch lleol yn ehangach. Awdurdodau lleol ac…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, yn sicr gyda'r rhan hon o'r portffolio; byddwn yn dychmygu y byddai hynny bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r grwpiau…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, a gallaf dawelu meddwl Joyce Watson fod treillio am gregyn bylchog yn cael ei reoleiddio'n llym yn nyfroedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys drwy gyfyngiadau gofodol hefyd. Rydym yn monitro'r gweithgaredd yn ofalus. Rydym yn rhoi camau gorfodi ar waith…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Da iawn chi ar gael eich penodi'n hyrwyddwr y morlo llwyd. Dylech gael cystadleuaeth gyda'ch cyd-Aelod, Darren Millar, i weld sawl gwaith y gallwch ddweud yn y Siambr pa rywogaeth yr ydych yn hyrwyddwr arni. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei bod wedi bod yn hyfryd…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rydym yn gweithio ar draws y portffolios i ddatblygu'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd i nodi polisïau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy er mwyn cyflawni'r amcanion pysgodfeydd. Bydd hyn…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu, tra fy mod i wedi bod ar fy nhraed, fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar droseddau casineb. Ond rydym ni wedi bod yn glir iawn nad yw'r drefn troseddau casineb bresennol sydd gennym ni yn addas…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi’n gwneud pwynt pwysig iawn am y rhan y mae camlesi'n ei chwarae, yn sicr o ran bioamrywiaeth, a byddwch chi'n ymwybodol ei bod yn COP15 yr wythnos hon, sydd yn tynnu sylw yn wirioneddol at fioamrywiaeth. Rydym ni yn gwneud…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rydym ni'n bryderus iawn, fel Llywodraeth, am leihau gwasanaethau bancio ledled Cymru. Rydym ni wedi gweld nifer cynyddol o fanciau yn cau ledled y wlad. Felly, rydym ni yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad, ar Lywodraeth y DU ac ar y sector bancio, i…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, cafodd y datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi ddoe, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddiogelwch tipiau glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar y darn hwn o waith—gwaith…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Oeddwn, roeddwn i yn falch iawn o weld bod fy etholaeth i yn Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU. Rwy'n credu y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru, byddwn…