27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryder, ac mae'r ystadegau a gyflwynoch chi yn sicr yn peri pryder mawr. Yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth, cyfarfûm â'r cyn Weinidog addysg pan oedd hi'n edrych ar y cwricwlwm newydd i weld a oedd modd…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) y DU wedi cwblhau ei daith seneddol ac mae'n aros am Gydsyniad Brenhinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau yn ein 'Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26' a bydd yn pennu ein cyfeiriad ein hunain ar…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Nid oes cymaint o amser â hynny ers i'r polisi cynllunio gael ei ddiweddaru yma yng Nghymru; rwy'n credu i hynny ddigwydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gyflwyno proses apelio yn y ffordd y mae'r…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, nid wyf i'n credu ei bod yn rhy hir ers i ni gael datganiad am adfywio canol ein trefi, ac mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod canol ein trefi mor fywiog ag y gallan nhw fod. Rwy'n…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n ymwybodol i chi godi hyn gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol. Rwy'n credu yr oedd tua thair blynedd yn ôl, mae'n debyg, erbyn hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu pob math o ddadl ar faterion polisi cyhoeddus yng Nghymru. Ond, fel y dywedwch chi, fel…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu bod yr ail bwynt y gwnaethoch chi ei godi, ynghylch yr etholiadau llywodraeth leol a chynghorau cymuned sydd gennym ni yng Nghymru yr wythnos nesaf, yn un pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn gweld cynifer o seddi'n mynd heb…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu o ran gwarchod a sicrhau bod y gylfinir yn goroesi. Roeddwn i'n ffodus iawn o fod ar fferm dair wythnos yn ôl, mae'n siŵr, lle y clywais i un, felly mae'r gwaith yr ydym ni wedi…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'n braf iawn clywed am y digwyddiad yr oeddech chi'n bresennol ynddo ddoe a'r blodau haul. Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu llawer iawn gan ein hosbisau, nid yn unig yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati o ran profiad cleifion, ond hefyd o ran…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran yr ail ddatganiad yr ydych chi'n gofyn amdano, ynghylch diogelwch adeiladau, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r ardoll diogelwch adeiladau ar sail Lloegr yn unig, er…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni'n gweld y cynnydd hwn yng nghostau tanwydd, a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Gwn fod y Gweinidog addysg a'r Gweinidog llywodraeth…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r corff gwarchod llais y dinesydd, hyd y gwn i—ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr i glywed eich cwestiwn—nid oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch ble y bydd yn cael ei leoli. Rwy'n…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwneud y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, rwyf i wedi tynnu'r datganiad yn ôl ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19, ac yn ail, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, byddwn ni'n trafod Rheoliadau Dyrannu…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae ffermwyr wedi gweld gostyngiad mawr i'r pris y maen nhw wedi bod yn ei gael am eu gwlân dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf i wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyn, a dweud y gwir…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n credu mai dyna'r pwynt—. Gwnaethoch chi bwynt gwahanol i Janet Finch-Saunders am ddiffyg gwybodaeth yn cael ei darparu, ac rwy'n credu os yw pobl yn deall beth sy'n digwydd, mae hynny bob amser yn helpu'r sefyllfa, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn daith anodd iawn ddoe i chi ac i lawer o bobl eraill, ac rwyf wedi siarad ag Aelodau eraill a oedd ar y trên hwnnw. Rwyf i hefyd wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac sy'n…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Mike. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am fwyd mewn ysbytai. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i bob amser yn arfer dweud bod bwyd yr un mor bwysig â meddygaeth. Mae'n bwysig iawn bod gan gleifion fwyd o ansawdd priodol, ac…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, unwaith eto, yn ystod y pandemig cafodd sylw ei dynnu ato, yr anawsterau yn rhai o'n hardaloedd gwledig yn arbennig—ac nid ardaloedd gwledig yn unig, ond ardaloedd trefol hefyd. Ond, rwy'n credu…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, ac mae'n braf iawn eich gweld chi nôl yn y Siambr. Rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu'n uniongyrchol at yr awdurdod lleol. Mae caffael yn fater pwysig, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyflawni darn mawr o…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu i chi ddweud eich bod chi eisoes wedi cyflwyno sylwadau'n uniongyrchol i'r Dirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'n amlwg bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn dibynnu ar wasanaethau post mewn…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r ddau Ddirprwy Weinidog yn amlwg yn ymwybodol o'r adroddiad neu'n gweithio drwy'r adroddiad, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf amserol, y byddan nhw'n cyflwyno rhagor o wybodaeth.
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn sicr yn gwbl anhygoel. Roeddwn i'n sgwrsio â Llyr Huws Gruffydd amdano dros ginio. Rwy'n dal i wenu. Yn fy 50 mlynedd o fynd i'r Cae Ras, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddo. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran y grant ysgolion bach a gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod £2.5 miliwn wedi'i gyflwyno dros dymor blaenorol y Senedd i annog arloesi a chynyddu gweithio ysgol i ysgol. Roedd yn grant penodol iawn, ac rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o'r achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch darpariaeth gwasanaethau ledled bwrdd iechyd yn bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae pob bwrdd iechyd yn amlwg…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad ar hyn o bryd.
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynllun Cartrefi i Wcráin. Yn ail, rwyf i wedi tynnu'n ôl y…