25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Mae arolwg gan yr elusen Association of Dogs and Cats Homes ar effaith coronafeirws ar sefydliadau achub anifeiliaid yng Nghymru yn amlinellu'r pwysau cynyddol sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae fy swyddogion yn ystyried yr arolwg a pha gamau posibl y…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Nid wyf yn ymwybodol fy mod wedi gweld y llythyr hwnnw gan y tri ohonoch, ond yn sicr, ar ôl i mi ei gael, byddaf yn ystyried ei gynnwys ac yn ymateb yn unol â hynny.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Wel, fel y gwyddoch, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil bwyd Peter Fox. Mae Peter a minnau wedi cyfarfod, ac mae Peter yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam nad ydym yn cefnogi'r Bil bwyd. Credaf y gallwn wneud llawer o awgrymiadau Peter, sy'n rhai da iawn…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Nid wyf wedi cael unrhyw sgwrs benodol gyda'r Gweinidogion newid hinsawdd ynghylch ffermydd solar a lle y cânt eu gosod, ond byddaf yn sicr yn gwneud hynny, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda rhagor o wybodaeth.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Mae grŵp monitro marchnad amaethyddiaeth y DU yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu cyfraddau chwyddiant costau mewnbwn. Ar 1 Ebrill cyhoeddais becyn cymorth i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd sy'n werth dros £227 miliwn dros y tair…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Credaf ei bod yn deg dweud bod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i gyflwyno taliad cynnar o 50 y cant o gynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr yn ateb annigonol yn wyneb problem lawer iawn mwy yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn bwysig iawn, ac fe fyddwch yn…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Unwaith eto, fy mwriad yw gwneud taliadau cynnar ym mis Hydref. Er mwyn parhau i gefnogi ffermwyr, rwy'n lansio nifer o gynlluniau newydd eleni, gan barhau â'r cynllun taliad sylfaenol a Glastir hyd at ddiwedd 2023.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch, ac rwyf wedi cael yr adroddiad yr wythnos hon gan eich pwyllgor, a byddaf yn sicr yn ymateb o fewn yr amserlen. Rwyf bob amser yn meddwl ein bod wedi trin pawb mewn perthynas â'r rhaglen dileu TB—ffermwyr, rhanddeiliaid eraill, a ninnau—credaf ein bod…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Derbyniodd ffermwyr yn sir Benfro dros £18 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hanfodol i dros 850 o fusnesau yn ardal Preseli sir Benfro.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Fe roesoch chi restr eithaf hir i mi yno; ni allaf ddweud fy mod yn gwybod am bob un ohonynt. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol bod CNC, er enghraifft, wedi bod yn prynu tir hefyd, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod, onid ydym, ac yn sicr yn y trafodaethau a gefais…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Wel, eitem ar yr agenda oedd hon pan gyfarfuom fel pedair gwlad—ein grŵp rhyng-weinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig—wythnos i ddydd Llun diwethaf, rwy'n credu. Ac rydych yn llygad eich lle, Llywodraeth y DU—. Rhoddaf enghraifft…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Wel, gadewch imi dynnu sylw at eich camgymeriadau: nid ydym wedi cynnal uwchgynhadledd fwyd. Nid wyf wedi newid fy meddwl. Nid wyf wedi ffit-ffatian, fel y dywedwch chi. Ni chynhelir uwchgynhadledd fwyd yn y ffordd yr ydych chi'n ei ddymuno. Yr hyn y dywedais…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Wel, mae hynny'n hollol anghywir. Mae Llywodraeth y DU wedi rhuthro'r Bil hwn drwodd. Fe'i cyhoeddwyd heddiw. Mae'n Fil ar gyfer technoleg genetig a bridio manwl yn Lloegr yn unig. Os dywedaf wrthych—a dyma'r hyn a olygaf wrth 'nid ydych yn deall sut y mae…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Wel, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn deall o hyd beth yw bod mewn Llywodraeth. Yn ffodus, nid yw'r Cymry am i chi fod mewn Llywodraeth yma yn y Senedd. Rwyf wedi gweld ymateb i gwestiwn ysgrifenedig—credaf efallai mai Andrew R.T. Davies a'i gofynnodd—yn egluro…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Yn sicr, nid Boris ydoedd, ond Bunny. Diolch yn fawr iawn, yn gyntaf oll, am drefnu'r ymgyrch honno. Ni welais neb nad oedd yn gwenu yn ystod yr amser y buom allan yn cerdded y cŵn, ond fe wnaeth canolfan Hope Rescue bwynt difrifol iawn ynglŷn â…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Rwy'n cytuno; bûm yn ffodus iawn i ymweld â llawer o lochesau anifeiliaid a chanolfannau achub, ac mae'n drueni bod eu hangen, ond mae eu hangen, ac fel y dywedwch, mae lefel y gofal y maent yn ei roi yn rhagorol. Fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Ie, da iawn chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y negeseuon hynny ar gefnffyrdd a thraffyrdd yn parhau; maent wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol iawn hefyd. Yn ystod misoedd yr haf, fe ofynnoch chi beth y byddaf yn ei wneud—byddwn yn parhau i gefnogi'r…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu a gwaith blaenoriaethol arall drwy ystod o bolisïau i adeiladu ar ein…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Dychwelaf at yr hyn yr ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol iddo yn awr—nad yw'r rhan hon o'r setliad llywodraeth leol wedi'i neilltuo. Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cefnogi ein ffermwyr ifainc, os ydynt am edrych ar…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Yn sicr, nid oeddwn yn ei ysgubo o dan y carped yn y ffordd yr ydych yn ei awgrymu; dywedais ei fod yn ased bach ond pwysig. Fe wyddoch drwy drafodaethau a gawsom pa mor bwysig yw ffermydd awdurdodau lleol i mi. Gofynnais i Gyngor Sir Powys wneud gwaith i mi…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Diolch. Ffermydd awdurdodau lleol yw llai nag 1 y cant o dir amaethyddol yng Nghymru. Maent yn asedau bach ond pwysig a gallant gynnig mynediad i'r diwydiant. Mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd awdurdodau lleol.
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Roedd nifer o gwestiynau yno, ond rwy'n sicr yn falch o glywed bod y Prif Weinidog yn gwrando arnaf wrth i mi fwydro am Glwb Pêl-droed Wrecsam gyda'r fath sylw a'i fod mor wybodus erbyn hyn. O ran y cais i fod yn ddinas diwylliant, fel dywedodd y Prif…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n gobeithio hynny.
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Yn sicr, rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi arwain y ffordd yn llwyr. Os ydych chi'n ystyried ein Deddf rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ar y pryd yr oedd yn gwbl arloesol. Rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Nid yw'r Aelod wedi cael y sefyllfa'n hollol gywir—[Torri ar draws.]—ond wrth gwrs, rwy'n deall yn iawn fod pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin eisiau cael eu hanifeiliaid anwes yn agos. Dyna'n union yr ydym ni'n bwriadu'i wneud. Y gwahaniaeth yma…