8 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch, Mike. Felly, un o'r pethau amlwg y bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn ei wneud pan gaiff ei gweithredu yw rhoi nifer o fesurau ar waith yn erbyn achosion dialgar o droi allan o'r math yr ydych newydd ei ddisgrifio. Ar hyn o bryd, nid oes gan rentwyr…
8 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch, Mabon. Credaf imi ateb rhan sylweddol o hynny yn fy ateb i Jenny Rathbone. Rydym yn ariannu ystod eang o asiantaethau cynghori, yn fwy penodol, Shelter Cymru, i roi cyngor a chymorth i denantiaid sydd mewn sefyllfa lle y gallent fod yn cael eu troi…
8 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch, Jenny. Felly, yn amlwg, mae'n destun gofid ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond rydym mewn cyfnod digynsail. Yn benodol, mae landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ein helpu gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin, ac mae gennym nifer fawr o…
8 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Anaml iawn y gwelwn ddiwygiadau mawr o’r math y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn eu gwneud, ac yn erbyn cefndir o bwysau cwbl ddigynsail, rydym am wneud popeth a allwn i sicrhau bod landlordiaid…
8 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn cryfhau hawliau tenantiaid yn sylweddol. Gwnaed y gohiriad byr mewn ymateb i’r pwysau digynsail sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol. Mae gennym lu o fesurau ar waith i gefnogi rhentwyr, a bydd hyn yn parhau i fod yn…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru
Rwy'n gwybod; mae hynny'n iawn. Rwy’n parablu nawr, ond trof at y darn olaf, sef y darn sy'n ymwneud â charbon glas, fel y nododd Joyce Watson. Mae honno'n rôl hynod bwysig yn ein taith i gyrraedd sero net. Rydym yn cydnabod yr angen i warchod ac adfer…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru
Nid wyf yn enwog am ofni'r math yna o beth, Huw. [Chwerthin.] Felly, nid wyf yn credu fy mod am ddechrau yn awr. Yr hyn rwy'n ei olygu wrth ddweud 'dod â hwy gyda ni' yw sicrhau bod pawb yn deall goblygiadau'r hyn rydym yn ei gynnig yn iawn, ac nad ydynt yn…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru
Ni wnaf osgoi'r cyfle i wneud hynny byth, Huw, felly rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny. Gan grwydro o fy sgript am eiliad, roeddwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig y bore yma am y grid a rhwydwaith ynni Cymru, ac un o'r…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor ac yn enwedig i'r Cadeirydd am yr adolygiad a'r ffocws diweddar ar yr amgylchedd morol, gan gydnabod yn llwyr y rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, nid wyf yn un i wrthod unrhyw gynnig o goctel, Janet; gadewch imi ddechrau gyda hynny. [Chwerthin.] Yn amlwg, mae arnom angen ystod eang o fesurau i sicrhau nid yn unig ein bod yn datblygu ystod o fathau o ynni llanw: amrediad llanw, ffrwd lanw…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, diolch, Janet. Fel y dywedais yn fy ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ar 18 Mawrth 2022, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen ynni'r môr. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n ystyried pa gyllid y bydd ei angen mewn blynyddoedd i ddod i gefnogi prosiectau…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, diolch, Peter Fox, am y gyfres honno o gwestiynau, ac yn sicr, rydym yn deall yn llwyr fod mater ffosffad yn fater difrifol iawn ledled Cymru. Mae'n effeithio ar y gwaith o ddarparu ein 20,000 o gartrefi cymdeithasol, mae'n effeithio ar y gwaith o…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch am y cwestiwn, Peter Fox. Mae tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu'n gymdeithasol, ac fe'u hategir gan y lefelau…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, yn sicr, Sam, ac mae hynny'n taro'r hoelen ar ei phen, onid yw? Gan fod hyn yn ymwneud â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae hefyd yn ymwneud â newid y meddylfryd i weld hynny fel cyfle, cyfle yn economaidd, cyfle i dwristiaeth a llu o gyfleoedd i…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n bwynt da iawn, onid ydyw, gan fod pob un ohonom yn cydnabod yr her o gydbwyso'r gwaith diflas bob dydd, os mynnwch, gyda ffocws ar waith hanfodol a strategol sydd ei angen i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy'n credu imi ddweud ddoe yn un o fy…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ynghyd â’n cyngor partneriaeth, y grŵp strategaeth newid hinsawdd llywodraeth leol a’r rhwydwaith partneriaethau natur…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n drueni mawr ei bod wedi'i gohirio am amrywiaeth o resymau. Mae'n drueni mawr i'r byd, heb sôn am Gymru. Un agwedd yr hoffwn ei gweld ar y gwaith, ac mae hyn yn rhan o broses yr archwiliad dwfn hefyd, i gael cyngor ar hyn, yw sut y gallwn strwythuro’r…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rydym yn mynd i wneud hynny, yn bendant. Nid wyf am ei addo yn yr ail flwyddyn, Delyth, gan fod y mater yn nwylo'r rhaglen ddeddfwriaethol i ryw raddau. Mae gennym nifer fawr o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd, yn anffodus, ac mae'n ymwneud â beth sydd…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Joyce—rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen grid wedi'i gynllunio; mae angen grid wedi'i gynllunio ar gyfer graddfa wahanol o gysylltiad â'r grid hwnnw hefyd. Un o'r pethau yr ydym yn falch iawn ohonynt yma yng Nghymru, wrth gwrs, yw menter…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n braf iawn gweld diddordeb o'r newydd yn Wylfa a'r datblygiad yno. Rydym yn awyddus iawn i weithio—. Mae gennym ganolfan ragoriaeth gerllaw ar gyfer ynni niwclear, ac mae gennym rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd yma yng Nghymru ar gyfer hynny…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch am eich cwestiwn, Laura. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i ddatblygu system ynni lân, glyfar a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gyda chynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth ei gwraidd. Roedd strategaeth ynni Llywodraeth y DU yn gyfle a gollwyd yn…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, roeddwn yn ymwybodol fod y Gweinidog Pow wedi ymweld â’r gronfa ddŵr. Ac mewn gwirionedd, trafodais y mater gyda hi ymlaen llaw, mewn grŵp rhyngweinidogol, ond mae’n debyg ei bod wedi sôn am hynny ar y pryd. Rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws y ffin…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o ymholiadau. Ac wrth gwrs, rydym yn deall sensitifrwydd y mathau hyn o faterion i bobl Cymru yn ogystal â'r holl bobl sy’n dibynnu ar yr afonydd a’r dalgylchoedd am amrywiaeth o bethau, gan gynnwys eu dŵr yfed…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Cefin Campbell. Caiff y gwaith o reoli lefelau dŵr a gollwng dŵr o gronfa ddŵr Clywedog ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth glir a sefydledig. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy'n gyfrifol am reoli'r gollyngiadau a…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21
Ydw, wel, rydw i’n falch ei fod yn digwydd nawr, beth bynnag, Darren Millar, ac mae'n hardd iawn, rydych chi’n llygad eich lle, ac rydw i’n falch iawn i'r trigolion fod yr amddiffyniad hwnnw rhag llifogydd yn mynd rhagddo. Felly, rhan o'r cyhoeddiad rwyf i…