22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae taclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ym maes addysg. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Wrth wireddu'r weledigaeth hon, dwi…
16 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw—Yr effaith ar ysgolion a phlant
Diolch i Mike Hedges am yr awgrym hwnnw. Rydym yn adolygu ein canllawiau ar hyn o bryd, a byddaf yn sicrhau bod y pwynt hwnnw'n cael ei ystyried yn llawn yn yr adolygiad. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth yn ei gyfraniad i'r ddadl yn gynharach ar y pwnc…
16 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw—Yr effaith ar ysgolion a phlant
Yn 2019, Ddirprwy Lywydd, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud canllawiau ar wisg ysgol yn statudol i gynorthwyo cyrff llywodraethu yn well wrth iddynt wneud eu penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol o ran mynediad, fforddiadwyedd a…
16 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw—Yr effaith ar ysgolion a phlant
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig heddiw? Mae'r camau sydd wedi cael eu nodi yn rhai rydyn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd. Felly, rydyn ni'n hapus i gefnogi'r cynnig a symudwyd gan Sioned Williams yn…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Yn ffurfiol.
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
O ran y cwestiwn ynghylch darparu rheoliadau wrth graffu ar y Bil, mae'n ofynnol yma, rwy'n credu, i sicrhau bod y rheoliadau'n rhoi cyfle i randdeiliaid ymgysylltu'n llawn â'r hyn a gynigir, a hefyd i'r rheoliadau adlewyrchu'r gwelliannau a wneir i'r…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Diolch i Sioned Williams am gydnabod bod geiriad y dyletswydd o ran y Gymraeg, yn fy marn i o leiaf, yn annog y comisiwn i fod yn uchelgeisiol, ond wrth gwrs rŷn ni'n derbyn bod cyfle i edrych eto ar hwnnw.
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol a meddylgar heddiw. Byddaf yn ymdrechu i ymateb i gynifer o bwyntiau ag y gallaf, ond nid wyf yn siŵr a fyddaf yn gallu ailadrodd natur gynhwysfawr yr ymatebion y cyfeiriodd Hefin David…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod am fy ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni i gyd yn elwa ar gydweithio fel Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i sicrhau gwell canlyniadau mewn addysg, yn y…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Gan droi, Dirprwy Lywydd, at y mater pwysig hwnnw o lais y dysgwr, mae cyflwyno cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fynd i'r afael â sut y byddan nhw'n cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ar bob agwedd sy'n ymwneud â'u dysgu ac â'u…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ac i symud y cynnig, ac ar y penderfyniad ariannol. Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant, i Peredur Owen Griffiths, i Huw…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae'r Aelod yn dweud bod hyn yn rhwystredig, mae e'n rhwystredig. Mae'n sefyllfa bryderus iawn, byddwn i'n dweud. Mae pobl yn amlwg yn mynd i edrych ar argaeledd deunydd adolygu Cymraeg pan fyddan nhw'n penderfynu pa ffordd i ddewis gwneud eu prawf…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ymchwilio i'r mater hwn. Dim ond cyhoeddiadau y mae'r Driver and Vehicle Standards Agency yn eu cynhyrchu sy'n berthnasol i'w cynllun iaith. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'r deunydd ymarfer ar gael yn y Gymraeg, ond…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n gobeithio ymuno â chi yn agoriad ysgol Tirdeunaw a dweud y gwir, felly edrychaf ymlaen at y cyfle hwnnw. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol fod angen adnewyddu ac ailadeiladu nifer o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n falch fod buddsoddiad arfaethedig gwerth £150 miliwn Abertawe yn yr ystad ysgolion yn parhau i wneud cynnydd cyflym, gyda phedwar prosiect eisoes wedi'u cwblhau. Golyga hyn fod mwy na £38 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion yn Abertawe yn ystod ail…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Credaf fod gan ysgolion rôl bwysig iawn yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael, a chredaf fod y disgwyliad gorfodol ar gyfer iechyd corfforol yn y cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen yn adlewyrchu'r rôl bwysig sydd gan ysgolion i'w chwarae yn hynny. Rydym yn…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae swyddogion yn ystyried hynny yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu yn eich cwestiwn ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnewch, sef ei bod yn hanfodol fod mynediad at weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau corfforol mewn ysgolion ar gael ac yn…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi iechyd corfforol a lles holl ddysgwyr Cymru. Dyna pam fod hyrwyddo manteision gydol oes iechyd corfforol, gan gynnwys chwaraeon, yn rhan orfodol o bob cwricwlwm ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru ar gyfer dysgwyr tair i 16 oed.
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wrth gwrs, mae’r awdurdod wedi cyflwyno’r cynllun strategol addysg Gymraeg yn ddiweddar i fi er mwyn cymeradwyo. Rwy'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Mae pob awdurdod yng Nghymru wedi cael gofyniad i fod yn uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn maen nhw'n darparu o ran…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Y cyfarfod diwethaf a gefais cyn dod i'r Siambr heddiw mewn gwirionedd oedd cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn adolygu'r cynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer y sector, a…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Gan weithio gyda phartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a Mudiad Meithrin, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy ein grantiau cyfalaf, y rhaglen Sefydlu a Symud, a'n buddsoddiad yn y gweithlu. Rydym hefyd…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Ceir amrywiaeth o ymyriadau, y gweithiais arnynt gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, mewn ysgolion mewn perthynas â hyn, ac mae angen sicrhau bod y pynciau STEM yn hygyrch ac yn ddeniadol i bob myfyriwr. Weithiau mae gogwydd rhywedd o fewn y pynciau…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, fel y dywed yr Aelod, nid yw myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwrsariaeth y GIG, ond gallant gael mynediad at y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae hwnnw'n rhoi cyllid iddynt tuag at gost eu ffioedd…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ein pecyn cymorth hael i fyfyrwyr a chynllun bwrsariaeth GIG Cymru yn galluogi myfyrwyr yn y meysydd hyn, ynghyd â'n buddsoddiad sefydliadol mewn pynciau cost uchel, gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth. Rydym wedi ymrwymo i sefydlu ysgol feddygol…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Fe'i cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Sarah Murphy eiliad yn ôl mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ysgolion neu golegau yng Nghymru sy'n defnyddio'r dechnoleg fiometrig fwy newydd megis systemau…