12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy'n cytuno â'r Aelod mai'r ffordd briodol o edrych ar hyn yw ceisio dod o hyd i atebion yn hytrach na phwyntio bysedd a beio. Mae'n bwysig rhoi cyd-destun i ddangos pam y gwnaed y penderfyniad, sef y cwestiwn y gofynnwyd i mi ei ateb wedi'r cyfan. O ran yr…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Bydd Mike Hedges yn gwybod fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth, a bydd hefyd yn gwybod ein bod wedi gwneud cyhoeddiad ym mis Mawrth a oedd yn nodi bod yr estyniad tan ddiwedd mis Mai. Bydd hefyd yn gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yn werth bron i £1 biliwn yn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, yn sicr nid yw'r cyhoedd yn gweiddi arnom i roi'r gorau i fwydo plant yn yr ysgol yn ystod argyfwng costau byw, nad yw'n farn y mae'r Aelod yn ei rhannu, yn sicr, ac yn Lloegr Geidwadol nid ydynt yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau mewn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai oherwydd canlyniadau chwyddiant rheolaeth y Ceidwadwyr ar economi'r DU. Nid yw hwn yn benderfyniad y mae Llywodraeth Cymru am orfod ei wneud. Rydym yn Llywodraeth, wedi'r cyfan, sydd wedi…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Roedd y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros y gwyliau yn gymorth am gyfnod penodol a gyflwynwyd gennym yn ystod y pandemig. Oherwydd y sefyllfa ariannol hynod o anodd y mae Cymru'n ei hwynebu, ni fu modd ymestyn y ddarpariaeth hon y tu hwnt i fis Mai.
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, byddai gen i ddiddordeb mewn edrych ar y gwaith sy'n digwydd rhwng undebau credyd ac ysgolion yn eich etholaeth chi; rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad pwysig iawn o safbwynt ein pobl ifanc. Mae prosiect Robert Owen yn…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Diolch. Na, mae'n bwysig cael trafodaeth agored am y pethau yma; dyna pam mae'r adroddiad yn agored ac yn edrych ar y pethau rŷn ni'n moyn eu dathlu, wrth gwrs, ond hefyd rhai o'r heriau. Roedd cwestiynau pwysig gan yr Aelod. Jest un peth dylwn i ddweud, o…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Fe soniodd e' am yr angen am athrawon. A dweud y gwir, mae'r darlun yng Nghymru, byddwn i'n dweud, yn iachach nag ydyw mewn rhai rhannau eraill o'r DU. Dydw i ddim yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol. Felly, yn arbennig, ar lefel gynradd. Ac, ar lefel…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â—. Roedd amryw o gwestiynau yno, felly efallai mai ateb byr y byddaf yn ei roi, ond byddaf yn ceisio ateb pob un. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod cydweithio ar draws y system yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd, oherwydd mae'n…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Diolch am y cwestiynau rheini.
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ar yr argymhellion pwysig a gafodd eu gwneud gan y grŵp a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams i ystyried cyfraniadau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y cwricwlwm. Dwi’n ymfalchïo o gael dweud y bydd yr…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd
Diolch, Cadeirydd. Mewn llai na deufis, bydd pob ysgol yng Nghymru yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru. Fel yr wyf i bob amser wedi pwysleisio, bydd hi'n cymryd amser i drawsnewid addysg, ond, flwyddyn ar ôl ei gyflwyno, dylai'r darlun sy'n dod i'r amlwg roi hyder…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—'Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg'
Mae nifer o’r argymhellion i gryfhau’r trefniadau cynllunio, fel rŷn ni wedi bod yn trafod heddiw, ac dwi yn sicr yn cytuno â’r pwyslais hwnnw—dyna, ar ddiwedd y dydd, fydd yn gyrru gweithredu ar lawr gwlad, y gallu i wneud hynny, a dyna, yn y bôn, yw hanfod…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—'Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg'
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad. Mae'n adroddiad creadigol ac adeiladol iawn, felly diolch o galon i chi am eich gwaith. Mae tipyn wedi digwydd ers i chi gychwyn ar yr ymchwiliad. Mae…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae hwn yn ofyniad trawsgwricwlaidd, felly bydd wedi'i wreiddio ym mhob rhan o'r cwricwlwm, ac mae'n amlwg yn bwysig fod ysgolion yn gwneud hyn. Yn fy mhrofiad i, o leiaf—. A chyda llaw, rwy'n cydnabod y ffigurau y mae'r Aelod yn eu darparu. Yn fy…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae gwybodaeth ariannol yn hanfodol i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Oherwydd hyn, mae cyllid yn elfen orfodol o faes dysgu a phrofiad mathemateg a rhifedd, y dylai ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a ledled Cymru ei chynnwys wrth…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i’r Aelod am hynny. Mewn gwirionedd, gwnaed y cynnig i gyflwyno'r dyfarniad sengl mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Felly, y cynnig gwreiddiol oedd y dyfarniad dwbl, ac fe gafodd Cymwysterau Cymru adborth yn dweud na fyddai hynny’n diwallu anghenion yr hyn…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae’r TGAU gwyddoniaeth dyfarniad dwbl newydd wedi’i gynllunio i gael ei astudio gan dros 90 y cant o ddysgwyr Cymru o 2025 ymlaen. Gan ymateb i adborth a gawsant o’r ymgynghoriad, mae Cymwysterau Cymru hefyd yn creu dyfarniad sengl yn y pynciau gwyddonol ar…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, nid dyna'r hyn rydym eisiau ei weld o gwbl, ac ni fydd yr Aelod yn synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Mae’n flaenoriaeth i ni wneud yn siŵr fod dysgwyr yn gallu cael mynediad at ysgolion. Yn amlwg, mae’r cwestiynau y gwnaethoch eu gofyn i’r Dirprwy…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i drafod ystod o faterion trawsbortffolio, gan gynnwys teithio gan ddysgwyr. Mae uwch swyddogion addysg yn mynychu cyfarfodydd wythnosol y gronfa bontio ar gyfer bysiau i helpu i…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae'r diwygiadau sydd gyda ni—ac mae cytundeb eang taw dyma'r newidiadau cywir i'w gwneud yn y system—lai na dwy flynedd i mewn i gynllun pedair blynedd i drawsnewid pethau, felly mae newid mawr yn digwydd yn y system. Wrth roi ystyriaeth i'r gwaith mae…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Fel rhan o’n diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, bydd plant a phobl ifanc yng Nghanol De Cymru wrth galon y broses i nodi eu hanghenion unigol, cynllunio ar eu cyfer a’u diwallu. Bydd eu hanghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwarchod drwy gynllun datblygu…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn credu mai dyma'r unig ffordd o gyflwyno sgiliau meddwl beirniadol; rwy'n credu y gallwch chi gaffael y sgiliau hynny mewn disgyblaethau eraill, ac rwy'n dweud hynny fel rhywun nad oedd ganddo unrhyw…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwy'n credu mai'r ddadl sy'n sail i'r newidiadau y mae Cymwysterau Cymru wedi'u gwneud, ac a gefnogir gan gyrff dysgedig, yw y bydd y newid hwnnw'n annog mwy o bobl i ddilyn pynciau STEM ar ôl 16 oed. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig peidio â cholli…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae paratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi'r dyfodol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae gennym ystod o gynlluniau ar waith i gefnogi dysgwyr i ddewis llwybrau gyrfa STEM, gan gynnwys cynyddu cynwysoldeb STEM ar gyfer pob dysgwr a phartneriaethau rhwng…