27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn amserol hwnnw, o ystyried y pen-blwydd y mae hi'n cyfeirio ato yn briodol. Bydd lefel y cyllid sy'n cael ei neilltuo i gludiant i'r ysgol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall am resymau amlwg, ond gall fod yn…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr wedi cael ei lunio mewn ffordd sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau ynghylch cydraddoldeb y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt. Fel y dywedais, nid wyf yn rhagweld cyfle i ddiwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr ei hun, ond…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n cydweld â’r Aelod o ran blaenoriaeth i hyn, ac rwyf i wedi cael trafodaethau fy hunan â phenaethiaid mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y misoedd diwethaf sydd yn rhannu’r pryder y mae ef a minnau yn ei rannu. Mae’r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud yn…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi cael adroddiad o'r adolygiad annibynol o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a chanllawiau cysylltiedig. Rŷn ni wrthi'n ystyried yr adroddiad hwnnw, a phan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben, byddwn…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn hwnnw. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r adroddiad y gallodd Sharron Lusher ac aelodau eraill o'i grŵp llywio ei ddarparu i ni fel Llywodraeth. Mae'n adroddiad meddylgar ac ystyriol iawn, ac mae ganddo argymhellion clir iawn…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn. Mae'r gwaith yma gan Cymwysterau Cymru yn dangos cymaint o flaenoriaeth yw sicrhau addysg alwedigaethol, a'r berthynas sydd mor bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud, rhwng ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Cyhoeddais i'r adroddiad ar yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ar 11 Medi. Rwyf wrthi'n ystyried yr argymhellion, ac yn gwneud hynny ar y cyd gydag eraill, i sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws ystod o ddatblygiadau strategol. Byddaf i'n rhoi…
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol
Wel, diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Dylwn i hefyd gydnabod—gwnes i sôn am rôl Cyngor Gwynedd yn creu'r siarter iaith gyntaf, a honna sydd wrth wraidd yr holl beth. Dylwn i gydnabod yn benodol gwaith Siân Gwenllian, oedd yn amlwg iawn yn…
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol
Diolch i Sam Kurtz am y sylwadau cefnogol hynny a'r cwestiynau adeiladol hynny mae e wedi eu gofyn heddiw. Mae'n iawn i ddweud bod angen creu cyfleoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth hefyd i ysgogi pobl i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r…
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn cychwyn fy natganiad yn ffurfiol, a gaf i ddymuno Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hapus i bawb? Mae amrywiaeth ieithyddol y byd yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Yma yng Nghymru, mae’r siarter iaith yn rhaglen sy’n grymuso plant a phobl…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Diolch, Llywydd. [Chwerthin.] Diolch ichi am ystyried y rheoliadau hyn heddiw. Er nad ydym yn mynd i reoleiddio'n ffordd i ffyniant yr iaith, mae gan safonau rôl i'w chwarae. Mae rheoliadau'n caniatáu felly i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried ble mae pob cwmni…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Mae'r rheoliadau wedi'u paratoi yn benodol ar gyfer y cwmnïau dŵr. Mae'r safonau yn canolbwyntio ar y gwasanaethau mae'r cwmnïau'n eu darparu i'r cyhoedd, sydd â’r potensial i gynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rydym wedi paratoi safonau sy'n cwmpasu'r gwahanol…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac mae'n bleser cael agor y ddadl hon ar Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023, sy'n galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar gwmnïau dŵr. Mae dros 130 o gyrff eisoes yn dod o dan safonau. Bydd cynnwys cwmnïau sy'n darparu…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod ystadau ein hysgolion yng Nghymru yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu efallai nad yw ei gwestiwn ef, os caf i ddweud, yn rhoi digon o ystyriaeth i'r dewisiadau gwahanol a…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Wel, mae'n gyfle i fi ailadrodd fy niolch i'r ysgol, i'r penaethiaid a'r staff am weithio o dan bwysau amser, ond hefyd mor greadigol, i ffeindio ffyrdd o allu lleihau'r cyfnod y mae'r ysgolion wedi bod yn rhannol ar gau, ac i'r cyngor ac i Llinos Medi a'r…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Wel, rwy'n credu bod cyd-destun cwestiwn yr Aelod yn bwysig iawn. Felly, yr ateb i'w gwestiwn ef, 'A yw ein hysgolion ni'n ddiogel yng Nghymru?' yw, 'Ydynt, maen nhw.' Ac rwy'n credu y dylem ni fod yn eglur iawn nad ydym ni'n caniatáu i'r ensyniad ymwreiddio…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Diolch i Mike Hedges am hynna, ac rwy'n gwerthfawrogi'r manylion technegol y mae ef yn eu rhoi yn ei gwestiynau ef bob amser, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Fe nododd ef nifer o bwyntiau yn ei gwestiwn. Fe wŷr ef, beth bynnag, o'i brofiad ei hun, ein bod…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Diolch i Heledd am y cwestiynau pellach hynny. Gaf i jest dweud—? O ran y cwestiwn am y berthynas, y rheswm roeddwn i'n ateb llawer iawn o gwestiynau am hyn, ar ddechrau'r wythnos diwethaf, oedd oherwydd bod pobl eisiau gwybod pam oedd y penderfyniad yn cael…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Rwy'n diolch i'r Aelod am yr amrywiaeth yna o gwestiynau. Fe atebwyd llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn y datganiad a roddais i ac efallai nad oedd yr Aelod wedi gallu ei ddarllen, ond rwyf i am geisio ymgysylltu â'r pwyntiau allweddol a wnaeth hi. Rwy'n credu…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
O ganlyniad i'r newid annisgwyl gan Lywodraeth y DU i'w profiadau o RAAC mewn adeiladau yn Lloegr ac yng ngoleuni canllawiau RAAC ar sail tystiolaeth sydd newydd eu darparu, fe fuom ni'n gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol i adolygu ystadau eu hysgolion…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y defnydd o goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, neu RAAC, mewn ysgolion, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi canllawiau…
11 Medi 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn.
11 Medi 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 9
So, there's a range of ways in which the structure brings officials together. So, at the director general level, the director general for my division is also the director general for the social justice division, so it's one person that does both—it's a…
11 Medi 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 9
I'm happy to follow up on that. Thank you for that.
11 Medi 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 9
I think putting it in the context of trauma is very important, and Lynne Neagle, who leads on the mental health aspects, of course, as you know, has encouraged a number of Ministers—and I've done this myself—to undertake attachment training and…