25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Fel y credaf fod yr Aelod yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol, cyfarfûm â'r Arglwydd Mann, sef cynghorydd Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, i drafod y dull gweithredu mewn perthynas â sefydliadau addysgol. Cyfarfûm hefyd ag Undeb y Myfyrwyr Iddewig, a…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mater i brifysgolion a sefydliadau addysg bellach eu hunain yw mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, sydd, fel y gŵyr yr Aelod, yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i wneud. Fodd bynnag, er fy mod yn parchu…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wrth gwrs, mae rhyw berthynas rhwng darparu cymhellion a chynnydd mewn niferoedd—dyw e ddim yn gwbl glir, ond mae'r darlun cyffredinol yn dangos bod perthynas bositif rhwng y ddau. Byddwn i yn dweud mai dyma un o'r ffyrdd rydym ni'n annog pobl i ddod yn…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dyw'r ffigurau ddim o'm blaen i, ond byddwn i'n hapus i'w rhannu nhw â'r Aelod.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Duolingo yn un o'r ffyrdd y mae pobl yn ei defnyddio i ddod at y Gymraeg—un o'r amryw o ffyrdd, wrth gwrs—ac mae'n parhau i fod yn llwybr sydd yn atyniadol, am resymau y byddwn ni'n eu deall. Rwyf wedi ysgrifennu at Duolingo, yn gofyn iddyn nhw…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mater i'r brifysgol yw'r camau penodol maen nhw wedi eu cymryd, ond, yn sicr, rwy'n anghytuno gyda sylwadau yr athro, fel y mae llawer iawn o bobl eraill wedi'i wneud. Ond beth fyddwn i'n ei ddweud yw, am bob person sy'n barod i chwilio am ffordd o…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Gaf i ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw? Mae’n gyson gyda'r pwyslais y mae e yn ei roi, ac rwy’n ei gymeradwyo am hynny, i sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb a’n bod ni'n sicrhau croeso i bobl sydd yn ceisio dysgu a siarad y Gymraeg. Fel y mae e'n…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Aelod yn iawn: mae tegwch a chysondeb arolygiadau yn amlwg yn hanfodol i fagu hyder y cyhoedd yn system addysg Cymru. Mae'r Aelod yn amlwg yn gwybod bod Estyn yn gorff annibynnol, ond rwy'n ymwybodol fod gan Estyn ystod o brosesau ar waith i sicrhau…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Aelod yn llygad ei le ynglŷn â pha mor bwysig yw llythrennedd yn gyffredinol, ac atalnodi a gramadeg fel rhan o hynny. Mae'n gwbl hanfodol fod ein pobl ifanc yn gallu gadael yr ysgol yn hyderus yn eu llythrennedd ac yn eu defnydd o atalnodi a gramadeg…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Estyn yn darparu asesiad annibynnol blynyddol pwysig o ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y prif arolygydd wedi darparu cipolwg cynnar ar ganfyddiadau arolygu, fel y llynedd. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Gwn nad yw ef a'i blaid yn cefnogi'r polisi hwn o gwbl, ond er mwyn rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n cefnogi'r polisi, mae'r cyllid sydd wedi'i ryddhau, sef £11.5 miliwn o gyllideb o £70 miliwn, yn ymwneud â'r ffaith bod hwn yn…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n diolch i'r Aelod am gydnabod y cyd-destun o ran y pwysau ar ein gwariant ni a'r rhesymau am hynny, ac mi fyddwn i'n cytuno â'i ddadansoddiad e o'r rhesymau. O ran y toriadau, mae'r ffigur o fy adran i, wrth gwrs, yn uwch mewn termau absoliwt oherwydd…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwyf wedi diogelu gwasanaethau rheng flaen mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae gostyngiadau refeniw wedi cael eu nodi drwy adolygu cyllidebau seiliedig ar alw a chyllid heb ei ymrwymo ar draws fy mhortffolio. Er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Diolch. Mae'r ddau fater hyn yn gwbl hanfodol. Ar gwestiwn gwaharddiadau, ni allwn gytuno mwy â'r pwynt y gwnaeth Jenny Rathbone am—. Wyddoch chi, mae gwahardd yn ymateb amhriodol i'r mwyafrif helaeth o amgylchiadau, onid ydy, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Diolch i Jayne Bryant am ei sylwadau ar ran y pwyllgor. Bwriad y canllawiau yw mynd at wraidd yr union gyfres honno o heriau y mae hi'n eu disgrifio yn ei chwestiynau: sut y gall yr holl bartneriaid amrywiol sydd â rhan i'w chwarae wrth sicrhau presenoldeb…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny. Mae'r canllawiau'n newydd ond dyw'r ffocws ar absenoldeb yn sicr ddim yn newydd, ac mi fyddwn i'n cytuno gyda'r pwynt mae NEU Cymru wedi ei wneud am ba mor bwysig yw hyn. Roeddwn i yn eu cynhadledd nhw fore Sul…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Wel, mae cyfres o bwyntiau rhethregol yn fy marn i, yng nghyfraniad yr Aelod, ond lle yr oedd cwestiynau, fe geisiaf ymdrin â nhw. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol i fod â bwriad i wleidyddoli'r hyn sy'n fater cymhleth ac amlochrog. Mae'n her y mae…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Yn arwyddocaol, mae'r canllawiau bellach yn newid y diffiniad ystadegol o absenoldeb 'parhaus', sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddiffinio fel mwy nag 20 y cant. Mae'r mesur hwn yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer rhai mathau o ymyrraeth, megis…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Diolch, Llywydd. Bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod yn gweld pwysigrwydd mawr mewn gwella cyfraddau presenoldeb yn ein hysgolion ni. Rwy'n dal i bryderu, ers y pandemig, bod gormod o bobl ifanc yn colli amser amhrisiadwy yn yr ysgol. Mae hyn yn gallu effeithio…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw'n fawr. Rwy'n credu y byddai hynny'n golygu bod Cymru, unwaith eto, wedi chwarae rhan bwysig wrth greu'r rhwydwaith cyfnewid rhyngwladol hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le, serch hynny, i fyfyrio, fel y gwnaeth Alun Davies…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Diolch, Alun Davies, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu, wrth ei gwraidd, fod Taith yn llawer mwy na rhaglen cyfnewid addysg, rhaglen dechnegol; mae'n gwestiwn o werthoedd a gweledigaeth, rwy'n credu. Mae yna reswm pam, pan fydd e'n mynd a phan fyddaf i'n…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau pwysig hynny. Mae’n sicr yn wir, onid yw, mewn unrhyw gyfnod o gyni ariannol—hyd yn oed os nad yw, fel yn ein hachos ni, yn gyni dewisol, ond dyna’r sefyllfa sydd ohoni—mai un o’r pethau cyntaf sy’n syrthio i ffwrdd o’r…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiynau hynny. Nid wyf yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd i gymharu'r cynllun â chynllun Turing, oherwydd rwy'n credu bod y ddau yn bethau gwahanol yn y bôn ac, os ydych chi am wneud cymariaethau, rwy'n credu mai'r cynllun y mae…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Rwy'n gobeithio felly ei bod yn amlwg i chi i gyd o'r straeon rwyf wedi’u rhannu heddiw fod y rhaglen hon yn cael effaith ddofn ar unigolion. Mae'r teithiau yma yn newid bywydau. Rwy’n edrych ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i’r Siambr eto, a dweud mwy…
3 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu
Yn ogystal â bod o fudd i'r unigolyn, mae Taith, yn bwysig, yn hwyluso arloesedd addysgol ac yn cefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru drwy bartneriaethau llwybr 2 a'r ffrwd ariannu cydweithredu strategol, a fydd yn ailagor ar gyfer ceisiadau ddydd Iau…