8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, mae rheoleiddio yn un o'r ffyrdd, onid yw e? Mae gyda ni raglen ar y cyd i ymestyn safonau yn barod. Dylwn i ddatgan fy mod i ddim yn bancio gyda HSBC, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.] Mae pawb yn datgan eu sefyllfa bancio, so jest i fod yn glir…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, rwy'n cytuno gyda'r Aelod ar hynny ac mae ei ymrwymiad ef i dechnoleg yn y Gymraeg yn rhywbeth sydd yn hysbys ac yn glir, ac rwy’n rhannu hynny. Rŷn ni'n sôn yn aml, onid ydyn ni, mai defnydd, defnydd, defnydd yw'r ffordd rŷn ni'n mynd i sicrhau ffyniant…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwyf yn cytuno gyda hynny. Mae hefyd yn mynd yn groes i'r nod sydd gennym ni fel Llywodraeth ac sy'n cael ei rannu’n helaeth ar draws y Senedd hon bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a dylai fod gan bobl y cyfle i ddefnyddio’u hiaith wrth wneud rhywbeth mor…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod am bwysigrwydd banc cymunedol i Gymru i allu darparu anghenion cwsmeriaid yn y ddwy iaith yng Nghymru—yn wir, mewn nifer fawr o ieithoedd yng Nghymru, fel y mae'n digwydd. Rwy'n cytuno bod y llythyr yn…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Cefais i'r llythyr y bore yma. Fe gafodd bawb arall y llythyr ar yr un pryd y ces i hwnnw, felly dyna'r hysbysiad gyntaf i fi gael o'r penderfyniad gan HSBC. Mae cyrff eraill wedi—. Rŷm ni wedi cael trafodaeth yn ddiweddar yn y Siambr ynglŷn â Duolingo, onid…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pellach hynny. Mae hi'n gwybod nad oes modd gosod safonau'r Gymraeg ar fanciau—dydyn nhw ddim wedi cael eu rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel sector. Mae hi hefyd yn gwybod bod rhaglen waith wedi'i chytuno gyda Phlaid…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae hyn yn siomedig iawn. Mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth glir imi, ac rwy’n gwybod i’r Aelod hefyd, o’r cychwyn cyntaf. Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac rwy’n deall y bydd y comisiynydd yn…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Does neb wedi rhoi'r cynnig hwnnw i fi. Mae trafodaethau, wrth gwrs, yn digwydd yn sgil y comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil ar sut y gall darparwyr o fewn y sector ôl-16 gydweithio yn well gyda'i gilydd mewn amryw o ffyrdd. Felly, mae hynny'n rhan o'r…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dros fisoedd yr haf, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chadeiryddion ac arweinwyr sefydliadau addysg uwch, a gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, am sefydlogrwydd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae swyddogion a Gweinidogion yn parhau i gael…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n rhannu'r farn honno gydag ychydig o wyleidd-dra, o ystyried ei chefndir proffesiynol a'i gwybodaeth bersonol am hyn. Ond credaf fod yr hawl i ddysgu proffesiynol, sydd ychydig dros flwydd oed erbyn hyn, eisoes yn chwarae rhan bwysig ar y daith honno i…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae sicrhau addysgu o ansawdd uchel drwy ddysgu proffesiynol gydol gyrfa yn rhan annatod o'n gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais broses gymeradwyo genedlaethol newydd i sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu proffesiynol ar gyfer y…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwy'n cydnabod, yn sicr yn y gorffennol, fod yr heriau y mae'r Aelod wedi'u mynegi heddiw wedi bod yn real iawn. Ond rwy'n teimlo bod y llanw'n troi. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod bod gweithgor o Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru, a…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae dysgu am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae cyfleoedd o fewn y cwricwlwm i ysgolion gynnwys dysgu am lythrennedd cefnforol, cynaliadwyedd ac effaith gweithredoedd dynol ar yr amgylchedd yn eu cwricwlwm.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe fydd, rwy'n siŵr, wedi darllen adroddiad Hefin David mewn perthynas â phontio o addysg i gyflogaeth, ar thema debyg iawn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhannu'r farn honno ac rwy'n teimlo'n gryf iawn am hynny…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Cyfrifoldeb polisi Gweinidog yr Economi yw prentisiaethau lefel uwch, fel pob prentisiaeth arall, ond rydym yn gweithio'n agos ar draws y meysydd portffolio wrth gwrs. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd yn y nifer a ddechreuodd ym mlynyddoedd…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, llongyfarchiadau i Wibli Wobli, ac rwy'n falch o'u clywed yn cael eu cydnabod yn y Siambr hefyd. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y rhai sy'n dymuno gallu ymarfer a darparu gwasanaethau pwysig drwy…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwy'n siŵr y byddant wrth eu bodd gyda'r ffaith eich bod wedi rhoi sylw i hynny yn y Siambr heddiw—y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i'ch ysgol leol—ac rwy'n hapus iawn i gefnogi a rhannu hynny. Llongyfarchiadau iddynt.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, byddai gennyf ddiddordeb mewn darllen yr adroddiad. Rwy'n rhannu, wrth gwrs, y flaenoriaeth y mae'r Aelod yn ei gosod ar bwysigrwydd hyn, am resymau y byddem ni'n eu rhannu ar y cyd, o ran ein huchelgais at yr iaith a hefyd ddarpariaeth i’n plant a’n…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ein cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' yn amlinellu ein hymrwymiad i ehangu darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'r Mudiad Meithrin a phartneriaid eraill i dyfu'r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg, gan fuddsoddi yn y…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu dyfynnu o'r adroddiad. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig dweud, mewn ymateb i'r pwyntiau y mae wedi'u gwneud ac y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u gwneud, fod hyn yn rhan o asesiad cyffredinol o bob rhan o'n…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull system gyfan ar gyfer llythrennedd a llafaredd, gan adlewyrchu'r pwynt y gofynnodd arweinydd yr wrthblaid yn ei gylch yn gynharach hefyd. Mae'r pecyn…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae llythrennedd yn ganolog yn y Cwricwlwm i Gymru fel un o'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol. Mae sgiliau llythrennedd yn allweddol i'n plant a'n pobl ifanc allu cael mynediad at ddysgu am oes ac i chwalu'r rhwystrau i gyrraedd eu potensial mewn…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn. Rwy'n amlwg yn ymwybodol o'r ddeiseb ac ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ddiwygio addysg. Ac i fod yn glir, rwy'n credu bod mewnwelediad rhieni a gofalwyr yn gwbl hanfodol a pha lefel bynnag o…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Y canlyniadau ar gyfer 2022-23 fydd canlyniadau pobl ifanc nad ydynt eto wedi bod drwy'r system addysg ar ei ffurf ddiwygiedig, gyda gweithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym ddwy flynedd i mewn i raglen drawsnewid bedair…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol yn newid y fframwaith cyfreithiol ac ymarfer i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion unigol.