12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am sicrhau bod y mater pwysig hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o ymrwymiad amlwg y Senedd hon i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru? Ac a gaf fi…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig
A diolch, Sarah Murphy, am gydnabod y rôl a'r baich gwaith cynyddol y mae Cyngor ar Bopeth a Shelter wedi'i brofi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff hynny ei adlewyrchu ar draws pob etholaeth yma heddiw ledled Cymru. Ond mae'n bwysig gweld, ac fel y dywedodd…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ar yr adroddiad 'Dyled a'r pandemig', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda dadl mor gryf y prynhawn yma, sy'n ychwanegu cymaint o bwysau at eich…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Buffy Williams. A gaf fi dalu teyrnged i bawb sy'n darparu gwasanaethau arbenigol yn eich etholaeth, a ledled Cymru yn wir? Diolch hefyd i'r rhai a fynychodd y grŵp trawsbleidiol ddoe ar drais yn erbyn menywod a phlant, dan gadeiryddiaeth…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar strategaeth ddrafft ac yn disgwyl cyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26 ym mis Ebrill 2022. Bydd gweithredu'r strategaeth yn seiliedig ar gydweithio ag asiantaethau…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Credaf fod llawer o'r cwestiynau a'r ymatebion y prynhawn yma yn dangos pwysigrwydd canolbwyntio ar y mater hwn a'r trychineb costau byw sy'n dod i'r amlwg, wedi'i waethygu gan gynnydd mewn prisiau nwy cyfanwerthol, sy'n golygu…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae anghydraddoldeb cymdeithasol wedi mynd yn waeth oherwydd y pandemig. Bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn creu fframwaith gweithredu a bydd yr unedau cydraddoldeb, hil ac anabledd newydd yn darparu tystiolaeth gadarn i lywio polisi a chynlluniau.
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am y cwestiwn hollbwysig hwn y prynhawn yma, Jenny Rathbone. Rydych wedi crynhoi'r sefyllfa enbyd y mae llawer o rentwyr preifat ynddi. Fel y gwyddoch, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yn y sector rhentu…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rwy'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi. Mae'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf newydd, y cynnydd arfaethedig yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd o 2022-23, a'r ymgynghoriad ar…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Rwy'n cadarnhau fy mod wedi cyfarfod â Victoria Atkins, y Gweinidog Adsefydlu Affganiaid, ddoe. Yn wir, cyfarfûm â hi gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac roedd hi'n cyfarfod â chydweithwyr yn yr Alban hefyd. Byddwn yn…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn. Yn fwyaf arbennig, rwy'n ffodus imi gael cyfarfod â'r Gweinidog, Victoria Atkins, ddoe. Bydd unrhyw un sy'n cael ei adsefydlu neu ei ddanfon i Gymru yn cael ei gefnogi cyn belled ag y gallwn…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn codi cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac ers cyhoeddi'r cynllun, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl galwad rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, y ddiweddaraf ohonynt ddoe, ac rwyf wedi codi materion yn amrywio o…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb hefyd wrth gwrs. Diolch am y cwestiwn; mae'n bwysig. Rydym mewn sefyllfa lle mae pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac mae hynny i'w weld mewn cymaint o dystiolaeth bwerus. Ond mae…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, ac fel y dywedwch, mae prisiau ynni cynyddol yn rhan amlwg o'r argyfwng costau byw hwn. Os edrychwch yn ôl at yr hyn a ddywedodd Sefydliad Resolution mewn ymateb i gyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref, nodwyd bryd…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae aelwydydd yn profi argyfwng costau byw oherwydd prisiau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae cynghorau'n cefnogi'r defnydd o gynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru gan aelwydydd cymwys i'w helpu i gadw'n gynnes y gaeaf hwn, a bydd yn…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am eich cwestiwn dilynol hynod bwysig, Sioned Williams, ac wrth gwrs, mae’n ymwneud â phwysigrwydd ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac ers ei sefydlu yn 2009-10 hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, mae mwy na £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy’n falch iawn eich bod wedi codi’r mater hwn. Cafodd sylw helaeth ddoe, fel y dywedoch chi, mewn cwestiynau gan Adam Price i’r Prif Weinidog, ond cwestiynau hefyd o bob rhan o’r—yn sicr gan Aelodau Llafur yn ogystal ag…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am eich cwestiwn dilynol. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi’r cynllun ymdopi â thywydd oer ar 3 Rhagfyr, ac mae’n cynnwys 12 cam gweithredu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi aelwydydd incwm isel i ymdopi â thywydd oer: cymorth ariannol, er…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn dilynol, a dylwn ddweud yr hoffwn sicrhau bod yr adroddiad hwn a gyflwynwyd drwy ein tasglu hawliau anabledd wedi'i gydgynhyrchu mewn gwirionedd. Fe’i comisiynwyd gennym ni, mae’n cael ei gydgadeirio, ac mae angen inni ei…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mark Isherwood. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod diweddaraf y grŵp trawsbleidiol rydych yn ei gadeirio—rwyf wedi bod mewn mwy nag un—ac roedd yn dda iawn eich gweld yn ôl yn y swydd honno. A gaf fi gadarnhau ei bod…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Ac a gaf fi dalu teyrnged i bob un o'r gwirfoddolwyr yn eich cymuned, a ledled Cymru gyfan, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ystod y pandemig, ond sydd wedi gwneud hynny erioed, fel anadl einioes ein cymunedau? Felly…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hynny’n rhan hollbwysig o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol. A dweud y gwir, buom yn arloesol wrth ddatblygu cynllun partneriaeth y sector gwirfoddol, sy'n golygu bod pob sector, gan gynnwys y sector iechyd…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig iawn, oherwydd rydym wedi gweld, fel y dywedoch chi, Peter Fox, drwy gydol y pandemig, y sector gwirfoddol cryf ac annibynnol hwnnw sy’n hollbwysig i les Cymru a’n cymunedau, a'r diwylliant o wirfoddoli yn dod…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym wedi darparu dros £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol i sefydliadau’r sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i’w galluogi…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru—Pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir…