11 Ionawr 2023 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol
Diolch, Gadeirydd, a diolch i chi am fod efo ni heddiw a diolch am y dystiolaeth dŷch chi wedi ei darparu ymlaen llaw, hefyd. Efallai fydd y cwestiynau yn gorgyffwrdd efo'ch tystiolaeth chi, ond mae o jest yn gyfle i ni gael y drafodaeth ehangach os ydy…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Wrth gwrs, mae yna waith rhagorol yn digwydd bob diwrnod gan y gwasanaeth iechyd, ond mae'n bwysig inni gydnabod heddiw y pwysau aruthrol sydd ar staff. Dwi wedi derbyn cymaint o ohebiaeth torcalonnus dros y…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, fel y gwyddoch chi, fis nesaf bydd yn nodi tair blynedd ers y llifogydd dinistriol o ganlyniad i storm Dennis, a effeithiodd yn arbennig ar Ganol De Cymru. Roedd yr adroddiad dilynol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu mai un o'r heriau mwyaf…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi Plant
Mae mwy nag un o bob tri o blant ledled Cymru yn byw o dan y llinell dlodi—o leiaf 10 plentyn mewn dosbarth o 30—ac mewn rhai ardaloedd, mae’r gyfradd hyd yn oed yn uwch, ac yn anffodus, dim ond gwaethygu mae pethau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch, Weinidog. Cwestiwn penodol ydy hwn o ran yswiriant, oherwydd, ar gyfer tai preswyl, mae'r cynllun yswiriant ar gael trwy ardoll ar gwmnïau yswiriant, sef Flood Re. Nid oes cynllun cyfatebol ar gael ar gyfer busnesau, sy'n golygu bod nifer gydag…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghanol De Cymru sy'n methu â chael neu fforddio yswiriant oherwydd risg parhaus o lifogydd? OQ58874
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24
Ysgrifennodd rhywun ata i yr wythnos hon: 'Does dim byd yn gwella; mae popeth yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Nid yw hyd yn oed rhai o'r cyfraniadau a gefais yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Beth fydd yn newid i mi a pha addewidion allwch chi eu gwneud?' Wel, mae'n…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24
Diolch, Weinidog. Hoffwn adleisio llawer o'r sylwadau. Nid yw yn benderfyniad hawdd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb drist iawn. Rydych chi'n edrych arno ac yn meddwl am y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud, ond hefyd o wybod, i lawer o bobl…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r adolygiad annibynnol o lifogydd, ac, yn benodol, sut y bydd Aelodau'n gallu cyflwyno tystiolaeth? Yn amlwg, mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio, a dwi'n gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo, ond mae…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant
Un o'r prif ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw archwilio sut yr eir ati mewn modd radical i ddiwygio'r gwasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod yna adolygiad o ofal…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am roddi'r ddadl yma gerbron.
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Ocê. Diolch yn fawr iawn. Mae'r ymdeimlad hwnnw yn eithriadol o bwysig, ond gaf i ofyn felly: beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod yr ymdeimlad cenedlaethol hwn, a'r cysylltiad efo'r iaith Gymraeg, yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch, Weinidog. A hithau'n Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg heddiw, dwi'n meddwl ei bod hi'n addas iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth ac, yn amlwg, mae yna fwy o ddata i'w ryddhau o ran y cyfrifiad hefyd, a dwi'n mawr obeithio, gan fod ein pleidiau ni yn…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol? TQ694
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid cyfaddef, roedd hi'n wych gweld y cynnyrch yn y tai bach ers yr wythnos hon. Rwyf eisiau gofyn hefyd, pryd bydd y peiriannau talu, felly, yn cael eu tynnu o’r tai bach? Oherwydd mae'n neges gymysg ar y funud, gan ein bod ni…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
1. Beth yw polisi'r Comisiwn o ran darparu cynnyrch mislif am ddim ar ystâd y Senedd? OQ58820
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Mae'n gwasanaeth post, wrth gwrs, drwy'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, yn wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl yn ein cymunedau. O ran fy rhanbarth, mae nifer o swyddfeydd post wedi cau neu leihau eu horiau agor, ac…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ynglŷn â sichrau parhad eu gwasanaethau yng Nghanol De Cymru? OQ58828
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi
Diolch i'r Gweinidog, a diolch hefyd i'r Aelod dynodedig—diolch i'r ddau ohonoch chi am eich gwaith ar hyn. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ategu diolch y Gweinidog i'r athrawon llanw hyn, sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig. Dŷn ni wedi gweld, fel roeddech chi'n…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein
Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir y bydd 200 a mwy o blant yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis y mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei ohirio. Mae pethau'n newid mor gyflym yn y maes hwn, ac mae'n amhosib i ni ddiogelu plant yn llwyr, ond dwi yn…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein
Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn rhannu sicrwydd Peter Fox. Rwy'n bryderus wrth weld yr elfen 'cyfreithiol ond niweidiol' yn cael ei dileu. Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf yw'r oedi a fu. Rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod pwysau'n cael ei…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein
Diolch, Natasha, am ddod â hwn gerbron.
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach
Yn sicr. Rwy'n cytuno'n llwyr. Wrth weld y busnesau hynny wedi'u dinistrio—. Dim ond newydd ailagor ei ddrysau mae Clwb y Bont. Gofynnwyd i mi, ar y diwrnod y cafodd ei agor, 'A yw Clwb y Bont yn ddiogel yn y dyfodol nawr?' Wel, na, nid yw'n ddiogel. Os oes…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach
Mae cyfarfod â busnesau bach bob amser yn gymaint o anrhydedd, onid yw, fel cynrychiolydd. Yn sicr, wrth siarad â nifer y penwythnos diwethaf o gwmpas Pontypridd, mae'r heriau y maent yn eu hwynebu yn enfawr o ran y prisiau hynny, wrth iddynt ddal i adfer…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
Hoffwn bwysleisio ar y dechrau, er ein bod yn cyd-gyflwyno, rwy'n credu ein bod yn dod at hyn o safbwyntiau gwahanol, ac i mi, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am ymchwiliad annibynnol yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr Alban yn dangos y ffordd o…