15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cefnogi datblygiad adeiladau cyhoeddus cynaliadwy yn weithredol drwy nifer o fentrau a pholisïau trawslywodraethol. Ar wahân i eithriadau bach, mae'n ofynnol i bob adeilad newydd sy'n cael ei hyrwyddo neu ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fodloni ein…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, rydym ni'n gwbl benderfynol o weld y ffwrnais arc drydan yn cael ei hagor, a fydd, gobeithio, yn caniatáu i bobl weithio yn y diwydiant dur yn y dyfodol yn yr ardal honno. Y broblem wirioneddol yw y bu gennym ni'r bwlch hwn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid wyf i erioed wedi clywed y fath nonsens yn fy mywyd. Gadewch i mi ddweud bod eich Llywodraeth chi—eich Llywodraeth chi—wedi dweud y bydden nhw'n rhoi'r arian hwnnw ar y bwrdd ac yna ni wnaethon nhw ei wario. Ni wnaethon nhw ei wario. Bu'n eistedd yno…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr. Dwi’n siŵr bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yna gronfa arbennig ar gyfer helpu pobl sydd wedi dioddef o achos y ffaith bod Tata yn newid. Mae £80 miliwn o gronfa, sydd yn mynd i gael ei ddosbarthu gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni’n parhau i weithio gyda'r bwrdd pontio, awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi iechyd a lles meddyliol mewn cymunedau lleol, a hynny trwy’r byrddau iechyd lleol. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r cyllid gwerth £100 miliwn i fuddsoddi mewn sgiliau a…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein syfrdanu gan y nifer fawr o siopau fêps; maen nhw i'w gweld yn ymddangos ym mhobman ac, yn amlwg, mae hwn yn faes lle mae angen i awdurdodau lleol ddefnyddio rheoliadau a chanllawiau cynllunio i…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ni ddylai plant a phobl ifanc byth defnyddio fêps. Fel rhan o genhadaeth fy Llywodraeth i greu Cymru iachach, byddwn ni'n ymdrin â dibyniaeth ar nicotin yn ei holl ffurfiau ac yn cynllunio i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc trwy atal y cynhyrchion…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o bensiynwyr ledled Cymru a fydd yn bryderus iawn am y sefyllfa hon, a dyna pam ein bod ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth, yn yr un modd ag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i sicrhau y bydd pawb sy'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rŷn ni’n ymwybodol fod llawer o bensiynwyr yng Nghymru yn pryderu am doriadau i’r lwfans tanwydd gaeaf. Rŷn ni’n parhau i gefnogi pobl er mwyn lleddfu pwysau ariannol ar draws y wlad, gan gynnwys yn Nwyrain De Cymru. Mae ein cynllun talebau tanwydd a’r gronfa…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Beth yw hi gyda chi'r Torïaid? O ddifrif calon—rydych chi'n ffugio pethau rydym ni'n eu dweud. Doedd erioed—. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eglur yn y Pwyllgor Cyllid nad yw'n bwriadu cynyddu cyfradd treth incwm Cymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes unrhyw gynigion i gynyddu treth incwm yng Nghymru.
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol o ran tlodi plant yw gwneud yn siŵr bod cyfleoedd hefyd i bobl gael swyddi, ac os yw pobl yn gweithio maen nhw'n gallu cefnogi eu teuluoedd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cymorth hwnnw, yn enwedig i'r teuluoedd agored i niwed hynny, a dyna pam mae pethau fel ein rhaglenni Dechrau'n Deg a thargedu'r ardaloedd hynny yn hollbwysig. Rwy'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n credu bod llawer o bobl o fewn y Blaid Lafur sy'n anghyfforddus iawn amdano; dyna'r gwir amdani, ond ceir y twll du gwerth £22 biliwn y mae'n anodd ei lenwi. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw gwneud yr hyn a…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein strategaeth tlodi plant, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr eleni, yn nodi ein huchelgais tymor hir i daclo tlodi plant ac i leddfu effeithiau gwaethaf tlodi yng Nghymru. Mae’n nodi hefyd sut byddwn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed y Ceidwadwyr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn diogelwch ar y ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed yr wybodaeth ddiweddaraf ein…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein cynlluniau ar gyfer gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol wedi'u rhestru yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ar ben hynny, yn y flwyddyn ariannol hon, rŷn ni'n darparu dros £7.5 miliwn i Gyngor Sir Penfro i wella trafnidiaeth…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, fel y Gweinidog oedd yn gyfrifol am iechyd meddwl yn ystod y pandemig, rôn i’n ymwybodol iawn pa mor bwysig oedd gofalu am iechyd meddwl pobl oedd yn gweithio yn y gwasanaeth ar yr adeg honno. Rwy’n falch iawn o ddweud bod gyda…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Mae gennym ni bellach fframwaith codi llais heb ofn eglur iawn ar gyfer staff GIG bellach, gan ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod nhw'n gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, lle maen…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae iechyd a llesiant y gweithlu yn brif flaenoriaeth, ac rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer mentrau i sicrhau y gall ein gweithlu ymroddedig gael mynediad at amrywiaeth eang o gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw'n broblem i mi, ond rwy'n credu, yn gyffredinol, y gallai fod gan bobl Cymru ddiddordeb yn y pethau lle mae gen i rywfaint o reolaeth. Rwyf i wedi cael cyfarfod gyda Rachel Reeves mewn rhinwedd wleidyddol, a dweud y gwir, felly mae hynny'n rhywbeth…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y bobl a allai fod yn gwylio cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cydnabod, mewn gwirionedd, fy mod yma i gael fy nwyn i gyfrif am y penderfyniadau yr wyf i'n eu gwneud yma yng Nghymru. Ni ellir fy nwyn i…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe wnaf i ateb, byddwn i wrth fy modd yn ateb, oherwydd mae'n hollol deg dweud eich bod chi'n ffugio'r nonsens hwn. Mae gen i berthynas uniongyrchol. Mae'n cyfarfod â mi ddydd Gwener. Rydym ni'n cael cyfarfod un i un ddydd Gwener. Yna, byddaf yn cael…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n gwybod ym mha fyd tylwyth teg y mae'n byw ynddo, ond rwy'n credu fy mod i newydd esbonio fy mod i'n cyfarfod â'r Prif Weinidog ddydd Gwener. Rwy'n mynd i fod yn cael cyfarfod un i un gyda Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer. Dyna, rwy'n credu, y tro…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol wych y byddwn ni'n cael ein cyfarfod cyntaf o gyngor y gwledydd a'r rhanbarthau ddydd Gwener, lle byddwn ni, wrth gwrs, yn cael arweinwyr gwledydd y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd, gan gynnwys arweinydd yr Alban, Aelod…