22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy nghydymdeimlad fel Prif Weinidog gyda'r rhai a oedd yn y ddamwain reilffordd neithiwr ger Llanbrynmair. Ac, yn benodol, hoffwn anfon ein cydymdeimlad at deulu'r gŵr a fu farw, a…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu y dylen ni i gyd ddiolch am y risgiau anhygoel y mae ein diffoddwyr tân yn eu cymryd ar ein rhan wrth ein cefnogi ni, ac felly mae'n bwysig bod y gwasanaeth yn trin diogelwch diffoddwyr tân fel prif flaenoriaeth, a diolch i…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni wedi cydweithio â'r gwasanaeth tân ac achub a’r undebau i leihau'r risg i iechyd diffoddwyr tân. Rydyn ni hefyd wedi gweithredu mewn ymateb i adroddiadau lle gallai fod risg i les diffoddwyr tân.
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac nid yw ein safbwynt ynghylch HS2 a thegwch o ran seilwaith rheilffyrdd wedi newid. Cawson ni gam o ran HS2; fe wnawn ni barhau i ddadlau dros gywiro hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n rheoli disgwyliadau…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cael trafodaethau cadarnhaol rheolaidd gyda Llywodraeth y DU. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion yn yr Adran Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau gwelliannau i seilwaith…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Byddwch yn ymwybodol nad yw newidiadau i wasanaethau yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru ac mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw darparu cyfeiriad strategol. Mater i'r byrddau iechyd lleol yw ymateb i'r anghenion lleol. Nid yw'n gwneud synnwyr…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd diogel o ansawdd ar gyfer eu poblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau am y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu gofal. Ceir gweithdrefnau sefydledig ar gyfer ymdrin â…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir bod mwy y gallwn ni ei wneud yma, a bod mwy y gall busnesau ei wneud. Rwy'n credu bod yn rhaid iddyn nhw gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Ond mae bwyd dros ben am lawer o resymau. Gall fod yn fater, er enghraifft, o…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn clywed y lansiwyd ein hymgyrch Bydd Wych, sydd wedi'i thargedu yn benodol at wastraff bwyd, ddoe. Mae honno i gyd yn ymwneud â pheidio â thaflu'r bwyd y gallech chi ei fwyta ac ailgylchu'r hyn na…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n canolbwyntio ar leihau ac atal gwastraff ar draws y system fwyd. Mae gan ein strategaeth economi gylchol 'Mwy nag ailgylchu' uchelgais i haneru gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2025 o'i gymharu â llinell sylfaen 2007, a 60 y cant erbyn 2030…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, a diolch am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud fel hyrwyddwr morwellt. Darganfyddais ystadegyn diddorol iawn yn ddiweddar, sef bod gan forwellt y potensial i storio 170 y cant yn fwy o garbon fesul milltir sgwâr o'i gymharu â choedwigoedd…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd morol i bobl Cymru. Mae ein rhaglenni adferol ar gyfer cynefinoedd morol yn cynnwys y cynllun ardaloedd morol gwarchodedig a'r rhaglen Rhwydweithiau Natur. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ddeall ein…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Dwi ddim wedi clywed hynny o'r blaen—bod y fan yma wedi'i hadeiladu ar wastraff trychineb Aberfan. Ond os yw hynny'n wir, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parchu ein gorffennol ac yn sicrhau nad ydyn ni'n gweld unrhyw beth…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol yma yw diogelwch. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl yn y cymunedau hynny yn ddiogel. Mae gennym ni drasiedi ofnadwy sydd wedi'i serio ym meddyliau pobl Cymru, ac mae gwir angen i ni wneud yn siŵr nad…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol gywir. Mae'n bwysig i ni nodi etifeddiaeth y tomenni glo ar ein cymunedau. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dathlu ein hanes a'r ffordd y mae hynny wedi llunio ein cymunedau a'n diwylliannau. Ond rydych chi'n…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol gywir. Mae gennym ni ddyletswydd a chyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod y tomenni glo sydd gennym ni—ac mae llawer ohonyn nhw yng Nghymru; tua 4,000, fel yr wyf i'n ei deall hi—. Rydym ni wedi gwirio 2,000 ohonyn nhw. Mae…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen archwilio a chyflawni gynhwysfawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw hollbwysig i ddiogelwch ar domenni sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat. Cynhaliwyd tua 2,000 o archwiliadau tomenni glo ers 2020. Rydym ni hefyd yn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydych chi'n sôn am eich cynhadledd dros y penwythnos; fe es i i gynhadledd ddoe lle cefais gyfle i siarad â Wes Streeting am sut rydym ni'n symud ymhellach ymlaen. Roedd yn falch iawn o wneud yn siŵr bod ei swyddogion yn gweithio ac yn edrych ar yr hyn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwyf i wir yn credu eich bod chi i gyd, yn ogystal â'r cyfryngau, wedi bod yn alldaflu pethau ar holl ddiben y berthynas hon. Y gwir amdani yw ei bod hi'n golygu camau ymarferol, synnwyr cyffredin, a dyna rydym ni'n ei wneud. Rydym ni wedi dod â'r…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi bod yn eglur iawn ac rydym ni wedi gwirio hyn, ac rwy'n credu bod pobl wedi bod yn rhoi geiriau yn ein cegau o ran beth yw'r berthynas a'r hyn a gyhoeddwyd gennym ni. Fe wnaethom ni ddweud ein bod ni eisiau gweld lle y gallwn ni ddysgu gan…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe ddywedaf wrthych chi sut y gwnaf i sefyll yn gadarn dros Gymru, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol o'r twll £22 biliwn y gwnaethoch chi ei adael yn y gyllideb y mae'n rhaid i ni ei lenwi bellach. [Torri ar draws.] Mae'n rhaid i ni ei…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n jôc lwyr, onid yw, i sôn am y twf cyflymaf. Os ydych chi'n tyfu o sylfaen isel iawn, mae hynny'n eithaf hawdd, a dyna lle roeddech chi. Agenda Llywodraeth y DU ac agenda Llywodraeth Cymru yw gweld twf economaidd, a dyna pam roedd yr uwchgynhadledd honno…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n mynd i gymryd gwersi gan Lywodraeth Dorïaidd a adawodd bod mewn grym gyda'r cyfraddau treth uchaf ers 70 mlynedd. Ni wnaf i gymryd gwersi gennych chi. Ac rydych chi'n sôn am adeiladu ar uwchgynadleddau'r gorffennol, fe wnaf i ddweud wrthych chi yr…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r cynnydd enfawr i gostau y mae'r diwydiant adeiladu wedi ei wynebu, yn enwedig yr effaith enfawr y mae chwyddiant wedi ei chael ar rai o'r deunyddiau crai. Mae hynny wedi effeithio ar bob agwedd ac, yn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Hoffwn innau hefyd longyfarch Dŵr Cymru ar y rhaglen ddatblygu honno. Mae ganddo'r ganolfan ymwelwyr newydd sbon honno—rwy'n awyddus iawn i fynd i gael ychydig o dawelwch yn yr ardal ar ryw adeg. Mae ganddi gaffi, mae ganddi hwb…