14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021
Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd yr amrywiolyn omicron o'r coronafeirws ei ganfod am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd a'i ddynodi'n amrywiolyn sy'n peri pryder gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 26 Tachwedd. Erbyn hyn mae gennym ni nifer o achosion yng…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. Drwy gydol y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym mewn ymateb i'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Mae ein safbwynt wedi bod yn gymesur: llacio cyfyngiadau…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch, Heledd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig bod pobl yn deall bod ein system ni yng Nghymru yn wahanol i'r system yn Lloegr. Dŷn ni ddim yn mynd i gael walk-ins fel yn Lloegr. Dyw e ddim yn mynd i fod yn free-for-all fan hyn. Rŷn ni'n mynd mewn…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gor-ymateb yn rhywbeth yr ydym, yn amlwg, yn ymwybodol iawn ohono. Gwyddom nad yw'r sefyllfa'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud â chanlyniadau economaidd, canlyniadau cymdeithasol…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle; nid yw'r dos dwbl yn ddigon. Ond y peth olaf yr ydw i eisiau ei wneud yw peri i bobl sydd heb gael unrhyw ddosau o gwbl benderfynu peidio â chael brechiad. Dyma'r rhai yr wyf yn dal i bryderu fwyaf amdanyn…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf iawn fod niferoedd uchel iawn yn mynd i gael yr amrywiolyn omicron yma, a dwi'n derbyn bod y disgwyliadau yn uchel iawn, ond byddwn i'n hoffi gofyn i'r cyhoedd i aros tan eu bod nhw'n cael eu galw, er…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr, Russell. Brechu yw'r flaenoriaeth nawr, ac os ydym eisiau diogelu ein GIG wrth fynd i fis Ionawr yn arbennig, yna dyma'r amser i wneud y gwaith hwn, a dyna pam yr ydym wedi rhoi mwy o hwb i’n system mewn gwirionedd, i sicrhau y gellir…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Rhowch flaenoriaeth i hyn os gwelwch yn dda. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun. Dirprwy Lywydd, mae hon yn sefyllfa sy'n peri pryder ac yn symud yn gyflym iawn…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiolyn omicron sy'n symud yn gyflym iawn, ei effaith ar Gymru a'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yma. Yn fy natganiad diwethaf i'r Aelodau, dywedais mai dim…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd
Diolch yn fawr, Rhun, a hoffwn i hefyd roi diolch am y gwaith anhygoel mae Fast-Track Cities Caerdydd yn ei wneud, a dwi yn meddwl bod yr wythnos profi yn rhywbeth dwi'n meddwl fydd yn dod yn rhywbeth sydd yn bwysig yn hanes HIV yn flynyddol yn ein gwlad ni…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn glir iawn ynghylch faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan HIV yng Nghymru; yn 2019, roedd gennym tua 2,378 o bobl a oedd wedi cael gofal HIV. Dynion oedd tua 77 y cant o'r rheini, ac rydych…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd
Rwy'n falch o ddweud bod yr ymyrraeth hon wedi bod yn un llwyddiannus iawn, hyd yma. Does dim achosion newydd o HIV wedi bod ymysg y rhai sydd wedi bod yn derbyn PrEP. Rhwng Ionawr a Hydref 2021, gwnaeth 1,301 o bobl ddefnyddio PrEP. Serch hynny, yn ystod y…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd
Diolch, Llywydd. Mae yfory yn nodi Diwrnod AIDS y Byd, sy'n amser i fyfyrio ac i edrych i'r dyfodol. Mae HIV ac AIDS yn dal i fod yn fater iechyd cyhoeddus byd-eang mawr, gan ei fod wedi cymryd tua 36.3 miliwn o fywydau yn fyd-eang. Mae Sefydliad Iechyd y Byd…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr. Rydych chi'n llygad eich lle; rydym ni'n bod yn ofalus ac nid ydym ni'n mynd i banig. Dyna union safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn cynyddu ein dull brechu a dylai'r holl staff gofal fod wedi cael cynnig y brechlyn erbyn hyn…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Mark, a hoffwn i atgoffa eich etholwr mai'r cyngor teithio gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, yw peidio â'i wneud—peidiwch â theithio dramor. Nid nawr yw'r amser i deithio dramor, yn enwedig pan fo'r amrywiolyn newydd hwn nad ydym yn…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr, Sioned. Yn amlwg, mae'n anodd i fi sôn am unrhyw achos unigol, ond beth dwi yn cydnabod yw ei bod hi wedi bod, efallai, yn fwy anodd y tro yma i fynd at bobl, yn arbennig yn eu cartrefi nhw, achos mae'n rhaid ichi aros am 15 munud ar ôl ichi…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch, Peter. Rydym ni i gyd awyddus iawn am Nadolig da eleni, onid ydym ni? Cawsom ein hamddifadu ohono y llynedd, ac rwy'n gwybod yn arbennig bod llawer o hen bobl yn dwlu ar yr amser hwnnw gyda'u teuluoedd ac yn edrych ymlaen ato yn fawr. Byddwn i'n annog…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen glir iawn, a'n bod ni bellach yn mynd i ymgymryd â'r holl argymhellion sydd wedi dod gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Byddwn yn ehangu'r rhaglen frechu, fel y…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr. Jest i wneud hi'n glir, mae rhai labordai ym Mhrydain ddim eto'n gallu adnabod drwy PCR yr amrywiolyn newydd yma. Felly, rŷn ni jest yn ceisio sicrhau ein bod ni'n gwybod pa labordai yw'r rheini. Wrth gwrs, mae un mawr yng Nghymru, ac mae…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr, Russell. I'w gwneud yn gwbl glir: rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ansicr rydym ni ynddi mewn cysylltiad â'r GIG wrth i ni fynd i'r gaeaf, sydd, yn draddodiadol, yn gyfnod heriol iawn beth bynnag, ond, yn amlwg, eleni mae gennym ni'r pwysau…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Llywydd, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell y dylai'r rhaglen frechu gael ei chyflymu ar ôl i'r amrywiolyn newydd hwn ddod i'r amlwg. Dwi wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor, a dwi’n ategu geiriau ei gadeirydd, sydd wedi dweud y gwelwn y…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiad diweddaraf a difrifol iawn yn y pandemig hwn sy'n symud yn gyflym. Ddiwedd wythnos diwethaf, cynghorodd Sefydliad Iechyd y Byd wledydd ledled y…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
Huw, mae bob amser yn bleser clywed eich achosion arbennig, ac yn bleser arbennig i glywed yr un yma, sydd yn eithaf anarferol. Ond rwy'n siŵr, os nad wyf i fod i ymyrryd ar hyn o bryd, rwy'n credu, o siarad yn gyffredinol, os yw pobl wedi cael cyngor gan…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
Diolch yn fawr i Rhun am yr ymrwymiad i gefnogi y rheoliadau newydd yma. Rŷch chi'n iawn bod y tirlun yn bwysig o ran beth rŷm ni'n gweithredu ynddo ar hyn o bryd. Mae 10 y cant o'r achosion sydd yn yr ysbytai heddiw yn ymwneud â COVID, ac, wrth gwrs, rŷm ni…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai un o'r pethau allweddol i'w gofio o ran yr hyn yr ydym yn ei drafod yma heddiw—mae'n drafodaeth gyfreithiol iawn yr ydym yn cymryd rhan ynddi yn y fan yma—yw bod rhan ohono'n ymwneud â sicrhau, mewn gwirionedd, nad yw'r…