16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Russell. Yn sicr, rwyf wedi bod ar safle datblygiad llesiant newydd arfaethedig gogledd Powys, ac yn sicr, mae’n edrych fel datblygiad cyffrous. Mae achos busnes y rhaglen ar gyfer y datblygiad yn mynd drwy'r broses graffu derfynol ar hyn o…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'w boblogaeth. Rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd ar achosion busnes ar gyfer datblygiad llesiant gogledd Powys, a gwaith adnewyddu yn ysbyty Llandrindod.
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Tom. Treuliais benwythnos braf iawn yn y Gŵyr. Anaml iawn yr af i'r Gŵyr, ac roedd yn wych gweld faint o’r gymuned leol sy’n dangos diddordeb ym maes iechyd—mae'n dda gweld bod y math hwnnw o ysbryd cymunedol yn ymestyn i hyn. Ond wrth gwrs…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, fel comisiynwyr y gwasanaethau ambiwlans, gynllunio a sicrhau gwasanaethau diogel ac amserol sy’n ymateb yn nhrefn angen clinigol. Mae hynny’n golygu dull gweithredu system gyfan, gan sicrhau bod criwiau…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n derbyn bod problem. Mae'r galw ar y gwasanaeth wedi bod yn aruthrol. Mae’r cynnydd yn y galw ar y gwasanaeth yn fwy nag unrhyw beth a welsom o’r blaen, felly yn amlwg, mae rhan o hyn yn ymwneud â'r galw ac mae angen ystyried hynny hefyd. Credaf hefyd…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Rhun. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi yn garedig i fi heddiw, ar fy mhen-blwydd i, ond mae hwnna'n gwestiwn teg ac mae'n gwestiwn anodd, ac mae yn gwestiwn dwi'n poeni'n fawr ynglŷn ag e. Mae amseroedd aros ambiwlansys lot yn rhy araf, a…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Joyce. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae arnom angen sgwrs gyhoeddus fwy dwfn o lawer am ein dymuniadau a sut y bydd yr ystod gyfan o wasanaethau iechyd yn gweithio, nid yn unig i bobl sir Benfro, ond i bobl sir Gaerfyrddin a Cheredigion…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lywydd, rwy'n fwy na pharod, wrth gwrs, i wrando ar bryderon gwirioneddol pobl leol mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiadau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac wrth gwrs, penderfyniad i Hywel Dda yn y pen draw yw'r cyfluniad a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ynghyd â gofalu am gleifion sydd wedi eu heffeithio gan COVID-19, a gweithio hefyd tuag at gyflenwi gwasanaethau ehangach, mwy rheolaidd, pan fydd yn ddiogel i wneud…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Ydy, mae'n ben-blwydd arnaf i a Peter Hain, a John Taylor o Duran Duran hefyd. [Chwerthin.] Ac Amanda Holden dwi'n deall hefyd, so dwi mewn cwmni da. Jest o ran yr ymgynghoriad ar y feddygfa ym Mhentyrch, dwi wedi derbyn referral ar 17 Ionawr…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Mark, ac yn sicr, mae gennyf ddiddordeb mawr ym mater hepatitis C, sydd, wrth gwrs, yn gyflwr hirdymor y mae'n rhaid i lawer o bobl fyw gydag ef. Rwy'n falch iawn o gytuno i ystyried a oes unrhyw bosibilrwydd o newid y dyddiad targed…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Vikki, a darllenais yr adroddiad 'No place like home', gyda diddordeb, ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r argymhellion ac yn falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn cyflawni mewn llawer o'r meysydd sydd wedi'u nodi yno. Nid wyf yn credu bod neb…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Vikki. Rydym wedi datgan ein huchelgais i'r GIG yng Nghymru fod yn wasanaeth sy'n cael ei arwain gan ansawdd, lle y darperir y gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ofal yn nes at y cartref lle y bo…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
So, diolch yn fawr iawn, a dwi yn gofyn i Aelodau i gefnogi'r cynnig yma. Diolch yn fawr.
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Wel, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw, yn sicr. Wrth gwrs, byddem ni am wneud hynny. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi, a phe byddem yn eu gweld nhw'n manteisio ar y sefyllfa, byddem yn chwarae'r diawl gyda nhw. Felly, rwy'n credu y gallaf roi'r sicrwydd…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
—gwelliannau canlyniadol, rwy'n deall nad yw hyn yn ffordd ddelfrydol o wneud cyfraith. Rydyn ni i gyd yn deall hynny. Ond dydyn ni ddim mewn sefyllfa, bob amser, i gael y perffaith, ac felly, wrth gwrs, mae risg gyfansoddiadol i Gymru. Y cwestiwn yw: faint o…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Rŷn ni wedi cynnal safbwynt negodi cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwyddi draw, ac mae hynny wedi arwain at nifer o welliannau pwysig. Ar yr achlysur yma, gaf i ddweud ein bod ni wedi negodi? Rŷn ni wedi cael lot o'n ffordd ein hunain, rŷn ni wedi dod…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Rydych chi wedi clywed bod yr ymrwymiadau blwch dogfennau eisoes wedi'u rhoi, a'r hyn a roddwyd yw rhywfaint o fanylion am yr union beth a olygir wrth y math o ddehongliad cyfansoddiadol yr oedden nhw'n meddwl amdano. Felly, yn bennaf mae'n golygu newid enw…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, a diolch yn arbennig i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a diolch yn arbennig am yr adroddiadau. Dwi'n…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal. Mae hwn yn Fil mawr a chymhleth, sydd, er ei fod yn gymwys i Loegr yn unig i raddau helaeth, yn cynnwys rhai darpariaethau sy'n…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Sarah. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, drwy gydol y pandemig hwn, wedi ceisio dilyn y dull hwnnw sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y cawsom ni ein syfrdanu ryw gymaint gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU nad oedden nhw wedi, yn…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr iawn, James, ac rwyf innau'n bryderus iawn am y sefyllfa ynglŷn ag ambiwlansys, a dyna pam yr wyf i wedi cyfarfod â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, dim ond ar gyfer ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n falch eich bod chi'n cytuno â'r agwedd bwyllog rŷn ni wedi bod yn ei chymryd. Ac fel rŷch chi'n dweud, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd ar ôl nawr. A dwi yn cytuno y bydd rhai yn dal i ddymuno defnyddio pasys COVID mewn rhai…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Russell. Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda COVID. Ni fydd yn marw o'r tir, ni fydd yn diflannu, a dyna pam, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, y gwelwch chi ni'n datblygu strategaeth tymor hwy ar gyfer ein dull ni o ymdrin…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Llywydd, hoffwn i droi nawr at yr adolygiad. Hwn oedd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o'r mesurau diogelu sydd gyda ni ar lefel rhybudd 0. Gan fod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella'n gyffredinol, mae'r Cabinet wedi penderfynu mai aros ar lefel…