22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae hi'n ei wneud yn yr ardal. Mae'n sicr yn bwysig iawn, a gallaf siarad o fy ngwybodaeth bersonol fy hun o'r gwaith rwy'n ei wneud yn y brifysgol yn Aberystwyth. Mae'n uchel…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Er bod cyfiawnder troseddol, fel y gŵyr yr Aelod, yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phlismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd a gwasanaethau arbenigol i wella mynediad at gyfiawnder i oroeswyr treisio. Trwy'r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Does gen i ddim amheuaeth pan wyf yn cytuno efo'r Aelod ar y pwynt yna, ac mae datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel yn yr Alban a gogledd yr Iwerddon…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dwi'n falch nad ydych chi'n cwffio efo'r dyn drws nesaf. [Chwerthin.] Mae datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder wedi bod yn argymhelliad mewn cyfres o gomisiynau annibynnol, sy'n dyddio'n ôl i gomisiwn Silk yn 2014. Mi wnaeth y comisiynau hynny, y tri…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, mae'n fater y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhannol oherwydd bod cwmpas cymorth cyfreithiol wedi culhau ochr yn ochr â meini prawf cymhwysedd llymach. Mae hynny wedi cael effaith sylweddol iawn dros nifer o flynyddoedd ar y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae pwysau ar y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn bryder difrifol iawn. Mae llai o ddarpariaeth yn golygu nad yw llawer o gymunedau yn gallu cael mynediad at y cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnynt. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wrth gwrs, mae mynediad at gyfiawnder yn fwy o lawer na mynediad at y llysoedd yn unig. Mae'n rhaid i bobl allu deall eu hawliau, cael cyngor dibynadwy ar yr adeg iawn a chymryd rhan yn effeithiol mewn prosesau cyfreithiol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae gallu…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Maddeuwch imi, Mair, doeddwn i methu eich ffeindio chi am funud bach. Mae gallu cael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder yn y Gymraeg yn rhan bwysig o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Wrth imi feithrin cysylltiadau efo'r proffesiwn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Na, dydw i ddim—. Y swyddog cyfreithiol ydw i. Diolchaf iddo am y cwestiwn yna, ond nid yw i mi. Diolch yn fawr iawn.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae'n ddrwg gen i, Lywydd, nad wyf wedi dod â fy wellingtons gyda mi. [Chwerthin.] Nid wyf erioed wedi clywed y fath lwyth o faw ers amser maith. Ac ni fyddaf yn cymryd rhan yng ngwleidyddiaeth hynny, ond a yw'r Aelod o ddifrif yn dweud nad oes neb o fewn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n gwybod, mewn gwirionedd, bod menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig yn anffodus yn cael eu targedu gan aflonyddu a chamdriniaeth. Mae'r misogynedd hwn yn ofnadwy a dylid ei…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn, sy'n daten boeth y dyddiau hyn, os gallaf ei ddisgrifio felly. Mae Ofcom yn rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU 2023, gan gynnwys safonau i leihau twyllwybodaeth. Bydd…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwyf eisoes wedi dweud nad wyf yn anifail gwleidyddol, yn eithaf gwahanol i rai o fy nghyd-Aelodau. Nid yw'n gwestiwn y gallaf ei ateb, gyda pharch.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, wrth gwrs, gwaith Llywodraeth Cymru yw amddiffyn y setliad datganoli, ond hefyd i sicrhau bod pethau fel confensiwn Sewel yn cael eu dilyn, yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn y berthynas, mae rhywun yn gobeithio. Ym mis Gorffennaf eleni, fe gyhoeddais…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, dydw i ddim yn gallu rhoi fy marn i chi ar unrhyw beth oni bai am y gyfraith. Mae'r gyfraith yn blaen, ac fe ddywedais i wrthych chi ac rwyf wedi egluro ym mha le y byddai Gweinidogion yn ymgysylltu, ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim. Ond mae anghenraid…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Unwaith eto, nid wyf i'n ceisio bod yn wrthnysig, ond nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â throthwyon, ac ni allaf i wneud hynny, am nad yw'r wybodaeth gennyf i o'm blaen. Ac nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â'r gyfraith, chwaith. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrth y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, y peth cyntaf i'w ddweud—. Roedd yr Aelod yn cyfeirio at achos moesol. Nid beirniad moesoldeb mohonof i. Fy ngwaith i yw'r gyfraith—y gyfraith yn syml—ac mae'r ddeddfwriaeth yn eglur iawn. Fe wn i y bydd hyn yn siomi'r Aelod. Rwy'n deall yn llwyr bod hwn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwyf i wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae hwn yn adroddiad pwysig ac mae'r broblem wedi bod yn eithaf hirsefydlog mewn llawer ardal yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fe gafodd ei disgrifio, o ran y gogledd a'r canolbarth, fel diffeithdir cyngor, ac fe wn i…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn, ac rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrtho, a allai ei galonogi ychydig, yw bod prentisiaethau lefel 7 wrth y bar a chyfreithwyr hefyd yn uchel iawn yn ystyriaethau'r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, nid yw'r trosglwyddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn berthnasol i senario'r Bil tribiwnlysoedd. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud. O ran datganoli pellach, mater gwleidyddol yw hwnnw'n amlwg. Nid wyf i'n rhan o'r peiriant gwleidyddol fel y cyfryw. Rwy'n…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, mae yna rai ffigurau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ond, yn amlwg, fel gydag unrhyw newid mawr newydd, ni ellir gwybod yn llawn ar y dechrau yn deg. Ond o ran gweithio trawsffiniol, nid wyf i'n ystyried honno'n broblem yn yr achos hwn. Roedd hynny'n…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwy'n credu mai blaenoriaeth y Llywodraeth hon yn gyffredinol yw gwella tynged pobl Cymru. Os yw hynny'n golygu blaenoriaethu datganoli pellach mewn rhai meysydd, bydded felly. Nid datganoli er mwyn datganoli yw hyn. Fe fyddai hynny'n anffodus ac yn dueddol o…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae'r Aelod yn gofyn am brofion cyfreithiol. Fe fyddwn i'n tybio mai'r profion cyfreithiol hynny oedd â'r flaenoriaeth ym meddyliau'r tri chomisiwn yna pan wnaethon nhw benderfynu awgrymu y dylid datganoli cyfiawnder. Un o'r problemau sydd gennym ni, ac fe…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn amlwg ac yn blaen, yn fy marn i. Roedd hi'n cyfeirio at y comisiynau amrywiol. Maen nhw i gyd wedi dweud yr un peth. Comisiynau hyd braich oedden…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Fe ddylai cyfiawnder ieuenctid gael ei ddatganoli i Gymru. Dyna ydy'r peth plaen i'w ddweud. Dylai fod yn gam cynnar pwysig tuag at ddatganoli cyfiawnder yn llawn. Fel man cychwyn, mae diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle i…