2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Diolch i’r Gweinidog. Rwy'n edrych ymlaen at y cynllun. Rwy'n falch o glywed eich bod yn cytuno â'r angen i herio normaleiddio poen. Rwy'n siomedig nad ydych yn credu bod angen deddfwriaeth, ond nid wyf yn pryderu llawer sut y caiff y newidiadau hyn eu…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Soniodd Heledd am y miloedd o fenywod oedd wedi rhoi testament, eu llais nhw, ond mae dal oedi. Mae cost i hyn i gyd, fel roedd Heledd yn dweud—y diwrnodau ysgol coll, y diwrnodau gwaith coll. Rhaid cysidro hynny: cyfri'r gost hwnnw'n economaidd ond hefyd o…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Soniodd Mark am ganser yr ofarïau, un o’r clefydau hynny lle caiff symptomau eu camddeall mor aml, lle nad yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif; yn rhy aml, nid ydynt yn cael eu credu. Mark, fe ddywedoch chi nad yw menywod yn cael eu clywed. Fel y gwyddoch…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Soniodd Cefin am, fel roedd e'n dweud, y profedigaethau a siomedigaethau, a sut mae hyn yn waeth fyth mewn ardaloedd gwledig. Dwi wedi sôn yn barod bod menywod yn cael eu hynysu gan eu triniaeth gan y gwasanaeth iechyd; gwaeth fyth yw hi yng nghefn gwlad. O…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Soniodd Joyce am y methiannau systemig, systematig sy’n effeithio ar fywydau hanner ein poblogaeth, ac mae normaleiddio poen mislif yn un o’r pethau y soniodd Joyce amdanynt. Credaf fod normaleiddio poen mislif yn arbennig o greulon, gan fod hynny'n golygu, o…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Diolch, Mabon, am siarad. Mae'n bwysig bod dynion wedi bod yn rhan o'r ddadl hon. Y fenyw roedd Mabon wedi sôn amdani, oedd yn dioddef o endometriosis—y blynyddoedd o aros, ac wedyn popeth ofnadwy wnaeth ddigwydd iddi hi. Ac fel roedd Mabon yn ei ddweud…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Soniodd Natasha am y disgwyliad fod yn rhaid i fenywod dderbyn ac ymdopi â phoen. Diolch, Natasha, am sôn am waith Breast Cancer Now—sefydliad gwych. Mae'n rhaid inni ei gwneud hi'n haws i gael eich profi. Ac ie, eich pwynt ynghylch llawdriniaethau adluniol a…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Dwi yn cytuno gyda Sioned y byddai hi wedi bod yn dda i'r Prif Weinidog fod yma i glywed y ddadl hon; dwi'n gobeithio'n wir y bydd hi yn gwylio nôl. Canolbwyntiodd Sioned ei chyfraniad ar y menopos a'r angen i dorri'r tabŵ hwnnw. Mae angen apwyntiad wyneb yn…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Carolyn, diolch yn fawr. Fe sonioch chi sut y gellir rhannu cylch bywyd menywod yn gyfnodau o boen a sut y mae’n aml yn cael ei ystyried yn wendid. A dweud y gwir, mae’n brawf o'u cryfder, ond fel y dywedwch, ni ddylai fod yn rhaid inni fynd drwy hyn. Fe…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon.
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Unwaith eto, nid yw hyn yn ymwneud ag unigolion; mae a wnelo â'r diffyg ymchwil, adnoddau a meddwl systemig a roddir i leihau'r angen am boen mewn triniaethau gynaecolegol. Heb os, mae absenoldeb cynllun iechyd penodol i fenywod a merched yng Nghymru yn rhan…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y rhan fwyaf o fenywod, ar ryw adeg yn eu bywydau, yn clywed y geiriau, 'Efallai y bydd hyn yn brifo'. Nid gan ymosodwr, ond gan eu meddyg neu nyrs, gan fod gormod o driniaethau personol mewn gofal iechyd menywod yn rhai poenus…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr iawn am hynna. Mae gormod o rieni ar draws y de-ddwyrain yn ei ffeindio hi'n anodd danfon eu plant i ysgolion Cymraeg, a gall newidiadau i gynlluniau teithio i'r ysgol ychwanegu at yr heriau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi’u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ar ddisgyblion yn y de-ddwyrain? OQ61586
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Ysgrifennydd y Cabinet, mae tynged Sefydliad y Glowyr, Coed-duon yn y fantol, ac mae trigolion a staff yn bryderus iawn, yn enwedig ar ôl y newyddion yr wythnos diwethaf y bydd Llancaiach Fawr yn cau. Mae cyngor Caerffili, fel y dywedwyd, wedi gorfod oedi eu…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd—Paratoi ar gyfer y gaeaf
Ac yn olaf, ond nid y lleiaf o bell ffordd yn hyn i gyd, nid yw'r dinistr a achosir gan lifogydd yn ffisegol yn unig. Rwy'n gwybod bod hwn yn bwynt y mae fy nghyd-Aelod Heledd Fychan wedi ei wneud dro ar ôl tro hefyd. Mae llifogydd yn achosi trawma…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd—Paratoi ar gyfer y gaeaf
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad. Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, wrth gwrs, mae meddyliau pawb yn troi at y perygl o lifogydd, achos mae hynny'n parhau i dyfu fel perygl. Hyd yn oed o dan yr amcangyfrifon mwyaf optimistaidd, erbyn 2050 rydyn…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Rwy'n falch iawn o glywed hynny. Oherwydd eich swydd flaenorol, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n ymwybodol i hyn fod yn achos pryder mawr personol i mi. Mae tri Phrif Weinidog wedi bod wrth eu gwaith ers cyflwyno'r syniad i'r Senedd am y tro cyntaf. Mae hi'n…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar yr amserlen ar gyfer cyflenwi deddfwriaeth diogelwch tomenni glo o fewn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? OQ61601
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch am hwnna, Cwnsler Cyffredinol, a chroeso i'r swydd. Llongyfarchiadau ichi ar y swydd. Hoffwn i wybod pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r anialwch cyfreithiol sy'n bodoli i nifer yng Nghymru, lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith y DU ynglŷn ag adroddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr, 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030'? OQ61602
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd cyngor Caerffili i gau Llancaiach Fawr, ac mae'r penderfyniad wedi achosi dicter a thristwch, am fod Llancaiach Fawr yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n cynnig cyswllt byw â gorffennol ein hardal ni. Mae'n lle hudolus i…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am eich ateb, Brif Weinidog.
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i leoliadau diwylliannol yn Nwyrain De Cymru? OQ61624
26 Medi 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru (3)
Aelodau, mi wnawn ni symud ymlaen. Jest cyn i ni gau, hoffwn i ddweud ar y record bod consérn wedi ei godi ynglŷn ag ymddygiad Aelod yn gynharach heddiw wrth siarad gyda thyst, a bod yr Aelod o bosib wedi torri Rheol Sefydlog 17.25. Mi fydda i'n ystyried y…