—ac fe wnaf i drial ei ateb e mewn sawl ffordd. O ran ni fel corff, fel cyngor y celfyddydau, fe gawson ni doriad o 10.5 y cant, fel sy'n wybyddus i bawb. Roedd hwnna ar 19 Rhagfyr y llynedd. Bu'n rhaid i ni fynd i mewn i gyfnod o ddiswyddo gwirfoddol a gorfodol, mewn cydweithrediad â'r undebau. Roedd yn rhaid inni hefyd ailbroffilio ein cyllideb ni.
Un o'r pethau roeddwn i a'r cyngor yn frwd iawn i drial gwarchod oedd y cynigion amodol oedd wedi cael eu rhoi i'r sector yn y cytundebau amlflwyddyn, Ac felly, fel polisi, fel benderfynon ni beidio â throsglwyddo'r 10.5 y cant yna i'r sector yn gyfan gwbl, ond bu'n rhaid inni drosglwyddo 2.5 y cant. Felly, i ni fel corff, fe gollon ni tua 10, 13, efallai, o aelodau o staff. Roedden ni'n gorfod mynd i mewn i broses o ailstrwythuro. Roedd yn rhaid i bopeth ddigwydd yn gyflym iawn. Ac un o'r rhesymau roedd yn rhaid i fe ddigwydd yn gyflym oedd bod y Llywodraeth, oedd yn cynnig cefnogaeth ariannol i ganiatáu i hyn ddigwydd, yn mynnu ar un pwynt fod yn rhaid i fe ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ond, yng nghanol y broses, fe laciwyd hynny, ac roedd hwnna'n dda o beth, oherwydd roedd e'n golygu ein bod ni, a chyrff eraill oedd yn yr un sefyllfa, yn gallu ymestyn rhai dyddiadau cau, ac yn y blaen.
O ran yr adolygiad buddsoddiad, dim ond 13 corff gafodd yr hyn roedden nhw'n gofyn amdano yn eu ceisiadau gwreiddiol. Roedd tua 63 yn cael beth rôn i'n galw'n standstill, fwy neu lai—yr un peth—ac yn y bôn, oherwydd y costau cynyddol, roedd yn doriad, i bob pwrpas, mewn termau real. Ond wedyn, gyda'r 2.5 y cant yma'n cael ei drosglwyddo, roedd hwnna hefyd yn effeithio arnyn nhw.
Felly, petai yna fwy o doriad i gyngor y celfyddydau a'r grant, y peth arall i atgoffa'r pwyllgor ohono yw bod 92 y cant o'n cyllid ni i gyd yn cael ei drosglwyddo i mewn i'r sector, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Felly, rŷn ni'n gorff bach; rŷn ni'n gorff sydd yn rhyddhau ac yn rhannu'r incwm rŷn ni'n ei gael ledled Cymru. Pe baem ni'n cael toriad ychwanegol—ac mae hwn yn rhywbeth rŷn ni wedi bod yn ei ystyried ac yn edrych arno yn fewnol—fe fyddai'n golygu y byddai'n rhaid inni ailystyried faint rŷn ni'n gallu ei gyflawni, faint rŷn ni'n gallu ei gyflawni o ran y llythyr remit gan y Llywodraeth. A bydden ni'n gofyn am drafodaethau eithaf gonest ac agored gyda'r Llywodraeth yn hynny o beth.
Ein prif waith ni, a'n priod waith ni, yw datblygu'r celfyddydau yng Nghymru, ac mae hwnna'n rhywbeth rŷn ni'n ei gymryd yn gyfan gwbl o ddifrif, ond dim ond hyn a hyn y gall rhywun ei wneud, dwi'n meddwl. Oherwydd, yn y cytundeb remit, mae yna bob math o gyfrifoldebau'n cael eu rhoi arnom ni, ac mae rhai, mewn trafodaethau gyda Gweinidogion, yn fwy blaenllaw na'i gilydd, ond dyna rywbeth y byddai'n rhaid inni ei ystyried fel corff. A beth sy'n ddiddorol i fi yn fanna, er bod llai o staff, yw bod trial cael y staff i wneud llai yn rhywbeth sydd ddim yn dod yn reddfol, oherwydd mae'r staff mor ymroddedig i'r celfyddydau. Ond hyd yn oed ar hyn o bryd rŷn ni'n trial dweud, 'Wel, dydy hwnna ddim yn flaenoriaeth; mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar feysydd eraill.' Felly, o ran toriad, byddai toriad wedyn i ni fel corff yn golygu efallai lai o swyddi, ac felly lai o hyblygrwydd i ddelifro pob dim rŷn ni'n ei ddelifro ar hyn o bryd.