7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn. Rydw i am ganolbwyntio’n benodol ar station Sanclêr yn sir Gaerfyrddin, ond mi ddof i yn ôl at hynny mewn eiliad. Mi fyddwn ni i gyd yn y Siambr yma yn deall, wrth gwrs, bwysigrwydd datblygu rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59604
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i ofyn am ddatganiad am gysylltedd digidol a mynediad at fand llydan? Fel nifer o etholwyr, roeddwn i'n flin i glywed fod Broadway Partners wedi galw'r gweinyddwyr i mewn wythnos diwethaf. Mae'r cwmni yma wedi bod yn ymwneud ag adeiladu rhwydwaith band…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Wel, Dirprwy Lywydd, mae pentrefi a threfi sir Gâr bellach yn blastr o goch, gwyn a gwyrdd, wrth i dref Llanymddyfri baratoi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ardal wythnos nesaf. A gaf i gymryd y cyfle hwn, felly, i longyfarch y pwyllgorau apêl…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: A yw eogiaid yn wynebu difodiant o afonydd Cymru?
Rwy'n ddiolchgar i Huw am ganiatáu munud o'i amser dynodedig i mi. Ac fel hyrwyddwr rhywogaethau y sewin, brithyll y môr, hoffwn adleisio'r alwad am gynllun radical, wedi'i fesur i ddiogelu ein stociau pysgod dŵr croyw. Ond yn wahanol i'r eog, sy'n marw ar ôl…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Diolch yn fawr, Janet. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n credu bod yr ardoll ymwelwyr ym Manceinion yn wrth-Seisnig, neu ai dim ond yng Nghymru y mae'n wrth-Seisnig?
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ailddynodi HS2
Byddai ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig a darparu’r cyllid canlyniadol i Gymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru. Yn wir, ar bwynt o egwyddor, pa genedl wâr fyddai ddim eisiau cysylltu ei phobl â’i gilydd? Mae gyda ni…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ailddynodi HS2
Nawr, fel y gwyddom i gyd, mae diffyg cronig o gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael effaith ddofn ar yr economi, gan ei gwneud hi'n anos i fusnesau ffynnu ac i bobl gael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae hefyd yn…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ailddynodi HS2
Mae'r ffaith nad ydyn ni'n cael y £5 biliwn yma yn ddim byd mwy na sgandal, a bod yn honest, a dwi eisiau esbonio pam y byddai buddsoddiad o'r math yna yn gallu trawsnewid y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus yn fy rhanbarth i ac ar draws Cymru. Mae'r…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ddatganiad ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu banc cymunedol? Yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl tref yn fy rhanbarth i wedi cael ergyd wrth iddyn nhw glywed y newyddion bod eu banciau yn cau. Er enghraifft, mae'r banc olaf yn…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r farn a fynegwyd yn natganiad diweddar y Llywodraeth ar ddiwygio deintyddol bod deintyddiaeth breifat yn ddewis arall derbyniol, neu a welwn wir ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r proffesiwn i sicrhau…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Llandeilo, Hwlffordd, Abergwaun—enghreifftiau o ddeintyddion yn fy rhanbarth i lle mae darpariaeth NHS wedi dod i ben dros y misoedd diwethaf. Mae'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghymru wledig yn argyfyngus ar hyn o bryd, a'r newid, fel roeddech chi'n…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59370
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Mewn ymateb i FOI gen i ychydig o wythnosau yn ôl, mae yna 11,000 o bobl yn y rhanbarth rŷn ni'n dau yn ei gynrychioli ar restr aros i gofrestru gyda deintydd NHS. Llynedd, fe wnaeth y BBC arolwg ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys ein rhanbarth ni, a oedd…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Wel, gan ei bod hi heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, fel rŷch chi wedi fy nghlywed i'n dweud o'r blaen yn y Siambr, dwi'n cael llawer iawn o ohebiaeth gan ferched yn y gorllewin sydd yn dangos…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59227
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Diolch yn fawr i chi am y cadarnhad yna. Mae'r ffigurau yna ar eu ffordd, felly edrych ymlaen i'w gweld nhw. Ac mae diddordeb penodol gen i, fel sawl un ohonom ni yn y Siambr, yn ymdrechion y Comisiwn i gynyddu canran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru…
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y chweched Senedd? OQ59186
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr i chi am yr ateb. Dros Gymru, fel rŷch chi'n gwybod, mae dros ryw 1,200 o brojectau sosioeconomaidd wedi cael eu cyllido dan y cynllun datblygu gwledig presennol, ac mae'r projectau hyn wedi cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i gyllid yr UE ddod i ben? OQ59133
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Weinidog, nid yw’r cyhoeddiad siomedig yn hwyr nos Wener fod y cynllun cyllid brys ar gyfer gweithredwyr i’w ymestyn am dri mis yn unig wedi darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Ochr yn ochr â chostau cynyddol—tanwydd, cynnal a chadw a chyflogau…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd ddechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dwi'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd holl anghenion trydan Cymru yn y dyfodol yn dod o ffynonellau adnewyddol, a hynny erbyn 2035. Ond mae fy nghwestiwn i'n gysylltiedig â sut rydym ni'n bwriadu…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru parthed codi peilonau trydan yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59095
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ar ôl blwyddyn a hanner, dwi'n anghofio.