27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch i glywed bod ystyriaethau yn cael eu rhoi i barhad y gwasanaeth, achos mae nifer fawr o gymunedau ledled Ceredigion, sir Gâr a sir Benfro wedi'u syfrdanu gan y cyhoeddiad bod cyllid y Llywodraeth ar gyfer y Bwcabus yn dod i…
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru? TQ851
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i chi am gydnabod y diffygion sydd wedi bod, a dwi'n falch i glywed bod yna beth gwelliannau. Ond, Brif Weinidog, mae trethdalwyr Cymru yn cyllido prosiect HS2 yn Lloegr, ac er bod e'n cael ei barseli fel prosiect Cymru a Lloegr, mae'n amlwg…
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyflwr cysylltedd rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ59953
26 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, bawb.
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ynni gwyrdd
Ddirprwy Lywydd, mae'r hyn a welsom yn ddiweddar gyda chanlyniad trychinebus arwerthiant gwynt ar y môr Llywodraeth y DU yn codi cwestiynau anghyfforddus ynglŷn ag a fydd y cyfleoedd hyn yn cael eu gwireddu. Mae'n sgandal nad oedd unrhyw enillwyr gwynt…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ynni gwyrdd
Rŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma am bwysigrwydd mynd i'r afael â'r her newid hinsawdd. Yn ddiamau, dyma un o'r heriau mwyaf yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn fwy perthnasol fyth yng ngoleuni bwriad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i rwyfo nôl ar…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llandeilo, Abergwaun, Cross Hands, Rhydaman—dyma rai ardaloedd yn fy rhanbarth i sydd wedi'u heffeithio'n fawr yn barod wrth i 24 y cant o ddeintyddfeydd yn ardal Hywel Dda ddod â'u cytundebau NHS i ben dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn anffodus, mae'r ffigwr…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae'r un pryderon gennyf innau ac eraill ynglŷn â'r sefyllfa bresennol, ac rwyf innau'n teimlo yn rhwystredig iawn hefyd oherwydd ymagwedd Llywodraeth y DU yn hyn o beth. Mae'r ffaith…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1337 'Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol'
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, a hoffwn i, fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod, annog pobl i gofio am Ddydd Owain Glyndŵr dydd Sadwrn, ac i ddathlu hefyd—16 Medi. 'Na gwall na newyn na gwarth, / Na syched fyth yn Sycharth': cwpled…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ystâd y Goron
Am gyfnod rhy hir, mae daearyddiaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn rhwystr i ddatblygiad economaidd. Heddiw, mae cyfle hanesyddol i'r rhanbarth ddod yn bwerdy i'r chwyldro diwydiannol gwyrdd. Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau ein bod yn achub ar y…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ystâd y Goron
Ymhell o fod yn elwa ar fanteision ei daearyddiaeth anhygoel, mae'n destun llawer o rwystredigaeth i mi fod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle hynny dan anfantais yn rhy aml oherwydd y ddaearyddiaeth honno. Mae harddwch ein harfordir yn aml wedi teimlo fel…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ystâd y Goron
Mae’r rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli wedi’i bendithio â rhai o’r arfordiroedd mwyaf prydferth yn unrhyw le yn y byd. Drwy gydol ein hanes, mae Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd wedi cysylltu Cymru â llwybrau masnach byd-eang, wedi darparu bwyd ac adnoddau i…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr ichi am yr ymateb yna. Mae pawb yn y Siambr yn ymwybodol iawn o'r effaith hynod o niweidiol mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar y gymuned amaethyddol. Ces i'r profiad yn ddiweddar iawn o ymweld â ffarm ym Mancyfelin yn sir Gaerfyrddin a gweld…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ddileu TB buchol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ59835
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau gwledig
Dwi'n gorffen gyda hyn: fel dwi wedi ei awgrymu lawer gwaith, mae gwreiddiau tlodi gwledig yng Nghymru yn deillio o bolisïau San Steffan, ond mae llawer o rai eraill hefyd yn nes adref. Felly, dwi wedi galw mwy nag unwaith am strategaeth gan Lywodraeth Cymru…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau gwledig
Mae yna eironi penodol yn y ffaith bod y Ceidwadwyr yn cyflwyno eu cynnig heno, o gofio bod cymaint o'r rhwystrau presennol hyn i ddatblygiad economaidd yn ein cymunedau gwledig yn gynnyrch uniongyrchol polisïau'r Torïaid. I roi un enghraifft i chi, mae her…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau gwledig
Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron y prynhawn yma. Diolch i Paul Davies hefyd am amlinellu'r ffaith bod busnesau bach yn asgwrn cefn yr economi yng nghefn gwlad, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ffermydd teuluol, a hefyd y ffaith…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwyf wedi fy mrawychu, fel chithau, gan adroddiadau diweddar y bydd oddeutu 100 o swyddi yn y gwesty yn cael eu colli o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i ddefnyddio'r gwesty at ddiben cartrefu…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud o'r diswyddiadau a ragwelir yng Ngwesty Parc y Stradey, Llanelli? TQ807
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth
Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr ymchwiliad yma i gyflwr deintyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir fod deintyddiaeth mewn sefyllfa argyfyngus, yn arbennig efallai mewn ardaloedd gwledig, gyda…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i Paul Davies am godi’r mater am ddatblygu economaidd ym Mhreseli Penfro. Fel rŷn ni'n gwybod, mae busnesau bach yn wynebu llawer iawn o heriau ar hyn o bryd, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus wael, cysylltedd digidol anwadal, a hefyd…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Datganoli adnoddau dŵr yn llawn
O safbwynt ehangach, Llywydd, mae cyflwr truenus ein hafonydd yn adlewyrchu ffolineb trychinebus preifateiddio dŵr—model methedig sydd, ers ei sefydlu o dan Lywodraeth Thatcher, wedi methu cwsmeriaid a'r amgylchedd fel ei gilydd. Nid yw'n syndod yn hyn o beth…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Datganoli adnoddau dŵr yn llawn
Hoffwn droi nawr at fater sy'n tanlinellu'r achos dros lawer mwy o reolaeth ddeddfwriaethol ar ein hadnoddau dŵr, sef y dirywiad yn ansawdd ein hafonydd a dyfrffyrdd eraill oherwydd esgeulustod cwmnïau dŵr. Ar hyn o bryd, mae llai na 45 y cant o'n hafonydd yn…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Datganoli adnoddau dŵr yn llawn
Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r prynhawn yma drwy danlinellu pa mor bwysig yw dŵr a symboliaeth cronfeydd dŵr i'r rhanbarth dwi'n ei chynrychioli. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae gwleidyddiaeth, diwylliant a chof cenedl yn parhau i gael eu trwblu…