15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, mae confensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig o 1951, y mae'r DU wedi'i gadarnhau, yn nodi na ddylai'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel—pob ffoadur o bob rhyfel—orfod ceisio caniatâd yn gyntaf cyn gofyn am ddiogelwch gan wlad groesawu. Mae'r cam…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Mae adroddiadau yn dangos bod Boris Johnson ar fin ymweld â Riyadh mewn ymgais i argyhoeddi llywodraeth Saudi i hybu cynhyrchiad olew. Credir y bydd Llywodraeth Saudi yn ceisio cael sicrwydd na fydd eu polisi yn Yemen dros yr wyth mlynedd…
9 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin
Na, nid oes gennyf amser. Yr hyn y gallwn ei wneud yw blaenlwytho sancsiynau enfawr a pharlysol i gael effaith ar unwaith ar gymdeithas Rwsia. Po gyflymaf y byddwn yn eu gosod, y cyflymaf y gallwn lesteirio gallu Putin i ladd pobl yn Wcráin. Dylem nodi'n glir…
9 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin
Diolch, Lywydd. Mae pob rhyfel ym mhobman yr un mor ofnadwy i'r bobl sy'n cael eu dal ynddynt, ond mae rhai rhyfeloedd yn cynnwys hadau dinistr mor bellgyrhaeddol fel bod ganddynt allu i'n llyncu ni i gyd. Rwy'n credu ei bod yn fwyfwy amlwg fod y rhyfel yn…
9 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae fy etholaeth i, a chymunedau yn fy etholaeth i, fel etholaethau fy nghyd-Aelodau, wedi cael ei heffeithio yn gyson yn y blynyddoedd diweddaf, wrth gwrs, gan y ffenomenon o stormydd mwy niferus a mwy difrifol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cael ei…
9 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
4. Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt? OQ57730
8 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gan droi, Prif Weinidog, at y sefyllfa sy'n wynebu menywod yma yng Nghymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dangosodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, sydd eisoes yn sylweddol, wedi cynyddu…
8 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, ym mis Mai 1937, croesawyd cannoedd o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi rhag ffasgaeth i Gymru yn rhan o ymdrech ar y cyd a drefnwyd yn wirfoddol—eto, yn wyneb diffyg gweithredu gan Lywodraeth Prydain ar y pryd. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn…
8 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n amhosibl peidio â meddwl am y nifer fawr o fenywod hynny o Wcráin, llawer ohonyn nhw â phlant, wedi blino, wedi'u trawmateiddio, yn anobeithiol, ar ôl teithio allan o ardal ryfel ac ar draws cyfandir…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cafwyd dau gais arall am weithredoedd o undod rhyngwladol a glywsom gan ein cyfeillion yn Wcráin. Un am gymorth ymarferol ar unwaith, ac un o arwyddocâd symbolaidd enfawr. Y cymorth ymarferol yr oedden nhw'n galw amdano oedd canslo dyled dramor Wcráin ar…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn ystod ymweliad Mick Antoniw a minnau ag Wcráin, cawsom gyfle i gyfarfod ag amrywiaeth eang iawn o bobl—do, Gweinidogion y Llywodraeth, ond, yn bwysicach na hynny, dinasyddion cyffredin Wcráin, undebwyr llafur, trefnwyr hawliau dynol, pobl yn y mudiad…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar hyn o bryd, mae llong sy'n cludo olew o Rwsia wedi ei docio yn Aberdaugleddau; cyrhaeddodd yno ddydd Sadwrn ac mae'r olew ar ei ffordd i burfa olew Valero. Mae disgwyl i ail long, sydd hefyd yn cludo olew o Rwsia o borthladd…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r golygfeydd yr wythnos diwethaf yn Abertawe sef ciw am gynllun rhannu bwyd, ceginau cawl ein dydd, mewn dinas lle mae'r galw am barseli bwyd brys, yn ôl yr adroddiadau, wedi dyblu mewn wythnos yn unig, yn ddelweddau o dlodi torfol nad ydym wedi'i weld…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Er bod croeso i'r arian newydd yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn sicr, a allwch chi ddeall y beirniadaethau a geir gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi ynghylch dull ad-dalu'r dreth gyngor, ei fod yn lledaenu'r arian yn rhy denau ac yn methu…
15 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd llawer o bobl wedi gweld Andy Davies o ffilm sobreiddiol Channel 4 o'i ymweliad â Phenrhys yr wythnos diwethaf—cymuned sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sydd ar fin mynd i dlodi nad ydym yn sicr wedi gweld ei debyg ers y 1980au. Yr wythnos diwethaf…
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae stripio asedau carbon yn ffenomen fyd-eang. Ychydig cyn y Nadolig, cynigiodd Llywodraeth Awstralia feto weinidogol ar ddatblygiadau credyd carbon coetir dros 15 hectar neu lle maen nhw'n ffurfio mwy na thraean o fferm. A ydych chi'n barod i ystyried…
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ydy Llywodraeth Cymru yn barod i ymrwymo i gefnogi'r ail fodel a gwrthwynebu'r cyntaf?
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
'blociau coedwig llai o fewn daliadau tir amaethyddol parhaus yn rhan o strategaeth tuag at arallgyfeirio ffrydiau incwm ar gyfer daliadau fferm. Gall lleiniau coetir llai a mwy ynysig o'r fath hefyd fod â manteision o ran lleihau'r risg o haint pathogen…
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A senario 2:
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
'trosglwyddo unedau tir mwy...o amaethyddiaeth i goedwigaeth...drwy werthu daliadau tir amaethyddol cyfan...i fuddsoddwyr coedwigaeth. Gall hyn achosi pryderon ynghylch colli gwerthoedd diwylliannol amaethyddol a'r defnydd is-optimaidd o adnoddau tir'.
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd yr Athro John Healey a'i dîm yn ysgol gwyddorau coedwig Prifysgol Bangor adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gennych fel Llywodraeth, a oedd yn gosod mas dwy senario o berchnogaeth bosibl ar gyfer dyfodol coedwigaeth yng Nghymru…
1 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nos Iau wythnos diwethaf, bues i mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth a alwyd yn sgil prynu fferm leol, Frongoch, gan gronfa fuddsoddi Foresight er mwyn plannu coed ac ennill credydau carbon. Mi oedd yna deulu ifanc yno oedd…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod y farn gonsensws, yn sicr ymhlith yr arbenigwyr rhyngwladol yr wyf i wedi bod yn eu darllen, yn symud tuag at strategaeth ategol, y mae'n amlwg sydd â rhan i'w chwarae ar gyfer gofal sylfaenol, ond sy'n ategu hynny gyda'r clinigau arbenigol…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Hyd yma, mae clinigau arbenigol ar gyfer COVID-19 hir wedi cael eu sefydlu yng Nghanada, yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, Sbaen, Norwy, ac, yn yr Eidal, mae'r sefydliad iechyd cenedlaethol yno wedi argymell yn ddiweddar y dylid creu…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, bu llawer o drafod yn ddiweddar ynghylch byw gyda COVID. Mae'n bwysig cofio, pan fyddwn ni'n clywed yr ymadrodd hwnnw, wrth gwrs, bod bron i 60,000 yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn byw gyda COVID hir. Mae COVID hir neu syndrom…