10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'r pethau mwyaf cyffrous am y cynlluniau diwygio yw'r addewid i ddeddfu i warantu cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched wrth galon ein prif gorff democrataidd. Tra bod cwotâu rhywedd statudol yn ganolog i'r prif gynigion rŷn ni wedi'u cyhoeddi…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'r ffyrdd o gadarnhau eich bod chi'n iawn, wrth gwrs, yw gwybod bod y Blaid Geidwadol yn anghytuno â chi, oherwydd maen nhw wedi bod ar ochr anghywir hanes ar bron bob cwestiwn pwysig mewn 300 mlynedd o gynnydd dynol.
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs, mae'r Blaid Geidwadol, yn ôl y disgwyl unwaith eto, yn dweud nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion. Maen nhw bron yn iawn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn nad yw pobl Cymru ei eisiau yw mwy o wleidyddion Torïaidd, fel y gwelsom ni'n cael ei ddangos…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, efallai y byddai rhai yn meddwl ei fod yn ddewis rhyfedd i ni ddewis cyhoeddi telerau ein cytundeb ar gryfhau democratiaeth Cymru ar yr un diwrnod ag agoriad swyddogol y Senedd arall honno ar lannau afon Tafwys. Rwy'n credu ei fod yn…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n cyfeirio at y dadansoddiad cynhwysfawr a'r dystiolaeth a aeth i mewn i'r un cwestiwn hwn o ran Lloegr; a allwch chi addo y bydd y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael yr un lefel o ddadansoddiad fforensig a chynhwysfawr ag y…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gall yr Uchel Lys ein helpu ni yn y ffordd honno, oni all? Gan ei fod mewn gwirionedd yn ymchwilio i'r union gwestiwn yr ydych chi newydd ei godi, Prif Weinidog. Dyma mae'n ei ddweud: 'nid oedd unrhyw brawf gwyddonol yng nghanol mis Mawrth 2020 bod…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaeth yr Uchel Lys, yn ei benderfyniad, y pwynt cyffredinol, onid wnaeth? Daeth i'r casgliad cyffredinol, o gofio'r ddealltwriaeth gynyddol bod trosglwyddo asymptomatig yn bosibilrwydd gwirioneddol, y dylid bod wedi newid y dull o ryddhau cleifion o…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddai'r holl elusennau canser yng Nghymru yn cytuno â chi ein bod ni angen pwyslais brys newydd ar ddiagnosis a chanfod cynnar, ond maen nhw'n dweud bod angen gwneud hynny yn ganolog i strategaeth ganser gynhwysfawr newydd i Gymru, yn unol ag argymhellion…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam rydym ni yng Nghymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall hyd yn oed, angen pwyslais yn ein strategaeth canser ar ddiagnosis cynnar. Y mis hwn, canfu astudiaeth arloesol yn The Lancet y sicrhawyd diagnosis o dros 30 y cant o ganserau…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Bu gan Gymru gyfraddau goroesi canser gwael yn gyson o'i chymharu â gwledydd datblygedig eraill tebyg. Pam mae hynny?
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r hyn rŷch chi wedi ei ddweud, eich bod chi yn mynd i roi ystyriaeth i'r syniad yma o niwrolegydd arweiniol. Fel rhan o'r ystyriaeth hynny, ac fel roedd Peter Fox wedi gofyn, a fuasech chi'n fodlon cwrdd…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Ers hynny, mae Bob wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r prawf SMART yng Nghymru, a thra bod hyn yn ddatblygiad positif, rwyf ar ddeall fod Bob dal heb gael ei weld gan arbenigwr fel rhan o’r broses hynny, a hyn nawr tua 18 mis—blwyddyn a hanner—ers iddo…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Yn ôl y data, mae'r risg o berson yn datblygu MND o gwmpas un mewn 300. Yng Nghymru, ar unrhyw un adeg, mae tua 200 o bobl yn byw gydag MND. Mae'r rhif yma yn is na'r disgwyl, efallai, o ganlyniad i allu'r clefyd i ddatblygu'n hynod o gyflym. I draean o'r…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gennyf fy mod yn gallu cynnal y ddadl yma heno, er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran clefyd niwronau motor, a'r mynediad at driniaeth a chyfleusterau sydd ar gael yma yng Nghymru ar hyn o bryd…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ac roedd Jim Griffiths, o bentref genedigol fy mam, Betws, hefyd yn gefnogwr brwd o reolaeth gartref i Gymru drwy gydol ei fywyd gwleidyddol. Gall Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng costau byw ei hun, wrth gwrs, ar gyfer…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Dirprwy Lywydd wedi fy hysbysu yn ddibynadwy mai ar ben Llundain yr oedd y broblem yn awr, ac onid dyna'r pwynt? Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, bydd popeth yn iawn pan fydd Llywodraeth Lafur', pan nad yw Cymru erioed, ers y Ddeddf Ddiwygio, erioed wedi…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, cafodd yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu rhai newydd. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru adroddiad yn 2019 a oedd yn nodi y gallai rhoi'r un pwerau dros fudd-daliadau i Gymru ag…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r pwysau anhygoel sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, ond mae’n fy nharo i fod sefyllfa a oedd eisoes yn wael cyn y pandemig erbyn hyn wedi troi'n argyfyngus. Dwi wedi cael achosion yn ddiweddar o un etholwr yn…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ57827
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Fe glywon ni yn gynharach, wrth gwrs, yng nghwestiwn Sioned Williams, y cyfeiriad at adroddiad yr FSB, sy'n dangos sefyllfa heriol iawn ar gyfer siopau yn ein canol trefi, ac roedd 67 y cant o'r cyhoedd a oedd wedi cael eu cwestiynu yn disgrifio eu canol…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau canol trefi yn sir Gaerfyrddin? OQ57828
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Er bod cysgod ffasgaeth dros Ewrop eto, mae'r comedïwr Jimmy Carr yn dal i wrthod ymddiheuro am awgrymu bod marwolaethau cannoedd o filoedd o Sipsiwn wrth law'r Natsïaid rywsut yn rhywbeth i'w ddathlu. Ddydd Llun nesaf, mae'n perfformio yn ein prifddinas yn…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ar yr un penwythnos â'n rali gwrth-hiliaeth, penderfynodd Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, ei bod hi'n amser priodol i ailgychwyn y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yng nghanol y ddinas y gorfodwyd iddo ei hatal gan y…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Sul, fe wnes i a channoedd o bobl eraill, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, ymgynnull a gorymdeithio yma yng Nghaerdydd fel rhan o ddiwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig…
15 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, yn eich datganiad ysgrifenedig rydych chi wedi nodi eich parodrwydd i gydweithio â chynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae elusennau ffoaduriaid wedi mynegi eu pryder na fydd Wcráiniaid sy'n cyrraedd drwy'r cynllun hwn yn…