Rydyn ni'n credu bod isafswm o 10 y cant yn rhesymol. Rwy'n credu bod isafswm o'r amser sy'n cael ei dreulio i ddatblygu'r Gymraeg yn bwysig, ond, i ni, pan ydym ni'n arolygu, beth sy'n bwysicach yw ein bod ni'n edrych ar ansawdd y ddarpariaeth, ansawdd yr addysgeg, a wedyn yr effaith mae hwnna'n ei chael ar safonau disgyblion. Dwi'n credu bod yna arfer da allan yna, a dŷn ni wedi gweld tipyn o astudiaethau achos yn dod trwyddo yn ddiweddar, er enghraifft, lle mae ysgolion efallai lle mae pethau yn gweithio'n dda, mae yna weledigaeth gan arweinwyr—ac rwy'n sôn nawr am ysgolion Saesneg a hefyd dwyieithog—mae yna weledigaeth glir gan arweinwyr ynglŷn â beth maen nhw eisiau ei gyflawni, mae yna'n bendant frwdfrydedd tuag at yr iaith, ac rwy'n credu bod hynny yn hollbwysig, ac mae ffocws ar ddatblygu siaradwyr. Ers tipyn o flynyddoedd nawr, dŷn ni wedi rhoi'r ffocws ar edrych ar ba mor dda mae disgyblion yn gallu cyfathrebu drwy'r iaith. So, mae mwy o ffocws ar sgiliau siarad a gwrando mewn ysgolion Saesneg a dwyieithog, efallai, yn hytrach na darllen ac ysgrifennu, achos rydym ni'n credu yn y bôn fe ddown nhw ar ôl y siarad, ac mae hynny mor bwysig.
So, lle mae pocedi yn gweithio—. Fel dywedodd Mererid, mae yna bethau da yn gweithio ac yn effeithiol, lle mae gweledigaeth, mae cynllunio bwriadus ar gyfer datblygu'r Gymraeg, a hefyd mae buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon a staff yn yr ysgolion. Hefyd, fel dywedais i, maen nhw'n bendant yn datblygu'r brwdfrydedd. Wedyn, yn amlwg, ble dyw e ddim yn gweithio cystal, y gwrthwyneb, siŵr o fod, yw beth sy'n digwydd, lle dyw'r weledigaeth yna ddim gyda nhw a dyw e ddim i'w gweld efallai fel un o'r blaenoriaethau.
Felly, i ateb y cwestiwn, rwy'n credu bod y 10 y cant yn bwysig. Mae e'n rhoi ffocws i bobl ynglŷn â beth ddylen nhw ei gyflawni, ond hefyd mae fe'n bwysig, wrth wneud hynny, fod yna ddatblygiad a pharhad yn y medrau, a'i fod e'n fwy i'w wneud gydag ansawdd yr addysgu a'r ddarpariaeth i gael y safonau, felly, fel dydyn ni ddim wedyn yn gweld bod 10 y cant yn cael ei dreulio yn gwneud yr un patrymau iaith, er enghraifft, a'r un peth drosodd a throsodd, ond ei fod e'n adeiladu ar fedrau disgyblion. Efallai lle dŷn ni ddim yn gweld hwnna yw lle dyw hwnna ddim yn llwyddiannus ar hyn o bryd.