Early Years, Children, Young People and Education Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 11
- Geiriau a lefarwyd
- 499
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso, Aelodau a'r cyhoedd, i Bwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dyma'n hail gyfarfod ni o'r seithfed Senedd. Fe awn ni'n syth i mewn i eitem 1, sef cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Nodwch, os gwelwch yn dda, fod eitemau cyhoeddus y cyfarfod yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi fel arfer. Mae'r cyfarfod yma'n hollol ddwyieithog a bydd cyfieithu ar y pryd, fel rydych chi'n gallu gweld yn barod, ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Rydyn ni wedi derbyn un ymddiheuriad heddiw, gan Claire Johnson-Wood. Gaf i ofyn, Aelodau, a oes gennych chi unrhyw fuddiannau i'w ddatgan? Ie, Lynne, diolch.
Can I just draw Members' attention to my register and the fact that I'm on this adult learning course?