Diolch yn fawr, a diolch yn fawr hefyd am y cyfle i roi datganiad i gychwyn. Rwy'n falch iawn, yn amlwg, i fod yma heddiw—y tro cyntaf un i fi fod o flaen y pwyllgor hwn, neu unrhyw bwyllgor i ddweud y gwir, yn fy rôl newydd. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn gyntaf o lawer, achos rwyf i yn grediniol bod eich gwaith chi yn craffu ar fy ngwaith i a'r Llywodraeth hon wrth inni gyflawni'n blaenoriaethau dros bobl Cymru yn waith pwysig a chwbl allweddol. Rwy'n edrych ymlaen yn wir i glywed eich barn a'ch sylwadau chi ar waith y Llywodraeth, ond hefyd at gydweithio gyda chi wrth inni sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Mae hynny yn golygu gweithio ar draws y Llywodraeth, fel sydd wedi ei amlinellu yn y papur tystiolaeth sydd wedi'i gyflwyno i chi, ac fel hefyd mae'r rhaglen lywodraethu sydd newydd ei chyhoeddi yn ei gwneud yn glir.
Ond mae hefyd yn golygu, wrth gwrs, gweithio ar draws pob plaid a phob rhan o'r wlad, a bydd eich cydweithrediad chi fel Aelodau yn rhan hanfodol iawn o'r gwaith hwnnw. Rwy'n awyddus i gael perthynas adeiladol gyda chi gan gyfrannu at eich ymchwiliadau chi dros y blynyddoedd nesaf, a'u hystyried nhw'n fanwl hefyd wrth weithredu.
Mae'r Gymraeg wrth galon y math o Gymru rŷn ni fel Llywodraeth eisiau ei chreu—Cymru gynhwysol, greadigol, hyderus sy'n falch o'i hunaniaeth ei hunan. Fe welwch chi o'r papur ein bod ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o wneud hyn trwy wella mynediad at addysg Gymraeg ar bob cam o'r daith o'r blynyddoedd cynnar i addysg statudol ac addysg bellach ac uwch hefyd.
Ond nid iaith y dosbarth yn unig yw'r Gymraeg, mae hi'n fyw yn ein cymunedau ni, ac rŷn ni'n benderfynol o rymuso'r ardaloedd lle mae hi'n ffynnu fel iaith gymdeithasol. Mae'r gwaith o archwilio siẁd orau i wneud hyn wedi cychwyn, a rŷn ni hefyd wedi dechrau ar waith i estyn safonau'r Gymraeg fel bod mwy a mwy o sectorau yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y ddwy iaith. Ochr yn ochr â hynny, mae'n hanfodol ein bod ni trwy Gymru gyfan yn mynd â'r Gymraeg at bobl, lle bynnag maen nhw wrth wneud beth bynnag maen nhw'n ei wneud yn barod—ar y cae chwarae, yn y gweithle, mewn clybiau a gwasanaethau ac mewn gofodau digidol hefyd, yn bwysig iawn.
Rhaid i gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg fod yn hawdd, yn amserol ac yn sbort. Dyna pam fydd ein hymateb ni fel Llywodraeth i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Rwyf i am wneud mwy i wreiddio'r Gymraeg wrth ein holl bolisïau ni. Mae'r gwaith ym meysydd iechyd, diwylliant, yr economi ac eraill sy'n cael eu hamlinellu yn y papur ac yn ein rhaglen lywodraethu yn rhoi cyfeiriad clir o le rŷn ni eisiau mynd iddo fe, ac mae llawer mwy i ddod yn hynny o beth.