Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
- Dechrau
- 13:29
- Cyfraniadau
- 175
- Geiriau a lefarwyd
- 16,141
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 13:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croeso i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon. Mae swydd Cadeirydd y pwyllgor hwn yn cael ei rhannu rhyngof i a Lis McLean AS, a fi fydd yn cadeirio'r cyfarfod heddiw. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, a bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Cyfarfod dwyieithog ydy hwn, ac mae cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Rydyn ni wedi cael ymddiheuriadau gan yr Aelod o'r Senedd Lis McLean, a dwi'n gofyn rŵan a oes yna unrhyw fuddianau i'w datgan gan yr Aelodau cyn i ni gychwyn. Na. Dim i'w nodi neu ei ddatgan yn fanna.
2. Gwaith craffu gyda Gweinidog
Croeso i bawb i'r sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan. Croeso mawr ichi yma. Mae heddiw'n gyfle i'r pwyllgor gynnal ei sesiwn graffu gyntaf gyda'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon newydd yn y seithfed Senedd. Gan mai hwn yw ymddangosiad cyntaf y Gweinidog gerbron y pwyllgor yn ei rôl newydd, bydd yn gyfle inni drafod y gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma, gan gynnwys ymrwymiadau'r 100 diwrnod cyntaf a'r blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y Senedd.