Early Years, Children, Young People and Education Committee
- Dechrau
- 09:15
- Cyfraniadau
- 4
- Geiriau a lefarwyd
- 578
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:15.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso, Aelodau a'r cyhoedd, heddiw i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o'r seithfed Senedd—hyfryd i fod gyda chi heddiw.
Yr eitem gyntaf sydd gyda ni yw cyflwyniadau, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant. Jest noder, os gwelwch yn dda, fod eitemau cyhoeddus y cyfarfod yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi, fel arfer. Mae'r cyfarfod yn gwbl ddwyieithog ac mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae yna ddau ymddiheuriad wedi bod heddiw, oddi wrth Lis McLean a Claire Johnson-Wood. Oes gan Aelodau unrhyw fuddiant i'w ddatgan, os gwelwch yn dda? Na, dim buddiannau heddiw. Gwych, ocê, diolch yn fawr.
2. Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cylch gorchwyl y Pwyllgor
Felly, eitem 2—. Fe wnawn ni symud ymlaen yn syth, felly, ac yn glou, i eitem 2, ac mae hwn i ni edrych ar ein cylch gorchwyl ni heddiw. Felly, mae ein cylch gorchwyl ni yn bwrpasol yn fawr, ac mae hynny'n bwysig i sôn, fod—. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi sôn—. Yn y papur, fe welwch chi, ym mharagraff 7, eu bod nhw wedi dyrannu y dylai'r cylch gorchwyl fod yn un eang. Mae hynny'n bwrpasol, fel ein bod ni'n gallu ystyried ystod eang o bynciau fel rhan o'n gwaith pwyllgor ni. Felly, mae ein cylch gorchwyl yn cwmpasu blynyddoedd cynnar, addysg, gan gynnwys y Gymraeg mewn addysg, sgiliau, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol.