Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
- Dechrau
- 13:29
- Cyfraniadau
- 7
- Geiriau a lefarwyd
- 452
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 13:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon. Mae rôl y Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn wedi ei rhannu rhyngof fi a Mair Rowlands AS. Fi fydd yn cadeirio'r cyfarfod hwn. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod hwn yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv. Bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'r cyfarfod yn ddwyieithog ac mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael.
Rydym ni wedi cael ymddiheuriadau gan Helen Jenner a Louise Emery. Rydym hefyd wedi cael ymddiheuriadau gan Mair Rowlands AS ar gyfer dechrau'r cyfarfod hwn. Mae'n bosib y bydd hi'n ymuno'n ddiweddarach. A oes gan unrhyw Aelod fuddiannau i'w datgan? Na.
2. Papurau i'w nodi
Symudwn ymlaen i eitem 2, sef y papurau i'w nodi. A hoffai unrhyw un wneud sylwadau ar gofnod ynglŷn â'r papurau? A oes unrhyw sylwadau?