Diolch yn fawr, Cadeirydd. Hoffwn i jest roi gair o gyd-destun wrth agor y grŵp yma o welliannau. Mae tystiolaeth o sawl ffynhonell wedi amlygu pryderon bod y gyfundrefn safonau fel ag y mae yn methu â gwarantu triniaeth ddim llai cyfartal i siaradwyr Cymraeg ag sydd i siaradwyr Saesneg.
Mewn ymateb i ymchwliad urddas a pharch y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddiwedd 2023 a dechrau 2024, cofnododd fy ngrŵp fod unigolion, mewn rhai achosion, wedi penderfynu darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn Saesneg, er y byddent yn teimlo'n fwy cyfforddus a chartrefol yn ateb cwestiynau a/neu'n darparu tystiolaeth yn eu hiaith gyntaf, sef y Gymraeg. Roedd hyn yn rhannol er mwyn osgoi'r angen i drydydd parti weithredu fel cyfieithydd mewn sgyrsiau sensitif.
Fel y dywedodd Cymdeithas yr Iaith yn eu hymateb i ymgynghoriad Cyfnod 1 y pwyllgor hwn, a dwi'n dyfynnu,
'Mae Comisiynydd Safonau’r Senedd o reidrwydd yn ymwneud â materion sensitif ac mae gallu trafod y materion hynny yn Gymraeg os dyna dymuniad—neu, yn wir, angen—yr achwynydd, y sawl sy’n ymateb i honiadau, neu dystion perthnasol, yn hanfodol.'
Wrth ddadlau o blaid rhoi dyletswydd statudol ar y comisiynydd safonau o ran defnyddio'r Gymraeg, rhywbeth sydd ddim bodoli ar hyn o bryd, ychwanegodd y gymdeithas y byddai gwneud hynny yn, a dwi'n dyfynnu,
'symud o sefyllfa lle mae unigolion, yn enwedig achwynwyr allai fod yn fregus yn codi cwyn yn erbyn rhai o’r bobl fwyaf bwerus yng Nghymru, â’r hyder i wneud hynny fel mater o hawl yn Gymraeg, fel y dylent, nid ar ddisgresiwn ac ewyllys da y Comisiynydd Safonau o bryd i’w gilydd fel y sefyllfa cwbl ddiffygiol sydd ohoni.'
Byddem ni gyd yn cytuno felly fod sefyllfa o'r fath, hyd yn oed fel ag y mae'r system ar hyn o bryd, yn annerbyniol, ac yn anomali o'i gymharu â'r hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cymharol, ac mewn sefyllfaoedd cymharol yng Nghymru, hawliau mae'r Senedd hon yn briodol yn eu disgwyl gan eraill. Wrth ehangu sgôp y gyfundrefn safonau a phwerau'r comisiynydd safonau, dylem felly sicrhau bod ein gweinyddiaeth ni ein hunain yn gwarantu'r un egwyddorion sylfaenol.
Yn ein hadroddiad Cyfnod 1 fel pwyllgor, daethom i'r casgliad ar sail y dystiolaeth mai cam cadarnhaol ymlaen fyddai gweld swyddfa'r comisiynydd safonau yn dod yn ddarostyngedig i'r safonau iaith. Fe wnaethom ni argymhelliad unfrydol i'r perwyl hwn, a oedd yn cynnwys dau gam ymarferol ac allweddol y dylai'r Cwnsler Cyffredinol eu cymryd.
Yn gyntaf, dywedom y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynnwys Comisiynydd Safonau’r Senedd yn y rhestr o gyrff cyhoeddus a restrir yn Atodlen 6 i’r Mesur, ac yn ail, y dylai’r Cwnsler Cyffredinol hefyd gynnwys Comisiynydd Safonau’r Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol.
Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd y Cwnsler Cyffredinol gasgliad y pwyllgor y dylai’r comisiynydd safonau fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg, gan nodi eu bod hi wedi, a dwi’n dyfynnu,
'gofyn i'm swyddogion ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg, ac yn amodol ar farn y Comisiynydd byddaf yn mynd ati i baratoi gwelliannau ar gyfer Cyfnod 2'.
Ailadroddwyd y byddai ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg yn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Cyfnod 1 y Bil ar 13 Ionawr. Syndod, felly, oedd gweld bod y gwelliant sydd wedi ei osod gan y Cwnsler Cyffredinol yn y grŵp hwn, gwelliant 2, fel petai ond yn ymateb yn rhannol i argymhelliad y pwyllgor yn yr ystyr ei fod yn syrthio'n brin o fynd yr ail gam o gynnwys Comisiynydd Safonau'r Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol. Fel mae'r Cwnsler Cyffredinol yn amlwg yn ymwybodol, ar sail y tabl diben ac effaith a osodwyd gyda'i gwelliannau, canlyniad derbyn gwelliant 2 yn unig, ac enwi'r comisiynydd safonau yn y tabl yng ngholofn 2, Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg, yw rhestru'r mathau o ofynion y gallai'r comisiynydd safonau fod yn agored i orfod eu dilyn ar ryw bwynt amhenodol yn y dyfodol.
Byddwn yn annog Aelodau i gefnogi gwelliant 2 y Cwnsler Cyffredinol, ond ynddo ei hun, nid yw'n ddigonol, gan nad yw'n darparu llwybr clir a phrydlon i wneud yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gyfundrefn safonau yn realiti ymarferol. Byddwn hefyd yn synnu’n fawr petai Comisiynydd y Gymraeg wedi cymeradwyo'r fath sefyllfa, gan ei bod wedi pwysleisio, ar sail cynsail diweddar Llywodraeth Cymru yn ychwanegu cyrff at setiau o reoliadau safonau Cymraeg penodol a basiwyd yn y Senedd, mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflwyno dyletswyddau newydd.
O ystyried yr ymrwymiadau a roddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol i'r pwyllgor hwn ac i'r Senedd gyfan yn y ddadl Cyfnod 1, hoffwn felly i'r Cwnsler Cyffredinol gadarnhau wrth gyfrannu at y grŵp yma a wnaeth y Llywodraeth drafod gynnal trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg fel y gwnaethon nhw addo, a beth oedd barn y comisiynydd. Fy marn i yw ei bod hi’n allweddol bod y system safonau ymddygiad yn gweithredu o dan reolau clir ynghylch defnyddio'r Gymraeg mor fuan â phosib o ddechrau'r seithfed Senedd. Derbyn gwelliannau 2 a 10 gyda'i gilydd, felly, byddai'n sicrhau hyn drwy enwi Comisiynydd Safonau'r Senedd yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 a'i ychwanegu at gomisiynwyr eraill Cymru sydd eisoes wedi bod yn gweithredu'r rheolau hyn nes bron i ddegawd. Yn ymarferol, byddai hyn yn galluogi comisiynydd yr iaith i ddewis y rheolau fwyaf perthnasol ac addas i swyddfa'r comisiynydd safonau drwy drafodaeth gyda'r comisiynydd safonau a phenderfynu pa rheolau yn union fyddai'n rhesymol a chymesur i'w gosod.
Yn gryno wedyn ar welliant 9, pwrpas y gwelliant hwn yw ei gwneud yn ofynnol bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ystyriaeth benodol yng nghyd-destun penodiad y comisiynydd. Bydd hyn yn cyfrannu at y nod ehangach o hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn y system safonau ymddygiad yn y Senedd hon drwyddi draw, a sicrhau bod cynllunio capasiti'r system i ymateb i ddewis ac angen iaith yn digwydd yn drefnus ac yn systemataidd ar bob lefel, gan gynnwys wrth wneud penodiadau allweddol. Diolch.