Finance Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 69
- Geiriau a lefarwyd
- 8,152
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i chi i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Cyllid. Mae'r cyfarfod yma'n ddwyieithog, ac felly mae cyfieithu ar y pryd ar gael. Fedraf i jest checio a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w nodi? Na, dim byd. Mae Rhianon Passmore yn rhedeg yn hwyr, felly rydyn ni'n gobeithio y bydd hi'n ymuno efo ni'n hwyrach, a dwi'n gwybod bod Adam Price yn mynd i fod yn gadael ychydig yn gynnar hefyd. Felly, rydyn ni'n ymwybodol o hynny ac yn derbyn yr ymddiheuriadau hynny. Dwi hefyd yn croesawu aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sydd, o dan Reol Sefydlog 17.49, wedi cael gwahoddiad i fynychu ar gyfer eitemau agenda 3 a 5, mewn perthynas â'r gwrandawiad cyn enwebu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru. Felly, croeso cynnes i chi yma hefyd, fel Aelodau, ac mi fyddwch chi'n cymryd rhan ac yn holi cwestiynau yn ystod eitem 3.
2. Papurau i'w nodi
Felly, fe wnawn ni symud at eitem 2, sef papurau i'w nodi. Ydy pawb yn hapus i nodi'r papurau hynny? Ydyn, dwi'n gweld pobl yn nodio. Diolch yn fawr, ac fe wnawn ni symud ymlaen at eitem 3.