Wel, dwi'n meddwl bod lot o bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud heb symud at y trydydd cam yn y broses roeddwn i'n ei amlinellu. Bydd y cam cyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch o fewn strategaeth ddiwygiedig 'Cymraeg 2050'. So, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf ailwampio'r strategaeth—mae'n bron degawd nawr ers y strategaeth presennol—a rhoi'r cysyniad o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn y strategaeth. Rŷch chi'n gallu gwneud hwnna heb gael pethau yn statudol, ac mae hwnna yn gyrru'r ffordd ŷn ni'n mynd ati yn y Llywodraeth.
Ar yr un pryd, does dim rhaid aros tan hynny; rŷn ni'n gallu gweithio i roi'r syniad yna i mewn i strategaethau eraill rŷn ni'n eu defnyddio fel Llywodraeth. Rŷn ni wedi bod yn siarad bore yma am y strategaeth economaidd, a ble mae'r iaith Gymraeg yn honno. Wel, os ydyn ni'n derbyn yr egwyddor o greu ardaloedd fel hyn, bydd yn rhaid i strategaethau eraill y Llywodraeth gydnabod hynny a rhoi hwnna ar waith yn y strategaethau felly. Pan ŷn ni'n gwneud hynny, gallwn ni fwrw ymlaen i gael mwy o sgyrsiau gyda phobl ar y cwestiynau sydd yn dal i fod yn ddadleuol i bobl.
Mae adroddiad y comisiwn yn glir: maen nhw'n dweud mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw e i ddynodi ardaloedd. Ond pan ŷch chi'n siarad gyda phobl, mae mwy nag un farn ar hynny. Dwi wedi siarad gyda nifer o bobl sy'n meddwl, 'Wel, mae awdurdodau lleol yn y lle gorau i wneud hynny.' Maen nhw'n agosach at y cymunedau, nhw sy'n gwybod ble mae'r ardaloedd ar lawr gwlad sy'n siarad Cymraeg bob dydd, nid ni yn eistedd wrth ddesg yma yn Cathays Park. Mae rhai pobl eraill yn meddwl ei bod hi'n well rhoi'r dewis i'r cymunedau: ydych chi eisiau cael eich dynodi fel ardaloedd sy'n rhan o'r pecyn?
Yr ail gwestiwn mae pobl yn ei godi yw nid pwy sy'n mynd i'w wneud e ond pa wybodaeth sy'n mynd i fod yn rhan o'r dewisiadau. Mae'r comisiwn yn glir: maen nhw'n dweud, 'Dim ond y sensws'. Un pwynt. Os oes 40 y cant o bobl yn siarad Cymraeg mewn ardal, ŷch chi i mewn; os oes llai, ŷch chi mas—jest ar y sensws. Mae lot o bobl eraill yn dadlau, 'Na, mae lot o wybodaeth arall sy'n bwysig pan ŷch chi'n gwneud y dynodiad.' So, mae dadl; dŷn ni ddim wedi cwblhau hynny chwaith.
A'r trydydd peth dwi wedi clywed pobl yn ei ddweud yw: pa leisiau sy'n mynd i fod yn cael dylanwad ar y penderfyniad? Ble mae'r hawl i bobl gael eu lleisiau nhw wedi eu clywed pan fydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud? So, pan ŷn ni'n gweithio ar gam 1 a cham 2, gallwn ni barhau i gael y sgyrsiau yna, ac, ar y diwedd, os yw'r Llywodraeth nesaf eisiau mynd i'r cyfeiriad statudol, wel, bydd yn rhaid iddyn nhw gael atebion i gwestiynau felly.