Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. So, dwi wedi bod yn y rôl yma ers Ebrill dechrau’r flwyddyn ddiwethaf. Mae’n dod o fewn fy nghyfrifoldebau i wneud yn siŵr bod hyn yn glanio'n ddeche ar ddiwedd 2025, a hefyd cynllunio rhaglen newydd i symud mewn i’r pedair blynedd nesaf.
Ers cymryd drosto, dwi wedi gwneud lot o waith i ystyried yn gymwys beth sydd wedi cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod, ac mae yna andros o lot. Fe wnaethon ni ymateb i'r cwestiynau ddaeth o'r pwyllgor y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn amlinellu lot o'r stwff gwnaethon ni tan hynny.
Yn ystod y flwyddyn dwi wedi bod yn y rôl, beth dwi wedi bod yn ymdrechu i wneud yw tynnu pethau at ei gilydd ac edrych nôl ar y llwyddiannau sydd wedi digwydd a hefyd yr heriau ddaeth o'n blaenau ni yn ystod y cyfnod. Roedd yna lot o heriau, nid dim ond yr amlen ariannol, ond hefyd newidiadau yn y Llywodraeth ei hun a hefyd y ffaith roedd yn rhaid inni ymateb i fod yn wir hyblyg i bopeth oedd yn digwydd o'n cwmpas ni. Pob credyt i'r tîm ac i'r rheini oedd yn ei rhedeg hi. Dŷn ni wedi dangos y gallwn ni fod yn hyblyg iawn, fel dylai'r rhaglen allu bod, ac mae'r lefel o bositifrwydd o gwmpas y rhaglen o hyd yna.
Beth dwi wedi'i wneud yw treial wedyn tynnu pethau at ei gilydd, sef i edrych ar, nawr, dri pheth—dim pethau newydd, ond sut dŷn ni'n tynnu'r pethau at ei gilydd, sydd eto wedi cael eu hadrodd nôl atoch chi, dwi'n meddwl, yn yr ateb flwyddyn ddiwethaf—sef i edrych ar Senedd reform, edrych ar innovation ac edrych ar ein pobl, sut dŷn ni'n buddsoddi yn ein pobl nawr ar gyfer y newidiadau sydd i ddod. Roedd y rhaglen ei hun yn uchelgeisiol ond doedd hi byth fod i fod y diwedd; roedd hi byth o ddechrau i'r diwedd. Mae hwn yn rhoi sylfeini inni ddarparu'r rhaglen nesaf, ac i adeiladu ar hynny. Dyna beth sy'n bwysig: gwneud yn siŵr bod hwn yn rhyw gontinwwm sydd gyda ni o wella'r sefydliadau.
So, rŷn ni'n gwneud lot o waith ar Senedd reform, rŷn ni'n gwneud lot o waith ynglŷn â'r ystad—a gallai Dom ddod mewn, efallai, i sôn am beth rŷn ni'n ei wneud gyda'r ystad. Fe wnes i sôn am network Draig. Rŷn ni wedi gwneud lot o waith gyda'r IT a gwneud yn siŵr bod—. Fe gawsom ni laptop roll-out ddiwedd blwyddyn ddiwethaf, dwi'n credu—llwyddiannus iawn—i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod am y cam nesaf mae'n rhaid inni fynd drwyddo.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd, dwi wedi bod yn edrych nôl ar y workstreams, rili, oedd yn cael eu cymryd ymlaen yn y drydedd flwyddyn, rili, o ddarparu'r rhaglen, a gwneud lot o waith i weld beth weithiodd fanna, ond, yn fwy pwysig, beth wnaeth ddim gweithio, oherwydd dyna fydd yn ein helpu ni wedyn i gynllunio beth sydd i ddod nawr yn y cyfnod nesaf. Gallaf i fynd drwy bopeth nawr, ond efallai byddai'n rhwyddach pe buaswn i'n cynnig rhannu gyda'r pwyllgor y rhestr o'r pethau dŷn ni wedi eu darparu yn ystod y rhaglen i gyd.