Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 207
- Geiriau a lefarwyd
- 16,690
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae cyfieithu ar gael ar y pryd. Rydym ni wedi cael ymddiheuriadau y bore yma gan Lee Waters. Mae e'n mynychu cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i glywed tystiolaeth ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dydw i ddim yn gweld bod yna, felly fe wnawn ni symud yn syth ymlaen.
2. Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chyrff diwylliannol (6)
Heddiw, byddwn ni'n cymryd tystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad ar effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon, a bydd y pwyllgor yn clywed gan Creu Cymru, Canolfan Gelfyddydau Chapter a National Theatre Wales. Fe wnaf i ofyn i'n tystion ni i gyflwyno eu hunain ar gyfer y record. Fe wnaf i fynd at y rhai yn yr ystafell yn gyntaf, ac fe wnaf i fynd at Hannah yn gyntaf.