Os caf i ddweud gair bach fan hyn. Popeth yn iawn am linellau atebolrwydd—mae angen gweithio hwnna mas yn fanwl. Mae’n rhaid cofio bod Gweinidogion ac Ysgrifenyddion yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi gael rhyw fath o system weddol barhaol sydd yn gyson dros 10 mlynedd. Ond fy mhrif ofid i am Ran 4 yw bod sôn cyson yma am addysg Gymraeg, ond addysg Gymraeg yn yr ystyr o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc, nid darpariaeth Gymraeg. Gallwch chi, mewn ysgol Saesneg, gael darpariaeth Gymraeg, ond gallwch chi ddim cael addysg Gymraeg. Does dim un sôn yn y Bil yma, nac yn yr adran yma, am ysgolion Cymraeg, am ysgolion cyfrwng Cymraeg, am y system drochi cynnar; holl seiliau’r Llywodraeth hyd yn hyn, dros 20 mlynedd o sut i ddatblygu addysg Gymraeg, dyw e ddim yn y Bil. Ac mae hwnna’n destun rhyfeddod, dwi’n credu, ac mae’n mynd i fod yn golled enfawr os yw’r drafodaeth am addysg Gymraeg yn mynd i symud i sut rŷch chi’n dysgu Cymraeg fel pwnc. Ac nid dyna yw e. Mae’n rhaid dysgu Cymraeg fel cyfrwng mewn ysgolion Cymraeg yn bendant, ond fwyfwy mewn ysgolion Saesneg.
Un gwendid arall sy’n codi o hwnna yn y Bil yw nad oes un categori yn y Bil yn diffinio beth yw ysgol Gymraeg. Mae yna ysgol prif iaith Cymraeg yn y Bil, ond gallai hwnna fod yn ysgol ddwyieithog, yn ysgol lle mae 51 y cant o’r dysgu trwy’r Gymraeg, neu 51 y cant o’r myfyrwyr mewn ysgol. Addysg Gymraeg, yn draddodiadol, yw ysgol lle mae 100 y cant o’r disgyblion yn derbyn o gwmpas 80 y cant o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid i hwnna fod yn y Bil os yw’r Bil i fod yn berthnasol. Yng Ngwlad y Basg, dŷn nhw ddim wedi dileu categori D, sef ysgolion Basgeg, am ryw resymau rhyfedd, ond rŷn ni fan hyn yn bwriadu dileu categori ysgolion Cymraeg o’r Bil, a dwi’n ffeindio hwnna yn eithaf anghredadwy.
Felly, dau beth buaswn i eisiau dweud. Un: mae'n rhaid cael categori ysgol Gymraeg yn y Bil fel pedwerydd categori, neu addasu categori 3. A hefyd, mae’n rhaid i ni wedyn addasu’r diffiniad o 'addysg Gymraeg' i fod yr hyn rŷn ni’n draddodiadol yn ei feddwl wrth addysg Gymraeg, nid darpariaeth Gymraeg, fel sydd yn y rhan fwyaf o’r Bil. Os yw’r Bil am ddilyn gweddill trafodaeth addysg y Llywodraeth yma dros 20 mlynedd, mae’n rhaid sôn am dwf addysg Gymraeg. Does dim sôn am dwf addysg Gymraeg yn benodol yn y Bil. Does dim sôn yma, er enghraifft, am faint o ysgolion cynradd newydd sy'n cael eu sefydlu a faint ohonyn nhw ddylai fod yn ysgolion Cymraeg. Mae yna le i ddadlau dylai bob un fod yn Gymraeg, os ydych chi o ddifrif eisiau cynyddu nifer y disgyblion sydd yn gallu siarad Cymraeg. Felly, dyna'r ddau beth dwi'n ofni sydd ddim yn y fframwaith, a buaswn i'n dymuno'n fawr i hwnna newid, ond mae hwnna'n golygu wedyn ein bod ni'n newid llawer iawn o eiriad y Bil, bron o'r dechrau i'r diwedd, o ran categoreiddio ysgolion a hefyd diffinio beth yw addysg Gymraeg. Diolch.