Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 3
- Geiriau a lefarwyd
- 202
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu i gyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i’w datgan, plis? Dwi ddim yn gweld bod, felly gwnawn ni symud yn syth ymlaen.
2. Papurau i'w nodi
Yr unig beth sydd gyda ni i’w wneud yn gyhoeddus y bore yma ydy ein bod ni’n nodi nifer o bapurau dŷn ni wedi eu cael, a dŷn ni eisiau nodi’r rhain ar y cofnod yn gyhoeddus. Efallai bydd rhai aelodau o’r cyhoedd sydd wedi ysgrifennu atom ni a rhai mudiadau yn ymwybodol ein bod ni’n mynd i ystyried eu papurau a byddwn i eisiau i chi fod yn ymwybodol y byddwn ni yn eu hystyried nhw yn breifat hefyd. Ond ydy’r Aelodau’n fodlon i nodi’r rhain, neu oedd unrhyw un eisiau dweud unrhyw beth ar y record? Yn fodlon nodi. Ocê. Felly, eto ar gyfer unrhyw un sydd yn gwylio, byddwn ni yn mynd ymlaen i drafod y rhain.