Economy, Trade, and Rural Affairs Committee
- Dechrau
- 09:28
- Cyfraniadau
- 234
- Geiriau a lefarwyd
- 20,133
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:28.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso, bawb, i’r cyfarfod hwn o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd. A gaf i groesawu Hannah Blythyn i’w chyfarfod ffurfiol cyntaf ar y pwyllgor hwn? Mae Hannah yn cymryd lle Vikki Howells, a ymddiswyddodd o’i haelodaeth o’r pwyllgor ar ôl iddi gael ei phenodi’n Weinidog. Dwi wedi derbyn ymddiheuriadau gan Hannah ar gyfer eitem 4 ac ymlaen, a bydd Lee Waters yn dirprwyo ar ei rhan. Dwi hefyd wedi derbyn ymddiheuriadau wrth Hefin David, a fydd dim dirprwy ar ei ran ef. Oes yna unrhyw fuddiannau hoffai Aelodau eu datgan o gwbl? Na.
2. Papurau i'w nodi
Symudwn ni ymlaen, felly, i eitem 2, sef papurau i’w nodi. Mae yna nifer o bapurau i’w nodi. Dwi ddim yn mynd i fynd drwyddyn nhw i gyd, ond a gaf i nodi un papur, sef papur 2.8, sef y llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â’r cyd-ddatganiad pysgodfeydd? Mae’r llythyr yn gofyn i ni fel pwyllgor ymateb neu wneud rhyw argymhellion erbyn 29 Tachwedd. Ydych chi i gyd yn hapus inni ysgrifennu i'r Ysgrifennydd Cabinet a gofyn am farn gyffredinol y Llywodraeth ynglŷn â hyn, a hefyd i ysgrifennu i randdeiliaid a gofyn iddyn nhw am eu barn? Gallwn ni wedyn ymateb i'r llythyr hwn. Ydych chi i gyd yn hapus i wneud hynny? Ie. Dyna ni.