Ie. Wel, gan ategu'r pwynt cyntaf wnes i ynglŷn â chefnogaeth gyffredinol frwd i'r Bil, rŷn ni'n teimlo nad yw'r eglurder yna'n bodoli yn y Bil fel y mae. Dyw'r Bil ar hyn o bryd ddim yn datgan yn glir a yw addysg drydyddol yn dod yng nghwmpas y fframwaith cenedlaethol neu beidio, ac, wrth addysg drydyddol, dwi'n diffinio hynny yn y modd y mae'n cael ei ddiffinio yn Neddf 2022, yn cynnwys prifysgolion, colegau, chweched dosbarth mewn ysgolion, darparwyr prentisiaethau, dysgu gydol oes. Mae modd darllen y Bil fel y mae ar hyn o bryd y naill ffordd neu'r llall. Mae yna gyfeiriadau anuniongyrchol at addysg drydyddol mewn perthynas ag annog dilyniant mewn perthynas â dysgu Cymraeg, ond dyw hynny ddim yn sicrhau eglurder.
Rŷn ni'n teimlo bod yna newidiadau weddol syml y gellid eu gwneud er mwyn sicrhau'r eglurder yma, ac mae'r coleg yn gryf o'r farn bod angen i'r Bil ddatgan bod y fframwaith cenedlaethol yn cwmpasu addysg drydyddol. Rŷn ni'n deall mai dyna yw'r bwriad polisi. Mae addysg drydyddol yn allweddol gan mai dyna'r bont rhwng y cyfnod statudol a'r gweithle. Felly, mae yna eglurder ar ysgolion gyfnod statudol, mae yna eglurder ar sgiliau iaith i'r gweithle; does yna ddim eglurder ar hyn o bryd ar ran y sector drydyddol.
Rŷn ni'n teimlo y byddai datganiad clir a diamwys fel hyn yn gwneud sawl peth. Byddai fe'n galluogi cynllunio llwybrau dilyniant clir yn lleol, yn genedlaethol, ac ar draws meysydd ac ar draws sectorau. Byddai fe'n sicrhau hefyd bod y Gymraeg yn cael yr un statws a'r un lefel o ddifrifoldeb yn y sector drydyddol ag y mae'n cael yn y sector statudol. Mae hwnna'n hanfodol, am y rheswm dwi eisoes wedi'i nodi ynglŷn â'r sector drydyddol yn pontio diwedd cyfnod yr addysg statudol a phobl yn mynd i mewn i fyd gwaith. Mi fyddai fe hefyd yn sicrhau eglurder llawn ar rolau gwahanol gyrff, ac yn sicr sut mae'r Bil yn perthnasu i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ac i Medr yn benodol. Mae eisiau amlinellu hwnna'n gliriach, rŷn ni'n teimlo.
O beidio â sicrhau'r eglurder yna, mae yna botensial am ddiffyg eglurder, ac mae hwnna'n rhywbeth ynglŷn â rôl yr athrofa, rôl y coleg, rôl Medr ac yn y blaen, ac mae'n werth nodi bod tystiolaeth ysgrifenedig gan Medr, gan Estyn, gan ColegauCymru, gan yr Athro Gwenno Ffrancon, yn ogystal â'r coleg—ac mae Dona wedi cyfeirio, a'r ganolfan hefyd, at bwysigrwydd hyn—yn nodi'r angen am fwy o eglurder ar y mater yna. Rŷn ni'n teimlo y byddai hwn yn cryfhau'r Bil yn sylweddol, achos rŷn ni'n deall mai'r bwriad ydy bod addysg drydyddol oddi fewn i'r cwmpas.
Un peth syml y gellid ei gwneud yn Rhan 4 y Bil ydy ehangu'r diffiniad o addysg Gymraeg, sydd wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd i addysg mewn ysgol i ddisgyblion o oedran gorfodol. Byddai ei ymestyn e i gynnwys addysg drydyddol yn ffordd gymharol syml o sicrhau’r eglurder yma mewn perthynas â’r fframwaith cenedlaethol. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddem ni'n gofyn i gael ei ystyried wrth symud ymlaen.