Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:35
- Cyfraniadau
- 229
- Geiriau a lefarwyd
- 15,563
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:35.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn ar fore oer, i gyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelod buddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Hefin David a dŷn ni'n croesawu Huw Irranca-Davies yn ei le—croeso gyda ni, Huw.
2. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi
Fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Mae gennym ni sesiwn dystiolaeth y bore yma gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidogion gyflwyno'u hunain a hefyd eu officials ar gyfer y record.