Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:59
- Cyfraniadau
- 434
- Geiriau a lefarwyd
- 28,021
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:59.
3. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da i chi i gyd. Croeso ar fore dydd Mercher i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae hwn yn gyfarfod, wrth gwrs, sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac mae Delyth Jewell yn ymuno â ni o bell y bore yma. Ar wahân i addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, wrth gwrs, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu yn fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod y Trafodion, wrth gwrs, yn cael ei gyhoeddi, fel sydd yn digwydd bob tro. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Cyn bwrw iddi, gaf i ofyn a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Dyna ni, diolch yn fawr iawn.
4. Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ocê, yr eitem nesaf, felly, yw sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a byddwn ni'n rhoi sylw, yn amlwg, i rai o'r meysydd polisi allweddol oddi mewn i bortffolio yr Ysgrifennydd Cabinet. Felly, croeso cynnes i Huw Irranca-Davies atom ni. Hefyd yn ymuno ag ef y mae Gian Marco Currado, sy'n gyfarwyddwr materion gwledig yn Llywodraeth Cymru, a Claire Bennett, sy'n gyfarwyddwr newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol yn y Llywodraeth.