Finance Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 61
- Geiriau a lefarwyd
- 7,226
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Cyllid. Mae'n dda eich gweld chi y bore yma. Mae'r cyfarfod yma'n cael ei ddarlledu'n fyw ar Senedd.tv, a bydd yr holl drafodion ar gael i'w cyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'r cyfarfod yma'n ddwyieithog ac mae cyfieithu ar y pryd ar gael. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Peter Fox a Rhianon Passmore, a dwi'n falch o groesawu Altaf Hussain ar ran Peter ac Alun Davies ar ran Rhianon Passmore. Diolch yn fawr iawn i chi am wneud yr amser i ddod y bore yma ac ymgymryd â'r gwaith. Felly, dwi jest eisiau gofyn a oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Os oes yna unrhyw beth yn codi yn ystod y cyfarfod, fedrwch chi wneud hynny yr adeg hynny hefyd. Dyna ni.
2. Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 5
Felly, fe wnawn ni symud ymlaen i eitem 2.