Ydy. Mae diffyg staff yn un o'r heriau traddodiadol, ac mae yna adnoddau ar gael nawr i benodi staff. Mae yna rai heriau ynglŷn â'u recriwtio nhw. Y newyddion da yw, ym mwyafrif llethol yr achosion, fod colegau wedi llwyddo i ddod o hyd i bobl gymwys. Felly, mae'r gwaith o drawsnewid y gweithlu yn allweddol. Mae hefyd i'w groesawu bod y cynlluniau ar gyfer hyfforddi a chymhwyso'r gweithlu addysg bellach wedi cael eu hadolygu yn ddiweddar, a nawr mae yna le i'r Gymraeg oddi mewn i'r strwythyr hyfforddiant yna, wrth symud ymlaen, fel bod unrhyw un sy'n hyfforddi yn cael y Gymraeg yn rhan o'r hyfforddiant yna.
Mae yna heriau eraill hefyd, achos hyd yn oed bod yna addysgwyr sydd yn dymuno defnyddio'r Gymraeg oddi mewn i'w profiadau, a hyd yn oed os oes yna staff, mae yna heriau gyda chymwysterau, yn draddodiadol. Y newyddion da yn fan hyn yw bod adolygiad Sharron Lusher, a gynhaliwyd y llynedd, wedi nodi pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw gymwysterau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru yn ystyried y Gymraeg, yn cael eu darparu yn llawn ac yn ystyrlon yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg, o'r cychwyn cyntaf. Mae hwnna'n mynd i gymryd amser achos bod yna gymaint o gymwysterau gwahanol, wrth gwrs. Felly, mae yna ystod o heriau.
Yr hyn dwi'n ei groesawu ydy sut mae sefydliadau, colegau—mae Dafydd yma bore yma—ColegauCymru, mae'r penaethiaid wedi ymrwymo i'r agenda yma, a phan fydd y comisiwn newydd yn gofyn am gynlluniau ac yn gosod targedau ar golegau, bydd hwnna'n digwydd mewn cyd-destun lle maen nhw eisoes wedi dod yn rhan fwy ystyrlon o'r cynllunio a'r cydweithio strategol.
Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod yna bartneriaeth strategol rhwng y coleg a Chymwysterau Cymru; mae yna gyfarfodydd rheolaidd gyda nhw. Cawsom ni ddigwyddiad yn yr Eisteddfod llynedd, gyda'r Gweinidog addysg ar y pryd—ac roedd Dafydd yn rhan o'r digwyddiad yna—i ddangos rhai o'r llwyddiannau, rhai o'r enghreifftiau o beth sydd wedi cael ei gyflawni.
A beth sydd i'w groesawu hefyd yw bod nifer o'r colegau—. Mi oedd pennaeth Coleg Penybont yn defnyddio'r term 'game changer' i ddisgrifio y newidiadau sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf o ran dod â'r Gymraeg i mewn i sector lle, yn draddodiadol, Saesneg ydy'r iaith sydd wedi bod yn cael ei defnyddio bron yn gyfan gwbl yn y cyd-destunau hyn, ac mae newid y diwylliant yna, fel roedd Dafydd yn ei ddweud, yn enwedig mewn rhannau o Gymru, yn mynd i fod yn broses heriol ond allweddol, byddwn i'n meddwl, yn y degawdau nesaf, os ydyn ni o ddifrif ynglŷn ag ehangu'r defnydd o'r Gymraeg.