Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:33
- Cyfraniadau
- 383
- Geiriau a lefarwyd
- 33,475
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:33.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da i chi i gyd, a chroeso i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r pwyllgor. Mae hwn yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac mi fydd yna rai tystion a rhai aelodau o'r pwyllgor yn ymuno â ni o bell. Ac ar wahân i'r addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae'r eitemau cyhoeddus sydd yn rhan o'r cyfarfod yma wrth gwrs yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae e'n gyfarfod dwyieithog, felly mae croeso i chi gyfrannu ym mha bynnag iaith, ac mae yna ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Gaf i ofyn i gychwyn a oes unrhyw un ag unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Dyna ni. Iawn.
2. Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS): sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr ffermio
Ymlaen a ni, felly, i gychwyn ar y gwaith. Y bore yma, mi fyddwn ni'n cynnal sesiynau tystiolaeth yn ymwneud â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, o'r safbwynt, wrth gwrs, y maen nhw'n berthnasol i gylch gwaith, neu gylch gorchwyl, y pwyllgor yma. Dwi'n croesawu'n gynnes iawn y panel cyntaf, sy'n gynrychiolwyr o'r sector amaethyddol: Aled Jones, llywydd NFU Cymru—croeso, Aled; Rachel Lewis-Davies, cynghorydd cenedlaethol yr amgylchedd a defnydd tir gydag NFU Cymru; Gareth Parry, dirprwy bennaeth polisi, Undeb Amaethwyr Cymru; ac Elin Jenkins, sy'n swyddog polisi gydag Undeb Amaethwyr Cymru hefyd. Ac yn ymuno â ni arlein mae George Dunn, prif weithredwr Cymdeithas y Ffermwyr Tenant. Croeso i'r pump ohonoch chi. Mae gennym ni rhyw awr a chwarter ar gyfer y sesiwn gyntaf yma. Felly, awn ni'n syth i gwestiynau, ac fe wnaf i wahodd Janet Finch-Saunders i gychwyn y sesiwn.