Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 150
- Geiriau a lefarwyd
- 10,687
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da ichi i gyd a chroeso i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Mae croeso cynnes i bob un i'r cyfarfod. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Ond, fel mae'n digwydd heddiw, mae pawb yn bresennol yn yr ystafell, felly mae hynny'n gwneud ychydig o wahaniaeth. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma, wrth gwrs, yn cael eu darlledu ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae e'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar gael, wrth gwrs, o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ond, cyn inni fynd ymhellach, gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelod unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes; dyna ni. Diolch yn fawr iawn.
2. Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Ocê, wel ymlaen â ni, felly, at brif ffocws y cyfarfod heddiw, sef ein craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Dwi eisiau estyn croeso i gadeirydd y comisiwn, Dr David Clubb, a hefyd i Dr Jenifer Baxter, sy'n ddirprwy gadeirydd y comisiwn. Croeso i'r ddau ohonoch chi, a diolch hefyd am yr adroddiad blynyddol, wrth gwrs, sydd wedi cael ei gyhoeddi ac wedi ein cynorthwyo ni i baratoi ar gyfer y craffu y bore yma.