Wel, gaf i ddelio â'r disgrifiad o'r sefyllfa, i ddechrau? Mae hwnna, dwi'n credu, yn un cyfarwydd, a dwi ddim yn credu bod adroddiad y panel yn dweud dim byd dŷn ni heb ei glywed o'r blaen. Byddwn i'n cyfeirio at waith Ofcom yn y maes, sydd wedi bod yn tracio y sefyllfa ers rai blynyddoedd. Hefyd, roedd yna adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn ddiweddar a oedd, os unrhyw beth, yn fwy manwl yn ei ddadansoddiad. Ac un peth, wrth gwrs: mae llawer o'r gwendidau pwysicaf yn y darlun yna o fyd y cyfryngau yng Nghymru yn perthyn i brint ac i sefydliadau sydd ddim yn dod o dan reolaeth unrhyw reoleiddiwr na llywodraeth, ac mae'n bwysig cofio hynny. Hynny yw, dyw'r dirywiad yn y defnydd o bapurau newydd a phrint ddim yn rhywbeth sydd o fewn gallu unrhyw sefydliad i'w newid. Y farchnad sydd yn penderfynu hynny, a dwi ddim yn siŵr a oes yna ddigon o sylweddoliad o hynny.
Eto, i fi, mae'r drafodaeth a gychwynnodd Ofcom gyda eu hastudiaeth nhw, 'Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr', rhoddodd fod i'r Mesur darlledu, dyna sydd yn mynd i'r afael â'r gwir heriau. O ran datrysiadau, dydw i ddim yn siŵr am rai o—. Wrth gwrs, rŷm ni'n greadur o statud. Hynny yw, beth bynnag mae cynrychiolwyr etholedig yn penderfynu, dyna fyddwn ni'n ei wneud, ac yn hynny o beth, nid ein lle ni yw dadlau o blaid y naill beth na'r llall. Wrth gwrs, oni bai bod gwleidyddion yn San Steffan yn newid eu barn, does yna ddim newidiadau. Ond un o'r cwestiynau yn fy meddwl i ynghylch argymhellion y panel yw eu bod nhw'n dweud y byddai sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, a dwi'n dyfynnu yn fan hyn, yn
'cryfhau rheoleiddio ac atebolrwydd ac yn dod â’r atebolrwydd hwnnw’n nes at adref.'
Mae'n rhaid i fi gyfaddef, dydw i ddim yn deall hynny o gwbl. Hynny yw, yn y lle cyntaf, fydd yna ddim newidiadau rheoleiddiol. Oni bai bod deddfwriaeth gynradd yn San Steffan yn newid, mi fydd y rheoleiddio i ni fel corff, i'r BBC, i ITV, Channel 4, Channel 5, y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyd, yn parhau yn San Steffan. Felly, fyddai creu awdurdod cysgodol, hyd yn oed awdurdod parhaol, ddim yn newid dim lle mae rheoleiddio yn y cwestiwn.
A'r ail agwedd ohono fe byddwn i am sylwi arno fe yw beth mae e'n dweud am atebolrwydd. Dwi ddim yn credu byddai creu panel, awdurdod, neu beth bynnag rŷch chi eisiau ei alw e, o bobl wedi eu hapwyntio gan Lywodraeth, yn ychwanegu dim at ein hatebolrwydd ni nac unrhyw un o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill. Atebolrwydd, i fi, yw'r hyn rŷn ni'n ei wneud y foment hon. Mae atebolrwydd yn gorfod bod, yn fy marn i, i Aelodau etholedig. Rŷch chi yma fel Aelodau etholedig mewn sefyllfa i herio, i gwestiynu, ac i wneud hynny ar ran eich etholwyr. Dyna sut mae atebolrwydd yn digwydd. Dyw e ddim yn digwydd i gyrff sydd yn cael eu henwebu, a felly dwi ddim yn gwybod beth fydd tynged hwn yn y pen draw, a fydd yna newidiadau, ond dwi'n credu bod yna lawer iawn mwy o waith fyddai'n gorfod cael ei wneud i gael set o argymhellion oedd yn gwneud synnwyr. Hynny yw, cymerwn ni Channel 4, er enghraifft. Mae Channel 4, oherwydd rheoleiddio Ofcom, yn gorfod gwario canran o'u harian a lleoli canran o'u cynnwys nhw (1) y tu allan i Lundain, a (2) y tu allan i Loegr. Dyna sydd yn golygu bod hyn a hyn o gynnwys Channel 4 yn cael ei leoli yng Nghymru. Nawr, dyw Channel 4 ddim yn mynd i fod yn atebol i unrhyw un heblaw'r rheoleiddiwr yn y Deyrnas Unedig, boed e'n Ofcom neu yn gorff a fyddai'n cymryd lle Ofcom. Sut y gallai unrhyw gorff yng Nghymru orfodi darlledwr Teyrnas Unedig i leoli eu cynnwys nhw yng Nghymru? Dwi ddim yn deall. Dwi'n credu bod yna gagendor yn argymhellion y panel sydd ddim yn esbonio sut y byddai hwn yn digwydd.
Felly, tra ein bod ni yn y sefyllfa rŷn ni ar hyn o bryd, bydd y trefniadau presennol yn parhau. A jest i orffen ar y pwynt yna o atebolrwydd—hynny yw, dwi'n falch iawn ein bod ni yma heddiw, hyd yn oed pan fo cwestiynau anodd yn cael eu gofyn mewn pwyllgorau o'r math yma, boed nhw yn fan hyn neu yn San Steffan—ein dyletswydd ni yw dod, a dwi'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yma, fel mae e wedi gwneud dros y blynyddoedd, yn cymryd diddordeb mawr yn y byd darlledu. A dwi'n hynod o falch i weld—. Dwi'n gwybod bod yr Arglwydd Grade a chyfeillion eraill o Ofcom yn dod ac yn ein dilyn ni y bore yma, ond roeddwn i'n falch iawn o weld bod y Gweinidog, John Whittingdale, wedi derbyn eich gwahoddiad chi i ddod, a'r darlledwyr i gyd. A dyna beth mae atebolrwydd yng Nghymru yn ei olygu i fi. Ac os, yn y dyfodol, bydd gan y Senedd ragor o Aelodau a ragor o adnoddau, fel bod hi'n bosibl gwneud hyd yn oed yn fwy o sgrwtineiddio, byddwn i'n sicr yn croesawu hynny.