Business Committee
- Dechrau
- 09:05
- Cyfraniadau
- 120
- Geiriau a lefarwyd
- 7,916
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 09:05.
6. Diwygio'r Senedd
Croeso, bawb, i'r cyfarfod cyhoeddus yma nawr o'r Pwyllgor Busnes. Rŷn ni wedi cytuno i gwrdd mewn sesiwn gyhoeddus i edrych ar ymateb y Pwyllgor Busnes i bedwar o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn yr adroddiad 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru'.
Y pedwar mater y byddwn ni'n edrych arnynt y bore yma yw maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd sy'n fwy; nifer y dirprwy lywyddion mewn Senedd sy'n fwy; nifer y comisiynwyr yn y Senedd mewn Senedd sy'n fwy; a hefyd y bedwaredd eitem fydd a ddylid bod canlyniadau pe bai Aelod etholedig yn newid ei blaid wleidyddol neu ei grŵp rhwng etholiadau, os yw'r Senedd yn cael ei hethol ar sail system rhestr gaeedig. Felly, a ddylai hynny fod yn creu canlyniad i'r Aelod hynny.
Os ŷch chi'n cofio, fe wnaeth y Pwyllgor Busnes ofyn am dystiolaeth a barn yn gyhoeddus a gan y grwpiau ac Aelodau fan hyn yn y Senedd, a gan Gomisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae'r ymatebion hynny i gyd wedi dod i mewn ac wedi cael eu cyhoeddi; maen nhw'n rhan o'ch papurau chi ar gyfer heddiw hefyd. Felly, maen nhw yna i bawb i weld. Felly, fe fyddwn ni'n edrych ar yr ymatebion hynny yn ogystal, wrth gwrs, â thrafod ein barn ni fel Pwyllgor Busnes ar yr eitemau hynny. Wedyn, wrth gwrs, ar ddiwedd hyn oll, fe fyddwn ni'n creu rhyw fath o adroddiad neu lythyr a fydd yn mynd mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru ar y materion yma ar gyfer eu gwaith nhw wedyn yn parhau i lunio a datblygu'r Bil ar ddiwygio'r Senedd i'r dyfodol.
Felly, fe awn ni nawr yn gyntaf at y cyntaf o'r eitemau yma, sef maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd sydd yn fwy.