Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:32
- Cyfraniadau
- 329
- Geiriau a lefarwyd
- 22,797
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 9:32.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, a chroeso i chi i gyd i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Croeso cynnes i Aelodau i'r cyfarfod. Mae'r cyfarfod yma yn cael ei gynnal ar ffurf hybrid, felly, mae yna rai Aelodau yma gyda ni yn yr ystafell, ac eraill yn ymuno yn rhithiol. Ar wahân i'r addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion ar ffurf hybrid, mae'r holl ofynion eraill o safbwynt y Rheolau Sefydlog yn parhau.
Mae'r eitemau cyhoeddus, wrth gwrs, yn y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod y Trafodion hefyd yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae hwn yn gyfarfod dwyieithog, ac mae yna gyfieithu ar y pryd, felly, ar gael o Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd yna larwm tân yn canu, yna mi ddylai Aelodau a thystion sydd yma gyda ni yn yr adeilad adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn y cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff. Dŷn ni ddim yn disgwyl ymarferiad heddiw, felly'n amlwg, os ydyw e'n digwydd, mae'n rhaid i ni ei gymryd ef o ddifrif. Gaf i ofyn i Aelodau sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau symudol wedi'u distewi? Gaf i ofyn hefyd a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Diolch yn fawr iawn.